Ecser
Math | bwrdeistref Hwngari, pentref mawr Hwngari |
---|---|
Poblogaeth | 4,092 |
Cylchfa amser | CET, UTC+01:00, UTC+2 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Vecsés District |
Gwlad | Hwngari |
Arwynebedd | 13.11 km² |
Yn ffinio gyda | Budapest |
Cyfesurynnau | 47.44437°N 19.32605°E |
Cod post | 2233 |
Mae Ecser yn bentref yn sir Pest yn Hwngari yn agos i Budapest.
Lleoliad
[golygu | golygu cod]Mae gan Ecser (yngenir ɛʧɛr) enw Slofaceg hefyd sef Ečer gan fod ganddi boblogaeth Slofacaidd fach. Mae hi wedi ei lleoli i dde-orllewin Budapest, yn agos i Faes Awyr Rhyngwladol Ferihegy. Yr aneddiadau cyfagos yw Malgód, Vecsés ac Üllő. Mae traffordd yr M0 yn arwain yn agos i'r bentref ac mae'r bentref wedi ei lleoli ar y rheilffordd 120a (Budapest-Újszász-Szolnok).
Hanes
[golygu | golygu cod]Daw'r cofnod ysgrifenedig cyntaf am fodolaeth y pentref o 15 Rhagfyr 1315, er roedd y pentref yn bodoli ers 896 pan gyrhaeddodd yr Hwngariaid. Yn ôl myth lleol, daw enw'r bentref o Frenin Mawr Árpád a aeth i'r anheddiad i orffwys, gan ofyn i'r bobl leol am enw'r lle. Pan na wnaeth y bobl leol ymateb dywedodd wrthynt i alw'r lle ar ôl y dderwen yn y pentref, cser.
Yn ystod trechedd y Twrciaid o 1526 i 1686, bu farw'r pentref, yn enwedig ar ôl gwarchae Buda. Ail-gyrhaeddodd y preswylwyr yn 1699. Yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Rákóczi, bu 11 milwr o Ecser yn ymladd.
I'w nodi
[golygu | golygu cod]- Yr unig gofadail yn y pentref yw'r Eglwys Gatholig o 1740.
- O'r bentref hon daw'r ddawns werin fyd-enwog Priodas yn Ecser (Ecseri lakodalmas)
- Ar darian y pentref gwelwyd yr eglwys, y ddawns werin, a'r dderwen, y tair argoel fwyaf pwysig i'r bentref.