Anfetel
Math | elfen gemegol, main group |
---|---|
Y gwrthwyneb | metal element |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Anfetel yw un fath o elfen gyda phriodweddau penodol. Maent yn elfennau gydag egnïon ïoneiddiad uchel, sy'n eu galluogi i ffurfio anïonau yn hawdd trwy ennill electronau ac yn arwain at fath o fondio a elwir yn fondio cofalent. Oherwydd y bondio yn yr elfennau hyn, mae ganddynt briodweddau cyffelyb a nodweddiadol. Maent yn bresennol mewn canrannau uwch na'r metelau ar y ddaear, er bo dros hanner yr elfennau naturiol yn fetelau. Ar y tabl cyfnodol mae'r anfetelau ar y dde gyda llinell igam-ogam yn eu gwahanu'r o'r metelau. Mae'r llinell yn rhedeg o foron i boloniwm, gyda'r elfennau o amgylch y llinell yn lled-fetelau.
Yr anfetelau yw'r Halogenau, Nwyon Nobl a'r elfennau canlynol yn nhrefn eu rhifau atomig:
Priodweddau
[golygu | golygu cod]Nid oes modd diffinio anfetel yn llym, gan fod priodweddau anfetelau'n amrywio'n fawr. Er hynny, mae yna nifer o dueddiadau cyffredinol y gellid defnyddio i ddiffinio anfetel - yn ffisegol ac yn gemegol.
Priodweddau ffisegol
[golygu | golygu cod]- Mae'r anfetelau yn solid a nwyon, gydag un hylif (bromin), ar dymheredd ystafell.
- Yn gyffredinol mae gan anfetelau ymdoddbwyntiau, berwbwyntiau a dwysedd îs. Mae'r mwyafrif o'r solidau yn bwl o ran eu golwg, gyda'i lliwiau yn amrywio.
Maent hefyd yn:
- Ynysyddion trydanol heblaw am rhai esiamplau prin fel graffit (alotrop o garbon) a ffosfforws du (alotrop o ffosfforws) sy'n dargludo oherwydd eu hadeiledd cyffelyb, anghyffredin.
- Ynysyddion thermol
- Deunyddiau brau, sy'n torri pan ceisir newid siâp yr elfennau solid.
Priodweddau cemegol
[golygu | golygu cod]Maent yn:
- Electronegatif iawn. Mae anfetelau yn ennill electronau yn hawdd i ffurfio anïonau, felly maent yn adweithio gyda rhai metelau i ffurfio cyfansoddion ïonig.
- Medru rhannu electronau gydag atomau anfetel arall i ffurfio bondiau cofalent, felly mae nifer o anfetelau yn ddeuatmoig.
- Ffurfio ocsidau asidig (lle mae metelau yn gyffredinol yn ffurfio ocsidau basig).