Ocsigen
Ocsigen
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Symbol | O | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhif | 8 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dwysedd | 1.429 kg m-3 |
Elfen gemegol yw ocsigen (hen air: ufelai) a ddynodir gan y symbol O a'r rhif atomig 8; mae'n perthyn i'r grŵp Chalcogen yn y tabl cyfnodol. Mae'n elfen gyffredin yn y Ddaear a'r atmosffêr a'r elfen mwyaf cyffredin o'i chrwst. Ar dymheredd a gwasgedd safonol (sef TGS), mae ar ffurf nwy, a gellir ei ddynodi gan fformiwla O2, sy'n angenrheidiol i resbiradaeth aerobig, ac felly i gynnal bywyd. Mae'r moleciwlau deuatomig yn ffurfio 21% o aer sych, ac yn rhan o nifer sylweddol o greigiau. Mae gan yr elfen alotrop arall, sef oson, O3, sy'n ffurfio haen naturiol yn y stratosffer (yr haen oson) wrth iddo gael ei ffurfio o ocsigen deuatomig o dan effaith golau uwchfioled cryf.
Mae'n elfen anfetel hynod o adweithiol ac yn ocsidydd sy'n ffurfio cyfansoddion cemegol gyda'r rhan fwyaf o elfennau'n hawdd.[1]
O ran mas, ocsigen yw'r trydydd elfen mwyaf cyffredin yn y bydysawd, yn dilyn hydrogen a heliwm.[2] Ar Dymheredd a Gwasgedd Safonol (TGS), mae dau atom o ocsigen yn bondio i ffurfio deuocsigen, nwy diatomig, di-liw, di-arogl a di-flas gyda'r fformiwla O2.
Gellir dweud fod ocsigen yn rhan hanfodol o'r atmosffer ac yn gwbwl hanfodol i gynnal bywyd gan ei fod yn rhan hanfodol o respiradaeth. Mae'n rhy adweithiol i fod yn elfen cwbwl rydd yn yr atmosffer a chaiff ei adnewyddu gan organebau byw drwy brosesau megis ffotosynthesis sy'n defnyddio golau'r haul i gynhyrchu ocsigen elfennol allan o ddŵr. Mae alatrop arall o ocsigen, sef oson yn amsugno pelydrau UVB ac o ganlyniad mae'r haen oson yn amddiffyn y bïosffer rhag pelydrau uwchfioled. Mae'r ocsigen atomig a geir ymhell uwchlaw'r ddaear yn gyfrifol am rydu awyrennau.[3] Mae ocsigen hefyd yn cael ei greu mewn diwydiant drwy ddistylliad rhanol o aer hylifol i gymryd yr ocsigen o'r aer. Defnyddir ocsigen elfennol (elemental oxygen) i gynhyrchu dur, plastig, weldio, tanwydd rocedi, ocsigen meddygol ac achubol o fewn awyrennau, llongau tanfor, Teithio i'r gofod ayb.
Tarddiad yr enwau
[golygu | golygu cod]Mae'r enw 'ocsigen' yn dod o'r enwau Groeg oxus (asid), a gennen (creawdwr). Ystyr y gair 'ufel' yw tân, a cheir y cofnod cyntaf ohono ym 1803.[4][5]
Hen enwau eraill Cymraeg ar ocsigen yw: 'bywydwy' a 'bywyr'.[6]
Darganfod yr elfen gemegol
[golygu | golygu cod]I'r fferyllydd Swedaidd Carl Wilhelm Scheele y perthyn y clod am 'ddarganfod' ocsigen; creodd yr elfen ar ffurf nwy drwy gynhesu mercwrig ocsid (HgO) a gwahanol nitradau yn Uppsala ym 1772.[7] Galwodd Scheele y nwy yn "aer ar dân" (sy'n egluro'r gair Cymraeg "ufelai") gan mai dyma'r unig nwy y gwyddai a oedd yn caniatáu ymlosgi. Ysgrifennodd gofnod o'r darganfyddiad hwn mewn dogfen a enwodd Erthygl ar Aer a Thân ym 1775. Ni chyhoeddwyd y papur, fodd bynnag tan 1777.[8]
Ar 1 Awst 1774 arbrofodd y clerigwr o Sais Joseph Priestley drwy ffocysu golau ar fercwrig ocsid (HgO) o fewn tiwb o wydr, a rhyddhaodd y nwy a enwodd yn "dephlogisticated air".[9] Sylwodd fod canhwyllau'n llosgi'n fwy gloyw a chryfach o fewn y nwy a bod llygoden yn tipyn mwy bywiog, ac yn byw'n hirach. Wedi iddo anadlu'r nwy ei hun, ysgrifennodd: "Teimlais fod fy mrest ychydig yn ysgafnach na'r arfer - a pharhaodd y teimlad hwn am ychydig wedyn." Cyhoeddodd Priestley ei ddarganfyddiadau yn 1775 mewn papur o'r enw "Cofnod o Ddarganfyddiadau Pellach mewn Aer" ac a gynhwyswyd yn ail gyfrol ei lyfr Experiments and Observations on Different Kinds of Air.[7][10] Gan mai dyddiad cyhoeddi gwybodaeth a ddefnyddir fynychaf fel llinyn mesur, barn llawer yw mai i Priestley y perthyn y clod am ddarganfod ocsigen.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "WebElements: the periodic table on the web – Oxygen: electronegativities". WebElements.com. Cyrchwyd 7 Tachwedd, 2011. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ Emsley 2001, tud.297
- ↑ "Atomic oxygen erosion". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-06-13. Cyrchwyd 8 Awst 2009. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; tud. 3698
- ↑ Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Cylchgronau Cymru Ar-lein. Adalwyd 23 Awst 2014.
- ↑ Gwefan www.https://library.kiwix.org/;[dolen farw] adalwyd 23 Awst 2014.
- ↑ 7.0 7.1 Priestley, Joseph (1775). "An Account of Further Discoveries in Air". Philosophical Transactions 65: 384–94. doi:10.1098/rstl.1775.0039.
- ↑ Emsley 2001, tud.300
- ↑ Cook & Lauer 1968, tud.500
- ↑ Priestley, Joseph (1775). "An Account of Further Discoveries in Air". Philosophical Transactions 65: 384–94. doi:10.1098/rstl.1775.0039.