Twrci
Türkiye Cumhuriyeti | |
Arwyddair | Heddwch gartref, heddwch yn y byd |
---|---|
Math | Gwlad |
Prifddinas | Ankara |
Poblogaeth | 85,372,377 |
Sefydlwyd | |
Anthem | İstiklâl Marşı |
Pennaeth llywodraeth | Recep Tayyip Erdoğan |
Cylchfa amser | UTC+03:00, Europe/Istanbul, Asia/Istanbul |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Tyrceg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Balcanau, De-orllewin Asia, Y Dwyrain Canol, Mediterranean Basin, Black Sea Basin, Ewrasia |
Gwlad | Twrci |
Arwynebedd | 783,562 km² |
Gerllaw | Y Môr Canoldir, Y Môr Du, Môr Aegeaidd, Môr y Lefant |
Yn ffinio gyda | Gwlad Groeg, Bwlgaria, Syria, Irac, Armenia, Iran, Georgia, Aserbaijan, Y Cynghrair Arabaidd, yr Undeb Ewropeaidd |
Cyfesurynnau | 39°N 36°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Twrci |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Cenedlaethol Mawr Twrci |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Twrci |
Pennaeth y wladwriaeth | Recep Tayyip Erdoğan |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Twrci |
Pennaeth y Llywodraeth | Recep Tayyip Erdoğan |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $819,034 million, $905,988 million |
Arian | Lira Twrcaidd |
Canran y diwaith | 9 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 2.07 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.838 |
- Pwnc yr erthygl hon yw'r wlad ar lan ddwyreiniol y Môr Canoldir. Gweler Twrci (aderyn) am wybodaeth ar yr aderyn.
Gweriniaeth yn Ewrop ac Asia yw Gweriniaeth Twrci neu Twrci (Twrceg: Türkiye Cumhuriyeti, Cwrdeg: Komara Tirkiyê). Cyn 1922 yr oedd y wlad yn gartref i Ymerodraeth yr Otomaniaid. Mae Twrci wedi'i lleoli rhwng y Môr Du a Môr y Canoldir. Y gwledydd cyfagos yw Georgia, Armenia, Aserbaijan ac Iran i'r dwyrain, Irac a Syria i'r de a Gwlad Groeg a Bwlgaria i'r gorllewin. Poblogaeth Twrci, yn ôl y cyfrfiad diwethaf oedd 85,372,377 (31 Rhagfyr 2023)[1]. Ankara yw prifddinas y wlad.
Roedd yr ardal a adnabyddir fel Twrci heddiw yn un o ranbarthau cynharafa mwyaf sefydlog y byd, wedi cartrefu safleoedd Oes Newydd y Cerrig (Neolithig) pwysig fel Göbekli Tepe, ac roedd gwareiddiadau hynafol fel yr Hattiaid, pobloedd Anatolaidd eraill a Groegiaid Mycenaeaidd yn byw ynddo.[2][3][4][5] Goresgynnodd Alecsander Fawr yr ardal, cyfnod a ystyrir fel dechrau'r cyfnod Helenistaidd, mae'r rhan fwyaf o'r rhanbarthau hynafol yn Nhwrci fodern o'r diwylliant hwn, a oedd yn parhau yn ystod y cyfnod Bysantaidd.[3][6] Dechreuodd y Twrciaid Seljuk fudo yn yr 11g, a bu Sultaniaeth Rum yn rheoli Anatolia tan oresgyniad y Mongol ym 1243, pan holltodd yn nifer o dywysogaethau Twrcaidd bychan.[7]
Mae Twrci yn bwer rhanbarthol ac yn wlad sydd newydd ei diwydiannu,[8] gyda lleoliad strategol geopolitaidd.[9] Disgrifir ei heconomi fel un sy'n dod i'r amlwg ac sy'n arwain twf, a hi yw'r ugeinfed fwyaf yn y byd yn ôl CMC enwol, a'r 11fed mwyaf gan PPP. Mae'n aelod siarter o'r Cenhedloedd Unedig, yn aelod cynnar o NATO, yr IMF, a Banc y Byd, ac yn aelod sefydlol o'r OECD, OSCE, BSEC, OIC, a'r G20. Ar ôl dod yn un o aelodau cynnar Cyngor Ewrop ym 1950, daeth Twrci yn aelod cyswllt o'r EEC ym 1963, ymunodd ag Undeb Tollau'r UE ym 1995, a dechrau trafodaethau derbyn gyda'r Undeb Ewropeaidd yn 2005.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Prif: Daearyddiaeth Twrci
Mae Twrci yn wlad drawsgyfandirol sy'n pontio De-ddwyrain Ewrop a Gorllewin Asia, gyda Thwrci Asiaidd yn cynnwys 97 y cant o diriogaeth y wlad, ac wedi'i wahanu oddi wrth Dwrci Ewropeaidd gan y Bosphorus, Môr Marmara, a'r Dardanelles. Dim ond 3 y cant o diriogaeth y wlad yw Twrci Ewropeaidd.[10] Mae Twrci'n cwmpasu ardal o 783,562 cilometr sgwâr (302,535 mi sg),[11][12] Mae'r wlad wedi'i hamgylchynu gan foroedd ar dair ochr: y Môr Aegeaidd i'r gorllewin, y Môr Du i'r gogledd a Môr y Canoldir i'r de. Mae Twrci hefyd yn cynnwys Môr Marmara yn y gogledd-orllewin.[13]
Rhennir Twrci yn saith rhanbarth daearyddol: Marmara, Aegean, Môr Du, Anatolia Canolog, Dwyrain Anatolia, De-ddwyrain Anatolia a rhanbarth Môr y Canoldir. Mae tir anwastad gogledd Anatolia sy'n rhedeg ar hyd y Môr Du yn debyg i wregys hir, cul. Mae'r rhanbarth hwn yn cynnwys oddeutu un rhan o chwech o gyfanswm arwynebedd tir Twrci. Fel tuedd gyffredinol, mae'r llwyfandir Anatolian mewndirol yn dod yn fwyfwy garw wrth iddo fynd i'r dwyrain.[13]
Bioamrywiaeth
[golygu | golygu cod]Mae ecosystem a chynefinoedd anghyffredin Twrci wedi cynhyrchu cryn amrywiaeth o rywogaethau.[14] Anatolia yw mamwlad llawer o blanhigion sydd wedi cael eu tyfu ar gyfer bwyd ers dyfodiad amaethyddiaeth, ac mae cyndeidiau gwyllt llawer o blanhigion sydd bellach yn darparu bwyd ar gyfer y ddynoliaeth yn dal i dyfu yn Nhwrci. Credir bod ffawna Twrci hyd yn oed yn fwy nag amrywiaeth ei fflora. Mae nifer y rhywogaethau anifeiliaid yn Ewrop gyfan oddeutu 60,000, tra yn Nhwrci mae dros 80,000 (dros 100,000 yn cyfrif yr isrywogaeth).[15]
Ceir 40 parc cenedlaethol, 189 parc natur, 31 ardal gwarchod natur, 80 ardal amddiffyn bywyd gwyllt a 109 heneb natur yn Nhwrci fel Parc Cenedlaethol Hanesyddol Penrhyn Gallipoli, Parc Cenedlaethol Mynydd Nemrut, Parc Cenedlaethol Hynafol Troy, Parc Natur Ölüdeniz a Pharc Natur Polonezköy.[16] Yn yr 21g mae bygythiadau i fioamrywiaeth yn cynnwys tiroedd yn troi'n anialwch oherwydd newid hinsawdd yn Nhwrci.[17]
Mae'r llewpard Anatolian i'w gael o hyd mewn niferoedd bach iawn yn rhanbarthau gogledd-ddwyreiniol a de-ddwyreiniol Twrci.[18][19] Mae'r lyncs Ewrasiaidd a'r gath wyllt Ewropeaidd i'w cael ar hyn o bryd yng nghoedwigoedd Twrci. Roedd y teigr Caspia, sydd bellach wedi diflannu, yn byw yn rhanbarthau mwyaf dwyreiniol Twrci tan hanner olaf yr 20g.[18][20]
Hinsawdd
[golygu | golygu cod]Mae gan ardaloedd arfordirol Twrci sy'n ffinio â Moroedd Aegean a Môr y Canoldir hinsawdd dymherus Môr y Canoldir, gyda hafau poeth, sych a gaeafau ysgafn i oer, gwlyb.[21] Mae'r ardaloedd arfordirol sy'n ffinio â'r Môr Du yn cael hinsawdd dymherus gefnforol gyda hafau gwlyb cynnes a gaeafau cŵl-oer a gwlyb.[21] Arfordir Môr Du Twrci sy'n derbyn y swm mwyaf o wlybaniaeth a dyma'r unig ranbarth o Dwrci sy'n derbyn dyodiad uchel trwy gydol y flwyddyn.[21] Mae rhan ddwyreiniol yr arfordir hwnnw yn derbyn cyfartaledd o 2,200 mm (87 modfedd) yn flynyddol sef y dyodiad uchaf yn y wlad. Mewn cymhariaeth, mae'r ardal yng Nghymru sy'n derbyn y cyfartaledd uchaf o law mewn blwyddyn (y Grib Goch) yn derbyn 4,473 mm (176 modfedd).[21][22]
Mae'r ardaloedd arfordirol ffinio â'r Môr Marmara, sy'n cysylltu Môr Aegean a'r Môr Du, yn cael hinsawdd trosiannol rhwng hinsawdd dymherus y Canoldir a hinsawdd gefnforol dymherus gyda hafau cynnes i boeth, cymedrol sych a gaeafau gwlyb, oer.[21] Disgyna'r eira ar ardaloedd arfordirol Môr Marmara a'r Môr Du bron bob gaeaf, ond fel rheol mae'n dadmer ychydig ddyddiau.[21] Fodd bynnag, mae eira'n brin yn ardaloedd arfordirol Môr Aegean ac yn brin iawn yn ardaloedd arfordirol Môr y Canoldir.[21]
Mae Twrci yn ymestyn ar draws dau gyfandir. Yn Asia y mae'r darn mwyaf, Anatolia, sy'n ffurfio tua 97% o arwynebedd y wlad (tua 760.000 km²). Y 3% arall yw'r rhan sydd yn Ewrop, dwyrain Thracia (23.623 km²).
Mynyddoedd uchaf Twrci
[golygu | golygu cod]- Mynydd Ararat (Büyük Ağrı Dağı) – 5.137 m
- Buzul Dağı – 4.135 m
- Süphan Dağı – 4.058 m
- Ararat Lleiaf (Küçük Ağrı Dağı) – 3.896 m
- Kaçkar Dağı – 3.932 m
- Erciyes Dağı – 3.891 m
Afonydd pwysicaf
[golygu | golygu cod]- Kızılırmak – 1.355 km
- Ewffrates
- Sakarya
- Murat a Karasu, sy'n uno i ffrifio'r Ewffrates
- Dicle (Tigris)
Llynnoedd
[golygu | golygu cod]- Van Gölü – 3.713 km²
- Tuz Gölü – 1.500 km² (Salzsee)
- Beyşehir Gölü – 656 km²
- Eğridir Gölü – 468 km²
- Akşehir Gölü – 353 km²
- İznik Gölü – 298 km²
Ynysoedd
[golygu | golygu cod]- Gökçeada – 279 km²
- Marmara Adası – 117 km²
- Bozcaada – 36 km²
- Uzunada – 25 km²
- Alibey – 23 km²
Demograffeg
[golygu | golygu cod]Y boblogaeth hanesyddol | ||
---|---|---|
Blwyddyn | Pobl. | ±% |
1927 | 13,554,000 | — |
1930 | 14,440,000 | +6.5% |
1940 | 17,728,000 | +22.8% |
1950 | 20,807,000 | +17.4% |
1960 | 27,506,000 | +32.2% |
1970 | 35,321,000 | +28.4% |
1980 | 44,439,000 | +25.8% |
1990 | 55,120,000 | +24.0% |
2000 | 64,252,000 | +16.6% |
2010 | 73,142,000 | +13.8% |
2019 | 82,579,000 | +12.9% |
Yn ôl System Cofnodi Poblogaeth Seiliedig ar Gyfeiriadau Twrci, poblogaeth y wlad oedd 74.7 miliwn o bobl yn 2011,[24] bron i dri chwarter ohonynt yn byw mewn trefi a dinasoedd. Yn ôl amcangyfrif 2011, mae'r boblogaeth yn cynyddu 1.35% bob blwyddyn. Dwysedd poblogaeth cyfartalog y wlad yw tua 97 o bobl fesul km². Mae pobl o fewn y grŵp oedran 15-64 yn cyfrif am 67.4% o gyfanswm y boblogaeth ac mae'r grŵp oedran 0-14 yn cyfateb i 25.3%; tra bod henoed 65 oed neu'n hŷn yn cyfrif am 7.3%.[25]
Mae Erthygl 66 o Gyfansoddiad Twrci yn diffinio "Twrc" fel "unrhyw un sy'n rhwym i wladwriaeth Twrci trwy ddinasyddiaeth"; felly, mae'r defnydd cyfreithiol o'r term "Twrceg" fel dinesydd Twrci'n wahanol i'r diffiniad ethnig.[26] Fodd bynnag, mae tua 70 i 80 y cant o ddinasyddion y wlad yn Dwrciaid ethnig.[27] Amcangyfrifir bod o leiaf 47 o grwpiau ethnig yn cael eu cynrychioli yn Nhwrci.[28] Nid oes data dibynadwy ar gymysgedd ethnig y boblogaeth ar gael, oherwydd nid yw ffigurau cyfrifiad Twrci yn cynnwys ystadegau ar ethnigrwydd.[29]
Hanes
[golygu | golygu cod]- Prif erthygl: Hanes Twrci
Mae gan Dwrci hanes hir a chyfoethog iawn. Mae'r wlad a elwir Twrci heddiw wedi gweld sawl cenedl ac ymerodraeth yn ei meddiannu neu yn ei phreswylio.
Yn y mileniau cyn Crist bu'n gartref i ymerodraeth yr Hitiaid. Ceir tystiolaeth bod rhai o lwythi'r Celtiaid wedi treulio amser yn Asia Leiaf hefyd. Yna daeth y Groegiaid i wladychu ardaloedd eang ar arfordiroedd y Môr Canoldir, Môr Aegea a'r Môr Du. O blith y dinasoedd enwog a sefydlwyd ganddynt gellid enwi Caergystennin, Caerdroea, Effesus, Pergamon a Halicarnassus.
Rheolwyd y wlad gan yr Ymerodraeth Bersiaidd am gyfnod yn ystod y rhyfela a gwrthdaro rhwng Persia a gwladwriaethau annibynnol Gwlad Groeg, dan arweinyddiaeth Athen. Gwelwyd Alecsander Fawr yn teithio trwyddi ar ei ffordd i orchfygu Babilon, Tyrus, y Lefant ac Asia. O'r 2g CC ymlaen daeth yn raddol i feddiant y Rhufeiniaid a chreuwyd talaith Asia ganddynt ac ychwanegwyd at gyfoeth ac ysblander yr hen ddinasoedd Groegaidd.
Am fil o flynyddoedd bron bu'r Ymerodraeth Fysantaidd yn dwyn mantell Rhufain yn Asia Leiaf a'r Dwyrain Canol ond ildio tir fu ei hanes; yn gyntaf rhag Persia, wedyn yr Arabiaid Mwslemaidd ac yn olaf y Tyrciaid eu hunain. Yn y diwedd dim ond Caergystennin ei hun oedd yn aros, er gwaethaf (neu efallai oherwydd) sawl Croesgad aneffeithiol o Ewrop.
Gan ddechrau ar ddiwedd y 13g, unodd yr Otomaniaid y tywysogaethau a goresgyn y Balcanau, a chynyddodd y broses o Dwrceiddio Anatolia yn ystod y cyfnod Otomanaidd. Ar ôl i Mehmed II orchfygu Caergystennin (bellach 'Istanbul') ym 1453, parhaodd yr ehangu Otomanaidd o dan Selim I. Yn ystod teyrnasiad Suleiman y Godidog (neu Swleiman I), daeth yr Ymerodraeth Otomanaidd yn bwer byd -eang.[2][31][32] Cwympodd Caergystennin yn y flwyddyn 1453; trobwynt mawr yn hanes y Gorllewin a'r Dwyrain fel ei gilydd. O hynny ymlaen am dros bedair canrif roedd Constantinople yn brifddinas Ymerodraeth yr Otomaniaid a ymestynnai o'r ffin ag Iran yn y dwyrain i ganolbarth Ewrop a pyrth Budapest a Vienna yn y gorllewin, ac o lannau'r Môr Du yn y gogledd i arfordir Gogledd Affrica.
O ddiwedd y 18g ymlaen, dirywiodd pŵer yr ymerodraeth gyda cholli tiriogaethau'n raddol.[33] Dechreuodd Mahmud II gyfnod o foderneiddio ar ddechrau'r 19g.[34] Cyfyngodd Chwyldro'r Twrc Ifanc yn 1908 awdurdod y Swltan ac adfer Senedd yr Otomaniaid ar ôl ataliad o 30 mlynedd, a chafwyd cyfnod aml-bleidiol.[35][36] Rhoddodd coup d'état 1913 y wlad dan reolaeth y Tri Pashas, a oedd wrth y llyw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, fel rhan o'r Pwerau Canolog (neu'r 'Ymerodraeth Ganolog) ym 1914. Yn ystod y rhyfel, cyflawnodd llywodraeth yr Otomaniaid hil-laddiad yn erbyn yr Armeniaid, yr Assyriaidd a'r Groegiaid Pontig.[37] Ar ôl cael ei threchu yn y rhyfel, rhannwyd yr Ymerodraeth Otomanaidd.[38] Diddymwyd y Swltaniaeth ar 1 Tachwedd 1922, llofnodwyd Cytundeb Lausanne ar 24 Gorffennaf 1923 a chyhoeddwyd Gweriniaeth ar 29 Hydref 1923. Gyda'r diwygiadau a gychwynnwyd gan arlywydd cyntaf y wlad, Mustafa Kemal Atatürk, daeth Twrci yn weriniaeth seciwlar, unedol a seneddol. Chwaraeodd ran amlwg yn Rhyfel Corea ac ymunodd â NATO ym 1952. Dioddefodd y wlad sawl <i>coup</i> milwrol yn hanner olaf yr 20g. Yna, cafwyd twf economaidd cryfach a sefydlogrwydd gwleidyddol. Disodlwyd y weriniaeth seneddol â system arlywyddol gan refferendwm yn 2017. Ers hynny, mae system lywodraethol newydd Twrci o dan yr arlywydd Recep Tayyip Erdoğan a'i blaid, yr AKP, wedi cael ei disgrifio'n aml fel un Islamaidd ac awdurdodol.[39][40][41]
Yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf, pan ochrodd Twrci â'r Almaen, cafwyd chwyldro yn Nhwrci a sefydlwyd gweriniaeth seciwlar gan Atatürk, "Tad y Twrci fodern". Symleiddiwyd yr iaith a throes y wlad ei golygon tua'r gorllewin. Erbyn heddiw mae Twrci yn aelod o NATO ac yn gobeithio ymuno a'r Undeb Ewropeaidd fel aelod llawn ohoni.
Iaith a diwylliant
[golygu | golygu cod]Twrceg yw prif iaith y wlad a siaredir gan bawb, ond yn y dwyrain ceir nifer o siaradwyr Cwrdeg a rhyw faint o siaradwyr Arabeg yn y de-ddwyrain yn ogystal.
Ieithoedd
[golygu | golygu cod]Yr iaith swyddogol yw Twrceg, un o'r ieithoedd Tyrcig.[42][43] Fe'i siaredir gan 85.54% o'r boblogaeth fel iaith gyntaf.[44] 11.97% o'r boblogaeth yn siarad tafodiaith Cwrdeg Kurmanji fel eu mamiaith.[44] Arabeg a Zaza yw mamiaith 2.39% o'r boblogaeth.[44] Siaredir Megleno-Rwmaneg hefyd.[45]
Ymhlith yr ieithoedd sydd mewn perygl yn Nhwrci mae Abaza, Abkhaz, Adyghe, Groeg Cappadocian, Gagauz, Hértevin, Homshetsma, Kabard-Cherkes, Ladino (Judesmo), Laz, Mlahso, Groeg Pontic, Romani, Suret, Turoyo, Ubykh, ac Armenieg Gorllewinol.[46]
Economi
[golygu | golygu cod]Mae Twrci yn wlad sydd newydd ei diwydiannu, gydag economi incwm canolig-uwch, a'r ugeinfed fwyaf yn y byd yn ôl CMC enwol, a'r 11fed gan Paredd gallu prynu (PPP). Yn ôl amcangyfrifon Banc y Byd, roedd CMC y pen Twrci gan PPP yn 2021 yn $32,278, ac roedd tua 11.7% o Dwrciaid mewn perygl o dlodi ariannol neu dlodi-cymdeithasol yn 2019.[47] Roedd diweithdra yn Nhwrci yn 13.6% yn 2019,[48] a chododd y boblogaeth dosbarth canol yn Nhwrci o 18% i 41% rhwng 1993 a 2010 yn ôl Banc y Byd.[49] Mae cronfeydd tramor y wlad yn werth $51 biliwn.[50] Arweiniodd Undeb Tollau’r UE-Twrci ym 1995 at ryddfrydoli cyfraddau tariff yn helaeth, ac mae bellach yn ffurfio un o golofnau pwysicaf polisi masnach dramor Twrci.[51]
Mae'r diwydiant modurol yn Nhwrci yn sylweddol, gan gynhyrchu dros 1.3 miliwn o gerbydau yn 2015, gan eu rhestru fel y 14eg cynhyrchydd cerbydau mwyaf yn y byd.[52] Ceir iardiau llongau eitha modern, lle caiff tanceri cemegol ac olew eu cynhyrchu.[53] Mae brandiau Twrcaidd fel Beko a Vestel ymhlith y cynhyrchwyr electroneg ac offer cartref mwyaf yn Ewrop, ac maent yn buddsoddi swm sylweddol o arian ar gyfer ymchwil a datblygu mewn technolegau newydd sy'n gysylltiedig â'r meysydd hyn.[54][55][56]
Sector allweddol eraill o fewn economi Twrci yw bancio, adeiladu, offer cartref, electroneg, tecstilau, mireinio olew, cynhyrchion petrocemegol, bwyd, mwyngloddio, haearn a dur, a diwydiant peiriannau. Fodd bynnag, mae amaethyddiaeth yn dal i gyflogi 25% o'r gweithlu.[57]
Twristiaeth
[golygu | golygu cod]Mae twristiaeth yn Nhwrci wedi cynyddu bron bob blwyddyn yn yr 21g,[58] ac mae'n rhan bwysig o'r economi. Twrci yw un o ddeg cyrchfan orau'r byd o ran nifer y twristiaid, gyda'r ganran uchaf o ymwelwyr tramor yn cyrraedd o Ewrop; yn arbennig yr Almaen a Rwsia yn ystod y blynyddoedd diwethaf.[58] Yn 2019, roedd Twrci yn chweched yn y byd o ran nifer y twristiaid rhyngwladol a oedd yn cyrraedd, gyda 51.2 miliwn o dwristiaid tramor yn ymweld â'r wlad.[59] Mae gan Dwrci 19 o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, ac 84 o Safleoedd Treftadaeth y Byd ar y rhestr safleoedd bregus.
Iechyd
[golygu | golygu cod]Mae'r Weinyddiaeth Iechyd wedi rhedeg system gofal iechyd cyhoeddus gyffredinol er 2003.[60] Fe'i gelwir yn Yswiriant Iechyd Cyffredinol (Genel Sağlık Sigortası), mae'n cael ei ariannu gan ordaliad treth ar gyflogwyr, a oedd yn y 2020au tua 5%.[60] Mae cyllid y sector cyhoeddus oddeutu 75.2% o wariant ar iechyd.[60] Er gwaethaf y gofal iechyd cyffredinol, cyfanswm y gwariant ar iechyd fel cyfran o CMC yn 2018 oedd yr isaf ymhlith gwledydd yr OECD ar 6.3% o CMC, o'i gymharu â chyfartaledd yr OECD o 9.3%.[60]
Y disgwyliad oes ar gyfartaledd yw 78.6 mlynedd (75.9 ar gyfer dynion ac 81.3 ar gyfer menywod), o'i gymharu â chyfartaledd yr UE o 81 mlynedd.[60] Mae gan Dwrci un o'r cyfraddau gordewdra uchaf yn y byd, gyda bron i draean (29.5%) o'i phoblogaeth oedolion â gwerth mynegai màs y corff (BMI) sy'n 30 neu'n uwch.[61] Mae llygredd aer yn Nhwrci yn un o brif achosion marwolaethau cynnar.[62]
Mae yna lawer o ysbytai preifat yn y wlad, ac mae hi'n elwa o dwristiaeth feddygol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Daeth incwm twristiaeth iechydo dros $1B i Dwrci yn 2019. Ceir tua 60% o'r incwm o lawdriniaethau plastig a derbyniodd gyfanswm o 662,087 o dwristiaid wasanaeth yn y wlad yn yr un flwyddyn.[63]
Diwylliant
[golygu | golygu cod]Mae gan Dwrci ddiwylliant amrywiol iawn sy'n gyfuniad o wahanol elfennau o'r Tyrcig, Anatolian, Otomanaidd (a oedd ei hun yn barhad o ddiwylliannau Greco-Rufeinig ac Islamaidd) a diwylliant a thraddodiadau'r Gorllewin, a ddechreuodd gyda Gorllewinoli'r Ymerodraeth Otomanaidd. ac sy'n dal i barhau heddiw.[65][66] Dechreuodd y gymysgedd hon o ganlyniad i gyfarfyddiad y Twrciaid a'u diwylliant â diwylliant y bobloedd a oedd yn eu llwybr yn ystod eu hymfudiad o Ganol Asia i'r Gorllewin.[65][67] Mae diwylliant Twrcaidd yn ymdrech i fod yn wladwriaeth Orllewinol "fodern", tra'n parhau i gynnal gwerthoedd crefyddol a hanesyddol traddodiadol.[65]
Y celfyddydau gweledol
[golygu | golygu cod]Datblygodd paentio Twrcaidd yn weithredol gan ddechrau o ganol y 19g. Trefnwyd y gwersi paentio cyntaf yn yr hyn sydd bellach yn Brifysgol Dechnegol Istanbul (yr Ysgol Peirianneg Filwrol Imperial ar y pryd) ym 1793, at ddibenion technegol yn bennaf.[68]
Ar ddiwedd y 19g, roedd ffigwr dynol yn cael ei sefydlu fel astudiaeth o fewn paentio Twrcaidd, yn enwedig gydag Osman Hamdi Bey (1842–1910). Ymddangosodd Argraffiadaeth (Impressionism) yn nes ymlaen gyda Halil Pasha (c.1857–1939). Arlunwyr Twrcaidd pwysig eraill yn y 19g yw Ferik İbrahim Paşa (1815-1891), Osman Nuri Paşa (c.1839-1906), Şeker Ahmet Paşa (1841-1907), a Hoca Ali Riza (1864–1939).
Ymhlith y cerflunwyr Twrcaidd o fri rhyngwladol yn yr 20fed ganrif mae Ali Hadi Bara, Zühtü Müridoğlu, İlhan Koman, Kuzgun Acar ac Ali Teoman Germaner .
Ffurfiau nodedig o fewn celfyddyd Twrcaidd traddodiadol yw gwehyddu Carpedi a thapestri, gyda'u gwreiddiau yn y cyfnod cyn-Islamaidd. Yn ystod ei hanes hir, mae celf a chrefft gwehyddu carpedi a thapestrïau yn Nhwrci wedi integreiddio nifer o draddodiadau diwylliannol. Ar wahân i'r patrymau dylunio Tyrcig sy'n gyffredin, gellir canfod olion patrymau Persia a Bysantaidd hefyd. Mae tebygrwydd hefyd gyda'r patrymau a ddefnyddir mewn dyluniadau carpedi Armenaidd, Cawcasaidd a Chwrdaidd. Dylanwadodd dyfodiad Islam yng Nghanol Asia a datblygiad celf Islamaidd hefyd ar batrymau Tyrcig yn y cyfnod canoloesol. Mae hanes y dyluniadau, y motiffau a'r addurniadau a ddefnyddir mewn carpedi a thapestrïau Twrcaidd felly'n adlewyrchu hanes gwleidyddol ac ethnig y Twrciaid ac amrywiaeth ddiwylliannol Anatolia.[69]
Bwyd
[golygu | golygu cod]Treftadaeth bwyd Otomanaidd yw bwyd Twrcaidd i raddau helaeth. Ym mlynyddoedd cynnar y Weriniaeth, cyhoeddwyd ychydig o astudiaethau am seigiau Anatolaidd rhanbarthol ond nid oedd bwyd yn rhan helaeth o astudiaethau gwerin Twrcaidd tan yr 1980au, pan anogodd y diwydiant twristiaeth newydd wladwriaeth Twrci i noddi dau symposia bwyd. Roedd y papurau a gyflwynwyd yn y symposia yn cyflwyno hanes bwyd Twrcaidd ar "gontinwwm hanesyddol" a oedd yn dyddio'n ôl i darddiad Tyrcig yng Nghanol Asia ac yn parhau trwy'r cyfnodau Seljuk ac Otomanaidd.[72]
Roedd bwyd Twrcaidd wedi'i hen sefydlu erbyn canol y 1400au, sef dechrau teyrnasiad chwe chan mlynedd yr Ymerodraeth Otomanaidd. Daeth saladau iogwrt, pysgod mewn olew olewydd, siarbet a llysiau wedi'u stwffio a'u lapio yn eitha cyffredin. Defnyddiodd yr ymerodraeth ei llwybrau tir a dŵr i fewnforio cynhwysion egsotig o bob cwr o'r byd. Erbyn diwedd yr 16g, roedd gan y llys Otomanaidd dros 1,400 o gogyddion yn byw yn y llys, ac yn pasio deddfau yn rheoleiddio ffresni bwyd. Ers cwymp yr ymerodraeth yn y Rhyfel Byd Cyntaf (1914–1918) a sefydlu Gweriniaeth Twrci ym 1923, mae bwyd tramor fel saws hollandaise Ffrengig a bwyd cyflym y Gorllewin hefyd wedi gwneud eu ffordd i mewn i ddeiet modern Twrci.[73]
Gallery
[golygu | golygu cod]Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://data.tuik.gov.tr/Bulten/Index?p=Adrese-Dayali-Nufus-Kayit-Sistemi-Sonuclari-2023-49684&dil=1.
- ↑ 2.0 2.1 Howard, Douglas Arthur (2001). The History of Turkey. Greenwood Publishing Group. t. 43. ISBN 978-0-313-30708-9.
- ↑ 3.0 3.1 Sharon R. Steadman; Gregory McMahon (2011). The Oxford Handbook of Ancient Anatolia: (10,000–323 BC). Oxford University Press. tt. 3–11, 37. ISBN 978-0-19-537614-2. Cyrchwyd 23 Mawrth 2013.
- ↑ Casson, Lionel (1977). "The Thracians". The Metropolitan Museum of Art Bulletin 35 (1): 2–6. doi:10.2307/3258667. ISSN 0026-1521. JSTOR 3258667. https://www.metmuseum.org/pubs/bulletins/1/pdf/3258667.pdf.bannered.pdf. Adalwyd 2021-10-26.
- ↑ Edwards, Iorwerth Eiddon Stephen (1977). The Cambridge Ancient History (yn Saesneg). Cambridge University Press. tt. 184, 787. ISBN 978-0-521-08691-2.
- ↑ David Noel Freedman; Allen C. Myers; Astrid Biles Beck (2000). Eerdmans Dictionary of the Bible. Wm. B. Eerdmans Publishing. t. 61. ISBN 978-0-8028-2400-4. Cyrchwyd 24 Mawrth 2013.
- ↑ Mehmet Fuat Köprülü&Gary Leiser. The origins of the Ottoman Empire. t. 33.
- ↑ "QA-114, 22 November 2020, Statement of the Spokesperson of Ministry of Foreign Affairs, Mr. Hami Aksoy, in Response to a Question Regarding Turkey's Putting on the Record its Determination to Obtain a Fair Position Under the International Climate Change Regime in the G20 Leaders' Declaration".
- ↑ "The Political Economy of Regional Power: Turkey" (PDF). giga-hamburg.de. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2014-02-10. Cyrchwyd 18 Chwefror 2015.
- ↑ Metz, Helen Chapin, gol. (1996). "Geography". Turkey: A Country Study. Area handbook series (arg. fifth). Washington, DC: US GPO for the Federal Research Division of the Library of Congress. ISBN 978-0-8444-0864-4. LCCN 95049612.
- ↑ "UN Demographic Yearbook" (PDF). Cyrchwyd 1 Tachwedd 2010.
- ↑ US Library of Congress. "Geography of Turkey". US Library of Congress. Cyrchwyd 13 December 2006.
- ↑ 13.0 13.1 "Geography of Turkey". Turkish Ministry of Tourism. 2005. Cyrchwyd 13 December 2006.
- ↑ "Biodiversity in Turkey". 6 Mai 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 April 2016. Cyrchwyd 9 Awst 2014.
- ↑ "Turkey's flora and fauna". allaboutturkey.com. Cyrchwyd 12 Mehefin 2014.
- ↑ "Statistics". milliparklar.gov.tr. Ministry of Forest and Water – General Directorare of Nature Conservation and National Parks. Cyrchwyd 12 Mehefin 2014.
- ↑ Kazancı, Nizamettin; Kuzucuoğlu, Catherine (2019), Kuzucuoğlu, Catherine; Çiner, Attila; Kazancı, Nizamettin, eds., "Threats and Conservation of Landscapes in Turkey" (yn en), Landscapes and Landforms of Turkey, World Geomorphological Landscapes (Springer International Publishing): 603–632, doi:10.1007/978-3-030-03515-0_36, ISBN 978-3-030-03515-0
- ↑ 18.0 18.1 Can, O.E. (2004).
- ↑ "Diyarbakır'da öldürülen leopar İran Parsı çıktı". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Hydref 2016. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2015.
- ↑ Üstay, A.H. (1990).
- ↑ 21.0 21.1 21.2 21.3 21.4 21.5 21.6 "Climate of Turkey" (PDF). General Directorate of Meteorology. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 28 Mawrth 2014. Cyrchwyd 24 Ionawr 2014.
- ↑ Clark, Ross (28 Hydref 2006). "The wetter, the better". The Independent. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Ionawr 2012. Cyrchwyd 2 Medi 2009.
- ↑ Edgecomb, Diane; Ahmed, Mohammed M.A.; Özel, Çeto (2007). A fire in my heart: Kurdish tales. Westport, CT: Libraries Unlimited. t. xv. ISBN 978-1-59158-437-7.
The outlines of the map of Kurdistan were taken from two sources: first, a map produced by the CIA in 1992 depicting areas with a Kurdish majority [...]
- ↑ "The Results of Address Based Population Registration System, 2011". Turkish Statistical Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-04-10. Cyrchwyd 15 Chwefror 2012.
- ↑ Turkish Statistical Institute (2010). "Population statistics in 2009". Turkish Statistical Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-04. Cyrchwyd 28 Ionawr 2010.
- ↑ Bayir, Derya (22 April 2016). Minorities and Nationalism in Turkish Law (yn Saesneg). Routledge. tt. 144–145. ISBN 978-1-317-09579-8.
- ↑ "Toplumsal Yapı Araştırması 2006" (PDF). KONDA Research and Consultancy. 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 15 Chwefror 2017. Cyrchwyd 21 Chwefror 2015.
- ↑ Mutlu, Servet (1996). "Ethnic Kurds in Turkey: A Demographic Study". International Journal of Middle East Studies 28 (4): 517–541. doi:10.1017/S0020743800063819. https://archive.org/details/sim_international-journal-of-middle-east-studies_1996-11_28_4/page/517.
- ↑ Extra, Guus; Gorter, Durk (2001). The other languages of Europe: Demographic, Sociolinguistic and Educational Perspectives. Multilingual Matters. ISBN 978-1-85359-509-7.
- ↑ "Hattusha: the Hittite Capital". whc.unesco.org. Cyrchwyd 12 Mehefin 2014.
- ↑ Masters, Bruce (2013). The Arabs of the Ottoman Empire, 1516–1918: A Social and Cultural History (yn Saesneg). Cambridge University Press. ISBN 978-1-107-03363-4.
- ↑ Somel, Selcuk Aksin (2010). The A to Z of the Ottoman Empire (yn Saesneg). Scarecrow Press. ISBN 978-1-4617-3176-4.
- ↑ Marushiakova, Elena; Popov, Veselin Zakhariev; Popov, Veselin; Descartes), Centre de recherches tsiganes (Université René (2001). Gypsies in the Ottoman Empire: A Contribution to the History of the Balkans (yn Saesneg). Univ of Hertfordshire Press. ISBN 978-1-902806-02-0.
- ↑ Roderic.
- ↑ Zürcher, Erik Jan (2004). Turkey: A Modern History. London: I. B. Tauris. tt. 93–5.
- ↑ Shaw and Shaw, Stanford J. and Ezel Kural (1977). History of The Ottoman Empire and Modern Turkey Vol. II. Cambridge: Cambridge University Press. tt. 274–9, 282–7.
- ↑ Schaller, Dominik J.; Zimmerer, Jürgen (2008). "Late Ottoman genocides: the dissolution of the Ottoman Empire and Young Turkish population and extermination policies—introduction". Journal of Genocide Research 10 (1): 7–14. doi:10.1080/14623520801950820. ISSN 1462-3528.
- ↑ Roderic H. Davison; Review "From Paris to Sèvres: The Partition of the Ottoman Empire at the Peace Conference of 1919–1920" by Paul C. Helmreich in Slavic Review, Vol. 34, No. 1 (March 1975), pp. 186–187
- ↑ Peter S. Goodman (18 Awst 2018). "The West Hoped for Democracy in Turkey. Erdogan Had Other Ideas". The New York Times. Cyrchwyd 18 April 2021.
- ↑ "Recep Tayyip Erdogan: Turkey's pugnacious president". BBC News. 27 Hydref 2020. Cyrchwyd 18 April 2021.
- ↑ Steven A. Cook (21 Gorffennaf 2016). "How Erdogan Made Turkey Authoritarian Again". The Atlantic. Cyrchwyd 18 April 2021.
- ↑ Katzner, Kenneth (2002). Languages of the World, Third Edition. Routledge. ISBN 978-0-415-25004-7.
- ↑ "Turkey Overview". minorityrights.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Medi 2015.
- ↑ 44.0 44.1 44.2 "Türkiye'nin yüzde 85'i 'anadilim Türkçe' diyor". Milliyet.com.tr. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2012.
- ↑ Kahl, Thede (2006). "The Islamisation of the Meglen Vlachs (Megleno-Romanians): The Village of Nânti (Nótia) and the "Nântinets" in Present-Day Turkey". Nationalities Papers. 34 (1). tt. 71–90. doi:10.1080/00905990500504871.
- ↑ "Interactive Atlas of the World's Languages in Danger". UNESCO. Cyrchwyd 9 Awst 2014.
- ↑ "People at risk of poverty or social exclusion". ec.europa.eu. Eurostat. Cyrchwyd 27 December 2020.
- ↑ "Unemployment, total (% of total labor force) (national estimate) – Turkey | Data". data.worldbank.org. Cyrchwyd 14 April 2021.
- ↑ "New World Bank Report Looks at Turkey's Rise to the Threshold of High-Income Status and the Challenges Remaining". World Bank. 10 December 2014. Cyrchwyd 14 April 2021.
- ↑ "Turkey Foreign Exchange Reserves". CEIC. Cyrchwyd 14 April 2021.
- ↑ Bartolomiej Kaminski; Francis Ng (1 Mai 2006). "Turkey's evolving trade integration into Pan-European markets" (PDF). World Bank. t. 3. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 14 Mehefin 2007. Cyrchwyd 27 December 2006.
- ↑ "2015 Production Statistics". Organisation Internationale des Constructeurs d'Automobiles. Cyrchwyd 31 Awst 2016.
- ↑ "The Shipbuilding Industry in Turkey" (PDF). OECD. September 2011.
- ↑ "About Best-Selling Home Appliance Brand Beko UK". Cyrchwyd 9 Awst 2014.
- ↑ "Beko Avrupa'da üçüncülüğe oynuyor". Cyrchwyd 9 Awst 2014.
- ↑ "The Unknown TV Giant – Businessweek". Bloomberg.com. 9 Mehefin 2006. Cyrchwyd 9 Awst 2014.
- ↑ "Turkey: Agriculture and Rural Development" (PDF). Cyrchwyd 9 December 2011.
- ↑ 58.0 58.1 "Tourism Statistics" (PDF). Culture and tourism Ministry. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 11 April 2019. Cyrchwyd 27 Mawrth 2019.
- ↑ UNWTO Tourism Highlights: 2019 Edition | World Tourism Organization. 2019. doi:10.18111/9789284421152. ISBN 978-92-844-2115-2.
- ↑ 60.0 60.1 60.2 60.3 60.4 Atun, Rifat (1 Hydref 2020). "Transforming Turkey's Health System". The New England Journal of Medicine 373:14.
- ↑ "WHO Mean Body Mass Index (BMI)". World Health Organization. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.
- ↑ Akyuz, Ezgi; Samavati, Mehrdad; Kaynak, Burcak (14 Awst 2020). "Spatial distribution of health risks associated with PM2.5 in Turkey and Iran using satellite and ground observations". Atmospheric Pollution Research 11 (12): 2350–2360. doi:10.1016/j.apr.2020.08.011. ISSN 1309-1042. https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S1309104220302312.
- ↑ "Health tourism earns above $1B to Turkey in 2019, under spotlight with COVID-19". Daily Sabah. Daily Sabah. 20 Awst 2020. Cyrchwyd 8 April 2021.
- ↑ "UNESCO Intangible Cultural Heritage Lists". unesco.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 3 Gorffennaf 2014.
- ↑ 65.0 65.1 65.2 Ibrahim Kaya (2004). Social Theory and Later Modernities: The Turkish Experience. Liverpool University Press. tt. 57–58. ISBN 978-0-85323-898-0. Cyrchwyd 12 Mehefin 2013.
- ↑ Erhan Solmaz (2021). "How a Country Turkey? Cultural and Sociological Situation in Turkey". Simit Çay. Cyrchwyd 14 Ionawr 2021.
- ↑ Royal Academy of Arts (2005). "Turks – A Journey of a Thousand Years: 600–1600". Royal Academy of Arts. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Chwefror 2007. Cyrchwyd 12 December 2006.
- ↑ Antoinette Harri; Allison Ohta (1999). 10th International Congress of Turkish Art. Fondation Max Van Berchem. ISBN 978-2-05-101763-3.
The first military training institutions were the Imperial Army Engineering School (Mühendishane-i Berr-i Hümâyun, 1793) and the Imperial School of Military Sciences (Mekteb-i Ulûm-ı Harbiye-i Şahane, 1834). Both schools taught painting to enable cadets to produce topographic layouts and technical drawings to illustrate landscapes ...
- ↑ Brueggemann, Werner; Boehmer, Harald (1982). Teppiche der Bauern und Nomaden in Anatolien = Carpets of the Peasants and Nomads in Anatolia (arg. 1st). Munich: Verlag Kunst und Antiquitäten. tt. 34–39. ISBN 978-3-921811-20-7.
- ↑ "Turkish coffee culture and tradition". UNESCO. 5 December 2013. Cyrchwyd 18 Awst 2014.
- ↑ Çakır Morin, Arzu (5 December 2013). "Türk kahvesi Unesco korumasında". Hürriyet (yn Tyrceg). Istanbul. Cyrchwyd 18 Awst 2014.
- ↑ Claflin, Kyri W.; Scholliers, Peter (2013). Writing Food History: A Global Perspective. Berg. ISBN 978-0-85785-217-5.
- ↑ "Food in Turkey – Turkish Food, Turkish Cuisine". foodbycountry.com. Cyrchwyd 12 Awst 2014.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]Sefydliadau cyhoeddus
[golygu | golygu cod]- Gwasg a Gwybodaeth Archifwyd 2009-04-02 yn y Peiriant Wayback
- Sefydliad Ystadegau Twrci Archifwyd 2009-02-21 yn y Peiriant Wayback
- Banc Canolog Twrci Archifwyd 2008-12-18 yn y Peiriant Wayback
- Trysorlys Twrci Archifwyd 2008-05-13 yn y Peiriant Wayback
- Gwasanaethau Diogelwch Archifwyd 2006-08-23 yn y Peiriant Wayback
- Swyddfa Cynllunio'r Wladwriaeth Archifwyd 2008-12-20 yn y Peiriant Wayback
- Cyngor Ymchwil Dechnolegol a Gwyddonol Twrci Archifwyd 2007-02-12 yn y Peiriant Wayback
Proffeiliau
[golygu | golygu cod]- BBC - proffeil Twrci
- Ffeithlyfr y CIA Archifwyd 2016-05-27 yn y Peiriant Wayback
- Economist.com - Twrci
- Ystadegau ac economi
|
|