Warsaw
Math | dinas gyda grymoedd powiat, dinas, sedd y llywodraeth, dinas fawr, cyrchfan i dwristiaid, y ddinas fwyaf, endid tiriogaethol gweinyddol, metropolis, national capital |
---|---|
Poblogaeth | 1,860,281 |
Pennaeth llywodraeth | Rafał Trzaskowski |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Berlin, Den Haag, Taipei, Düsseldorf, Hamamatsu, Île-de-France, Toronto, Istanbul, Tel Aviv, Harbin, Kyiv, Saint-Étienne, Chicago, Seoul, Rio de Janeiro, Grozny, Vilnius, Hanoi, Fienna, Astana, Riga, Budapest, Oslo, Kharkiv, Zagreb, Sofia, Buenos Aires, Athen, Madrid, San Diego, Lviv, Solna Municipality, Odesa, Coventry, Tbilisi |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Pwyleg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Masovian Voivodeship |
Gwlad | Gwlad Pwyl |
Arwynebedd | 517 km² |
Uwch y môr | 118 metr |
Gerllaw | Afon Vistula |
Yn ffinio gyda | Sir Warsaw West, Sir Pruszków, Sir Piaseczno, Sir Otwock, Sir Mińsk, Sir Wołomin, Sir Legionowo |
Cyfesurynnau | 52.23°N 21.0111°E |
Cod post | 00-000 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Warsaw |
Pennaeth y Llywodraeth | Rafał Trzaskowski |
Warsaw, neu Warszawa, (Pwyleg: Warszawa) yw prifddinas Gwlad Pwyl. Saif ar lan ddwyreiniol Afon Vistula, tua 370 km o arfordir y Môr Baltig a mynyddoedd y Carpatiau fel ei gilydd. Amcangyfrifir bod ganddi boblogaeth o tua 1,726,581 (2014).
Hanes
[golygu | golygu cod]Erbyn dechrau'r Oesoedd Canol roedd casgliad o drigfeydd ar lan Afon Vistula wedi tyfu'n dref ac yna'n ddinas erbyn y 15g. Cyhoeddwyd Warsaw yn brifddinas y wlad yn 1611. Dioddefodd gyfnod dilewyrch ar ôl hynny ond erbyn y 18g roedd yn ddinas lewyrchus eto.
Cafodd ei meddiannu gan Rwsia yn 1794 ac yn ddiweddarach gan Ffrainc dan Napoleon, a Phrwsia yn ogystal. Chwaraeodd ran bwysig yn yr ymgyrch dros annibyniaeth i Wlad Pwyl yn y 19g. Ar ôl cael ei meddiannu gan yr Almaenwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf daeth yn brifddinas y wlad unwaith yn rhagor yn 1918 pan enillodd y wlad ei hannibyniaeth.
Dioddefodd y ddinas yn enbyd yn yr Ail Ryfel Byd pan y meddiannwyd gan y Natsïaid. Un o agweddau gwaethaf y rhyfel yn Warsaw oedd creu'r geto i'r Iddewon gan y Natsïaid (1940). Gorfodwyd 400,000 o Iddewon i fynd i fyw yn Geto Warsaw. Dim ond tua 100,000 oedd wedi goroesi erbyn Chwefror 1943. Bu gwrthryfel ganddynt ar y strydoedd ond fe'u gorchfygwyd gan y Natsïaid a chafodd y goroeswyr i gyd eu rhoi i farwolaeth.
Ar ddiwedd y rhyfel roedd y ddinas wedi'i dinistrio yn llwyr bron. Aethpwyd ati yn y 1950au i atgyfodi'r hen ddinas ac ail-greu rhai o'r adeiladau hanesyddol a gollwyd. Mae'r ddinas wedi tyfu'n sylweddol ers hynny ac erbyn heddiw mae Warsaw yn ddinas fywiog ac yn ganolfan ddiwylliannol, fasnachol a chyfathrebol y wlad.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Colofn Zygmunt
- Eglwys gadeiriol Sant Ioan
- Królikarnia
- Palas Czapski
- Palas Diwylliant
- Palas Krasiński
- Palas Wilanów
- Theatr Mawr
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Marie Curie (1867-1934), ffisegydd
- Samuel Goldwyn (c.1879-1974), cyfarwyddwr ffilm
- Jarosław Kaczyński (g. 1949), gwleidydd
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]Cyffredinol
[golygu | golygu cod]- Warsaw ar Wikimapia
- Gwefan swyddogol dinas Warsaw Archifwyd 2007-11-16 yn y Peiriant Wayback
- Map o'r ddinas (Pwyleg) Archifwyd 2011-01-28 yn y Peiriant Wayback
- Panorama o ganol y ddinas
- Crafwyr awyr Warsaw
- Gwrthryfel Warsaw 1944
- Castell Brenhinol Archifwyd 2010-12-13 yn y Peiriant Wayback
- Palas Wilanów
Orielau
[golygu | golygu cod]- Google Maps: Warsaw
- Golygfeydd
- 360° golygfeydd o ganol y ddinas Archifwyd 2006-09-01 yn y Peiriant Wayback
- Lluniau hanesyddol o Geto Warsaw yn 1943
Warsaw · Kraków · Łódź · Wrocław · Poznań · Gdańsk · Szczecin · Bydgoszcz · Lublin · Katowice · Białystok · Gdynia · Częstochowa · Radom · Sosnowiec · Toruń · Kielce · Gliwice · Rzeszów · Zabrze · Olsztyn · Bytom · Bielsko-Biała · Ruda Śląska · Rybnik · Tychy · Dąbrowa Górnicza · Gorzów Wielkopolski · Płock · Elbląg · Opole · Wałbrzych · Zielona Góra · Włocławek · Tarnów · Chorzów · Koszalin · Kalisz · Legnica ·