Brwsel
Math | ardal fetropolitan |
---|---|
Poblogaeth | 2,639,000, 3,350,969, 3,343,303 |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhanbarth Brwsel-Prifddinas, Brabant Fflandrysaidd, Brabant Walonaidd |
Gwlad | Gwlad Belg |
Uwch y môr | 13 metr |
Gerllaw | Camlas Brussels–Charleroi, Camlas Brussels–Scheldt Maritime, Senne |
Cyfesurynnau | 50.8467°N 4.3525°E |
Prifddinas Gwlad Belg yw Brwsel (Bruxelles yn Ffrangeg, Brussel yn Iseldireg). Mae'r dref yng nghanolbarth Gwlad Belg. Mae hi'n brifddinas Fflandrys, ac yn ganolfan ei hardal weinyddol ddwyieithog ei hun, "Rhanbarth Brwsel-Prifddinas", sef Dinas Brwsel (Bruxelles-Ville neu Ville de Bruxelles yn Ffrangeg, de Stad Brussel yn Iseldireg). O'r cyfan, mae 19 o fwrdeistrefi yn ardal Brwsel-Prifddinas.
Mae gan ardal Brwsel-Prifddinas yr un statws â Fflandrys a Walonia, ond mae hi wedi'i hamgylchynu gan Fflandrys.
Sefydlwyd llywodraeth a gweinyddiaeth ym Mrwsel ar ôl sefydlu Senedd Fflandrys (y 'Vlaamse Raad' y newidiwyd ei henw i 'Vlaams Parlement').
Lleolir pencadlysoedd dau o brif sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel, sef y Comisiwn Ewropeaidd a Chyngor Gweinidogion Ewrop. Ac er fod y Senedd Ewropeaidd yn cyfarfod yn Strasbwrg, cynhelir nifer o gyfarfodydd y Senedd, a rhai pwyllgorau, ym Mrwsel hefyd.
Mae pencadlysoedd NATO ac Undeb Gorllewin Ewrop (WEU) ym Mrwsel.
Siaredir Iseldireg yng ngogledd Gwlad Belg a Ffrangeg yn y de. Mae ardal Brwsel yn ddwyieithog yn swyddogol, ond mae mwyafrif ei thrigolion yn siarad Ffrangeg. Yn ôl astudiaeth a wnaed yn 2001 mae'r sefyllfa fel a ganlyn:
- 51% o boblogaeth Brwsel yn siarad Ffrangeg fel unig famiaith;
- 8.5% yn siarad Iseldireg fel unig famiaith;
- 10.2% yn ddwyieithog o oedran cynnar;
- 9.1% o siaradwyr uniaith yn dysgu'r iaith arall pan yn hŷn;
- 19.8% yn siarad Ffrangeg gydag iaith arall heblaw Iseldireg.
Bwrdeistrefi
[golygu | golygu cod]Y 19 bwrdeistref y Rhanbarth Brwsel-Prifddinas |
|
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Amgueddfa Magritte
- Arc du Cinquantenaire
- Grote Markt
- Manneken Pis
- Palais de Justice
- Stadiwm Brenin Baudouin
- Theatr La Monnaie
- Université libre de Bruxelles (prifysgol)
- Vrije Universiteit Brussel (prifysgol)
- Yr Atomium
Trafnidiaeth Cyhoeddus
[golygu | golygu cod]Mae'r MIVB (yn Ffrangeg y STIB) yn rhedeg bysiau, tramiau, cyn-metro a metro yn y ddinas. Mae'r NMBS (yn Ffrangeg yr SNCB) yn rhedeg trênau o'r ddinas i lleoedd arall. Yr Orsaf y De (Zuidstation neu Gare du Midi) yn ganolbwynt y rhwydwaith trafnidiaeth, mae trênau Eurostar a Thalys hefyd yn rhedeg o'r Orsaf y De, i Lundain, Amsterdam, Lille a Pharis.
Enwogion o Frwsel
[golygu | golygu cod]- Peyo (1928-1992), arlunydd
- Audrey Hepburn (1929-1993), actores
- François Weyergans (g. 1941), awdur
- Jacky Ickx (g. 1945), gyrrwr Fformiwla Un