Neidio i'r cynnwys

Wicipedia:Negesfwrdd gweinyddiaeth

Oddi ar Wicipedia

Croeso i'r Negesfwrdd Gweinyddiaeth - y lle i chi drafod gweinyddiaeth Wicipedia, yn Gymraeg neu Saesneg.

I ychwanegu cwestiwn, cliciwch yma i ddechrau pennawd newydd, a teipiwch eich neges. Cofiwch lofnodi'r neges drwy ychwanegu pedair tilde (~~~~) ar y diwedd.



What Wicipedia Is and What Wicipedia Is Not

[golygu cod]

With recent contributions from new users with misconceptions with what Wicipedia is about, I was thinking we could create a Nodyn for the sgwrs page of fluent speakers who have come here, and make well-meaning, but inappropriate contributions. This would save us having to block fluent speakers; and stop having long discussions about why their contributions are inappropriate, to which they get disallusioned, and then leave. Of course, if they igonored the Nodyn, they would be blocked. Paul-L 18:40, 17 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

If I may be so bold as to intrude in the admin area, Paul, I found your message in the Newidiadau diweddar, and have a suspicion that you are referring at least partly to me, although if so then I am flattered that you think that I'm a fluent speaker because if so then you are vastly overestimating. I'm assuming that the Nodyn is some kind of standardised note you send to people. Anyway, you may have noticed that I have already withdrawn my comments in "Y Caffi" because they were not well received - I was described as unwilling to listen, which may be a bit harsh as I did refrain from re-adding the removed content (although the very perceptive may notice that I made one comment that I almost immediately regretted and deleted - an unkind interpretation of somebody's username - and for that I certainly apologise). In any case I will be staying away from Welshness topics. I'm sure there are plenty of uncontroversial (if rather dry) subjects out there to write about as time permits. I hope this helps. Dweud y gwir 20:25, 17 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
The nodyn sounds good, Paul. Perhaphs something along the lines of "Helo [enw defnyddiwr]. Diolch yn fawr am eich cyfraniadau diweddar i'r erthygl [enw'r erthygl], ond yr oeddent yn amhriodol oherwydd [rheswm]. Yn y dyfodol, a ddefnyddiwch y tudalen sgwrs cyn gwneud newidiadau eraill i'r erthygl hon, os gwelwch yn dda. Pe anwybyddwch y nodyn hwn, mae'n bosibl y caiff eich cyfrif ei rwystro am gyfnod penodol neu am byth. Diolch am eich cydweithrediad." I believe I know how to go about creating such a nodyn, but someone else is more that welcome to create it (and use different wording). Also - Dweud y gwir - Mae "nodyn" ar y Wici 'ma yn cyd-fynd â "template" ar y Wiki Saesneg. Xxglennxx 00:41, 18 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
@Dweud y Gwir - Bu hefyd ychydig o gamddealltwriaeth ar erthygl arall (gweler Sgwrs:Myfanwy Davies os oes diddordeb).
It wasn't aimed at any user in particular, but we have had a few contributors in the past few months making inappropriate edits and then leaving/getting blocked. Paul-L 12:01, 19 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
@Glenn - Efallai does dim rhaid creu rhwybeth mor hirwyntog (jôc!), ond rhywbeth sy'n cyfeirio pobl at y dudalen Wicipedia:Pum Colofn a bod ni'n dechrau llenwi/cyfieithu'r dolenni cochion?--Ben Bore 08:44, 18 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Pfft! Ha :) Wel, beth os yr ydym yn creu nodyn â'r geiriau uchod, a gan gynnwys cyswllt i'r Pum Colofn. Beth am rywbeth fel, "Helo [enw defnyddiwr]. Diolch yn fawr am eich cyfraniadau diweddar i'r erthygl [enw'r erthygl], ond yr oeddent yn amhriodol oherwydd [rheswm]. Yn y dyfodol, a ddefnyddiwch y tudalen sgwrs cyn gwneud newidiadau eraill i'r erthygl hon, os gwelwch yn dda. Pe anwybyddwch y nodyn hwn, mae'n bosibl y caiff eich cyfrif ei rwystro am gyfnod penodol neu am byth. Am ragor o wybodaeth ymwelwch â Phum Colofn Wicipedia. Diolch am eich cydweithrediad." ???? Xxglennxx 15:56, 18 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Iawn, dwi wedi creu hwn. Croeso iti newid fe, ond o leiaf mai dechrau yw fe. Xxglennxx 16:14, 18 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Er gwybodaeth, dw i wedi dechrau ar y broses o gyfieithu'r erthygl Wicipedia:Anaddas ar gyfer Wicipedia (jest yn lle bod unrhyw un arall yn gwneud yr un peth heb sylweddoli fod yr erthgyl yn bodoli eisoes...) Pwyll 19:57, 18 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
I like the Pum Colofn link, but I was thinking more of a short new page based on en:WP:NOT that could be created and linked to, therefore giving new fluent contributors a quick guide to what Wikipedia is about (and not about), so they can make more appropriate contributions.
For the Nodyn you created, Xxglennxx, I would take out the section about potential blocking, and asking to use the sgwrs page, as that could deter fluent speakers. I would rephrase it as (altered from the translated version made by Google translate):
"Hello [enw defnyddiwr]. Thank you very much for your recent contributions to the article [enw'r erthygl], but these edits are considered inappropriate to Wicipedia because [rheswm]. Please visit Wicipedia:Pum Colofn and [[Wicipedia:What Wicipedia Is Not]] for further information about the aims and policies of Wicipedia. Thank you for your cooperation."
Paul-L 12:01, 19 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
What ever people want to do is fine by me :) Just a starting point is the Nodyn, so you're welcome to change it as you see fit. Xxglennxx 00:26, 20 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Fandaliaeth ar erthyglau

[golygu cod]

Fandaliaeth ar Llif olew a Michael Moore gan 86.23.97.247. Mae e/hi wedi creu Paedoffil hefyd. Mae gan yr erthygl enw anghywir (pedoffeil y dylai), ac does dim lot o gynnwys arno. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 00:13, 13 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Mae'r person yma wedi bod yn troi i fyny gyda'r un neges (Obama...) ers tua wythnos neu ragor. Poen yn y ***. Yn anffodus mae'n defnyddio cyfeiriad IP deinamig sy'n amrywio'n fawr a basai'n rhaid blocio rhai degau o filoedd o gyfeiriadau IP i fod yn effeithiol. Er hynny, dwi'n cael fy nhemtio...! [Nos da i ti, Glenn: un siec olaf oedd hyn cyn ei throi hi am y nos.] Anatiomaros 01:03, 13 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Mae newydd ddod i'r golwg eto fel 86.23.75.199. Efallai y byddai'n werth i rywun greu mymryn o erthygl ar Llif olew ac yna ei diogelu? Porius1 14:37, 13 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Diweddariad - rwyf wedi creu eginyn, a'i diogelu rhag golygwyr IP, ac erthygl Michael Moore hefyd. Porius1 14:56, 13 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Diolch, Porius. Ond mae gen i ofn bydd yn symud i erthygl arall. Byddai'n rhaid gosod bloc ar dros 30,000 cyfeiriad IP - defnyddwyr VirginMedia - iddo ddod yn agos at fod yn effeithiol ac hyd yn oed wedyn mae o wedi defnyddio rhai cyfeiriaidau sydd y tu allan i hynny. Mi fedra'i osod rhai llai o gwmpas y cyfeiriadau unigol - am gyfnod o fis er enghraifft - ond does dim sicrwydd y byddai'n gweithio ac mae'n dal i olygu 5-10,000 o gyfeiriadau yn cael eu blocio. Hmm... Anatiomaros 17:38, 13 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Efo Virgin Media mae o. Mi fydda i'n danfon llythyr atyn nhw yn y bora. Mi geith y gwalch ei daflu allan ganddyn nhw yn reit sydyn. Llywelyn2000 17:53, 13 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Wedi'i wneud ar-lein: Virgin Media Internet Security reference number:2019767 Llywelyn2000 23:17, 15 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Fandaliaeth. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 20:20, 30 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Dileuwyd. Diolch Glenn. Anatiomaros 20:30, 30 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Dau gyfrif newydd gan un person?

[golygu cod]

Mae pethau od iawn yn digwydd gyda'r erthygl Crash.Disco! (creuwyd gan gyfranwr IP ar 23 Mehefin). Roeddwn i'n meddwl nad oedd yn ddigon amlwg i haeddu erthygl ac felly rhoddais nodyn ar y dudalen. Rwan mae gennym ni ddau gyfrif newydd, sef Messi (24 Mehefin) a Ffrwchenddm (28 Mehefin) sydd wedi gwneud dim byd ond tynnu'r nodyn o'r erthygl neu roi eu sylwadau ar y dudalen sgwrs. Mae'n ymddangos felly mai un person a greodd y ddau gyfrif. Anatiomaros 22:18, 1 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Telepathi! 10 munud o'th flaen roeddwn i wedi gofyn yr un cwestiwn ar Sgwrs:Crash.Disco!‎. A fedrwn ni weld cyfeiriad IP Messi a Ffrwchenddm er mwyn eu cymharu? Llywelyn2000 22:21, 1 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Wnai drio. Mae prinder offer gweinyddwyr yma mewn cymhariaeth â lleoedd fel Comin a'r Anglopedia. Anatiomaros 22:24, 1 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Mae Messi wedi cofrestru ar 'en' hefyd (30 Mehefin). Un cyfraniad ([1]). Rhaid cael statws 'Check user' i fedru cael y cyfeiriadau IP, ond os ydy o/hi yn defnyddio IP deinamig, fel fi, fydd hynny'n fawr o iws beth bynnag. Anatiomaros 22:29, 1 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Dos i [fama] ac edrych o dan "Archwilwyr defnyddwyr". Does gennym ni run. Beth am dy apwyntio di? ON Dwi'n gweld fod Messi (wps) wedi ymddiheuro eiliadau yn ol, ond dwi'n meddwl y dylem fynd ymlaen i drafod hyn, rhag ofn fod ganddo chwaneg o brocars mewn tannau eraill. Llywelyn2000 22:31, 1 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Ia, sylwais funud yn ôl. Dwi'n cynnig rhoi cyfle iddo ar yr amod ei fod yn cytuno i beidio dynnu nodiadau na blancio tudalen - a blocio un o'r cyfrifon, yn ôl ei ddewis - ac ar y ddealltwriaeth bydd bloc yn anorfod os digwyddith eto. Diolch am y cynnig. Dwi'n fodlon derbyn achos mae angen cael archwiliwr defnyddwyr yma (wedi meddwl hynny sawl gwaith yn y gorffennol ond...). Dwi'n meddwl bydd rhaid gofyn i Porius1 neu Deb wneud y newid achos fedra'i ddim rhoi "dyrchafiad" i fi fy hun. Anatiomaros 22:39, 1 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Mae'n ymddangos nad oes gen i'r hawl i wneud dan "Rheoli galluoedd defnyddwyr". Alla i ddim cofio oes yna ffordd arall. Porius1 19:21, 2 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Rwyt ti'n iawn, dim ond stiward ar y Metawici sy'n gallu gwneud. Yn ogystal mae'n rhaid cael dau Archwiliwr ar bob wici (neu ddim o gwbl!). Mae'r rheolau ar gael yma a'r lle i ofyn yw yma. Dwi ddim yn deall sut mae'r wicis llai fel ni yn fod i gael cefnogaeth 25-30 o olygwyr chwaith. Dwi'n meddwl fod hynny'n anheg iawn. Dyma'r rhan fwyaf perthnasol o'rrheolau:
Only Stewards and a very few editors are allowed to have the CheckUser status. Editors will only have CheckUser status locally.
If local CheckUsers exist in a project, checks should generally be handled by those. In emergencies, or for multi-project CheckUser checks as in the case of cross-wiki vandalism, Stewards may perform local checks. Stewards should remove CheckUser access on the projects upon completion of the checks and notify the local CheckUsers or the CheckUser e-mail list.
On any wiki, there must be at least two users with CheckUser status, or none at all. This is so that they can mutually control and confirm their actions. In the case where only one CheckUser is left on a wiki (when the only other one retires, or is removed), the community must appoint a new CheckUser immediately (so that the number of CheckUsers is at least two).
On wikis with an Arbitration Committee (ArbCom) whose members have been elected with the support of at least 25-30 members of the local community, CheckUsers can be appointed by the Arbitrators only. After agreement, a member of the Committee should simply list the candidate on Steward requests/Permissions.
On a wiki without an Arbitration Committee that meets the criterion above, or where the community prefers independent elections, two options are possible:
The community must approve CheckUsers per consensus. The user requesting CheckUser status must request it within his local community and advertise this request properly (village pump, mailing list when available, ...). The editor must be familiar with the privacy policy. After gaining consensus (at least 70%-80% in pro/con voting or the highest number of votes in multiple choice elections) in his local community, and with at least 25-30 editors' approval, the user should list himself under Steward requests/Permissions with a link to the page with the community's decision.
If an insufficient number of voters vote for at least two CheckUsers on a wiki, there will be no CheckUser on that wiki. Editors will have to ask a Steward to check if UserX is a sockpuppet of UserY. To do so, simply add your request to Steward requests/Checkuser listing these users and explaining why you ask for such a check (with links). You also need a community consensus (like above). The Steward will answer you if these two users are from the same IP, same proxy, same network, same country, or are they completely unrelated (see discussion for what the Steward should more precisely say to the editor).
Dwi'n awgrymu ein bod yn enwebu un person arall - gwell i mi beidio gwneud fel un sydd wedi cael ei enwebu - a gwneud hynny'n "ffurfiol" ar y dudalen hon ac wedyn cael pleidlais. Yna bydd rhaid i rywun ofyn ar y dudalen ceisiadau stiward ar Feta (yma) ac esbonio ein sefyllfa. Os gwrthodir y cais dwi'n meddwl bydd rhaid i Feta ystyried ystwytho eu rheolau i gymryd i ystyriaeth y sefyllfa ar y wicis llai. Ond o leia mi ddylem ni roi cynnig arni. Ond och, sôn am fiwrocratiaeth! Anatiomaros 19:43, 2 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Pam wyt ti'n gwrthod cael dy enwebu? Llywelyn2000 21:14, 8 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Dwi ddim yn gwrthod. Ond mae'r rheolau yn deud fod angen dau Archwiliwr neu ddim o gwbl (i gadw golwg ar ei gilydd, pistolau'n barod!!!) [On any wiki, there must be at least two users with CheckUser status, or none at all. This is so that they can mutually control and confirm their actions.]. A bod yn onest dwi ddim yn meddwl fod gennym ni obaith o gwbl o gael caniatad gan fod cyn lleied o gyfranwyr rheolaidd yma [with at least 25-30 editors' approval]. Anatiomaros 21:21, 8 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Mi godith e statws Wici druan a'i chadw'n rhydd o gamdriniaeth gan fandaliaid dauwynebog. I'r perwyl hwn carwn gynnig enw Porius1 ac os ydy e'n gwrthod Llywelyn 2000 ac wedyn XXGlennXX gan fod y rhain yn rhoi hanner eu hoes i Wici ! Ysgol Dinas Bran 14:30, 12 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Fi? Diolch am f'awgrymu. Byddaf yn hapus cael statws "gwirio defnyddiwr" - gwn i gryn dipyn am gyfeiriadau IP gan fy mod i wedi'u hastudio yn y Brifysgol, ond awgrymaf Llywelyn2000 a Porius1 hefyd. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 16:20, 12 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Mae'n hen bryd i XxGlennxx gael job... felly yn ogystal ag Anatiomaros, dwi'n cynnig Glenn. Awgrymaf hefyd ein bod yn aros tan ddiwedd yr wythnos i gael rhagor o enwebiadau, os daw eraill, ac yna'r ddeiseb... gan obeithio y cawn ni 20 golygydd! Ddaw dim heb drio! Llywelyn2000 22:10, 12 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Wel, mae'n braf gweld fod gennym ni'r hyder. Mae'n werth rhoi cynnig arni. Sylwer bydd rhaid i unrhyw ymgeisydd fod yn gyfarwydd â'r polisi hwn. Anatiomaros 22:53, 12 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Ha. Mi rwyt yn swnio fel fy ngrantsch (tad-cu), Llywelyn2000! Diolch :) -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 00:29, 13 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Dw i hefyd yn cynnig Anatiomaros a Glenn. --Ben Bore 09:59, 13 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Cytuno Porius1 20:26, 18 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Hare hare

[golygu cod]

Dwi newydd blocio ChantCaitanyaMangala am ei fod yn sbamiwr POV ar draws y wicipedia ([2]). Yr un person fu'n gyfrifol am y neges ryfedd gafodd rhai ohonom ni rai dyddiau nôl hefyd, mae'n debyg. Cafodd ei flocio ar 'en' heddiw. Bydd yn ôl eto mewn rhyw rith neu gilydd, fwy na thebyg! Cadwch olwg ar erthyglau perthnasol felly. Anatiomaros 19:01, 2 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Ddylen ni ddileu'r erthygl 'ma? Mae Anatiomaros wedi dweud wrth Afallen yn barod y nid dyma'r lle i roi cerddi ayyb. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 16:57, 4 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Dw i wedi copio a pastio'r gerdd i Wiciffynhonnell, felly dw i ddim yn gweld pam lai ond efallai y byddai'n well aros i gael barn mwy o bobl? Pwyll 17:08, 4 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Mae'n braf darllen sampl o waith bardd yn yr erthygl amdano. Dim o'i le! Ysgol Dinas Bran 14:31, 12 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
[@YDB] Ydy, mae'n braf a hollol dderbyniol mewn erthygl am fardd, ond mae angen mwy na'r testun yn unig i gyfiawnhau cael erthygl am gerdd, h.y. rhaid cael digon i'w ddweud am hanes a chefndir y gerdd, ei chyd-destun, barn ysgolheigion ayyb. Mae lle i ganeuon yma hefyd, os oes digon i'w ddweud amdanynt. Ond Wicitestun yw'r lle ar gyfer testun llenyddol fel y cyfryw, hyd yn oed os cawn ni erthygl am y testun hwnnw yma ar y Wicipedia. Anatiomaros 22:49, 12 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Ga i dynnu'ch sylw at yr erthygl uchod. Yn ôl y cyfeiriad IP (207.201.216.12), y fandal Disney yw e/hi (gweler ei sgwrs). Nid oes llawer o destun yn yr erthygl, ond nid oes fandaliaeth ychwaith. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 17:15, 8 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Dwi wedi blocio fo (gweler y log blocio hir ar gyfer y cyfeiriad IP yma!). Roedd y ddolen i'r erthygl Almaeneg ar yr ail erthygl (Ponyo neu rywbeth) yn anghywir ac mae'n bosibl fod rhai o'r dolenni i Toy Story 3 yn anghywir hefyd. Fel 'na mae o - os na fedr drysu ni mae'n ceisio drysu'r botiau. Dwi wedi diogelu'r erthyglau yn rhannol fel na chaiff cyfranwyr IP eu golygu. Diolch am dynnu sylw at hyn. Anatiomaros 17:49, 8 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Well spotted, Glenn! Llywelyn2000 20:12, 8 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
:) -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 21:12, 8 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

True Jackson, VP

[golygu cod]

Crëwyd yr erthygl newydd uchod gan Arbennig:Contributions/93.26.212.31. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 21:49, 13 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Diolch Glenn. Dwi'n meddwl ei bod yn hen bryd i ti ddod yn weinyddwr er mwyn i ti fedru delio gyda fandaliaeth ayyb, yn enwedig gan dy fod yma reit hwyr yn y nos weithiau. Hefyd mae'n gwneud synnwyr os wyt ti am geisio dod yn Archwiliwr ('sdim llawer o obaith i ni, diolch i fiwrocratiaeth bresennol y Wici, ond pwy a ŵyr?). Beth amdani felly? Dwi'n barod i dy enwebu os wyt ti'n dymuno hynny. Jest rho air yma neu ar fy nhudalen sgwrs. Anatiomaros 22:29, 13 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Iawn, pam lei! Ond bydd yn rhaid i rhywun ddweud y drefn wrtha i ynglŷn â'r hyn sy'n dod â gweinyddu Wicipedia - pryd i ddileu erthygl (a'r amodau oherwydd) ayyb :) Diolch, Anatiomaros. Dwi'n fodlon cael statws gweinyddwr ac Archwiliwr Defnyddiwr. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 22:55, 13 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Dw i'n cefnogi cynnig Anatiomaros. Llywelyn2000 06:07, 14 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Diolch :) -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 16:04, 14 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Cefnogi 100% hefyd! Pwyll 16:07, 14 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Mae'n arferol aros tua wythnos i gael ymateb felly dwi'n awgrymu aros tan o gwmpas dydd Mercher i bawb cael cyfle. Mewn gwirionedd dwi ddim wedi gwneud enwebiad ffurfiol fel y cyfryw, ond dwi'n siwr ceiff yr uchod ac ateb Glenn eu derbyn felly. Dwi'n derbyn fod Llywelyn yn eilydd. Basai'n braf cael ambell bleidlais arall gan nad ydy 3 (o gynnwys fi fy hun) yn rhyw gadarnhaol iawn. Dwi'n mynd i agor pleidlais ffurfiol mewn adran newydd isod felly a rhoi nodyn yn y Caffi. Anatiomaros 21:58, 16 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Caster Semenya

[golygu cod]

Ga i dynnu'ch sylw at y cyfraniad hwn, os gwelwch yn dda, gan Arbennig:Contributions/Atletika2010. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 21:24, 16 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Pleidlais i roi statws gweinyddwr i Xxglennxx

[golygu cod]

Pleidlais ffurfiol ar y cynnig i wneud Xxglennxx yn weinyddwr. Enwebwyd gan Anatiomaros, eilwyd gan Llywelyn2000. Nodwch 'O blaid', 'Ansicr' neu 'Yn erbyn' a/neu unrhyw sylwadau isod (a llofnodwch hefyd, os gwelwch yn dda):

Hmm, roeddwn i wedi anghofio am y ffrae yna rywsut neu'i gilydd. Cytuno y dylai hynny fod yn amod. Ar Gomin a sawl argraffiad Wici mae gweinyddwyr newydd yn cael mentor am gyfnod. Dwi'n cynnig bod yn fentor ('tiwtor') i Glenn am y misoedd cyntaf. Heb swnio'n nawddoglyd, gobeithio, er ei fod yn llawn brwdfrydedd ac yn gwneud gwaith ardderchog ar yr ochr dechnegol mae angen iddo ddysgu tipyn hefyd. Ydy hynny'n dderbyniol gan bawb, yn cynnwys Glenn? Anatiomaros 19:40, 18 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Mae hynny'n iawn gennyf. Dwi'n deall yr hyn sy'n dod a^ gweinyddu, felly ni fyddaf yn cam-ddefnyddio fy "mhwerau" newydd - rhaid fod yn broffesiynol ac anwybyddu barn bersonol. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 20:30, 18 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Canlyniad - rhoi statws Gweinyddwr

Gan fod 7 o blaid a neb yn erbyn, dwi newydd rhoi statws gweinyddwr i Glenn. Llongyfarchiadau iddo. Dwi'n siwr bydd yn gaffaeliad i'r Wici. Anatiomaros 14:43, 24 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Diolch i chi i gyd! -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 19:51, 24 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Polisi Gwerseb Eithrio (Exemption Doctrine Policy)

[golygu cod]

Dwi wedi agor pleidlais ffurfiol i fabwysiadu ein Polisi Gwerseb Eithrio (Exemption Doctrine Policy) drafft yn bolisi swyddogol ar y Wicipedia Cymraeg. Gobeithio fod hynny'n dderbyniol gan bawb. Credaf fod gwir angen hyn os ydym am gael delweddau Defnydd Teg. Bwriwch eich pleidleisiau yma, os gwelwch yn dda. Anatiomaros 21:39, 29 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Pypedi soc gyda defnyddiwr?

[golygu cod]

Crëwyd Defnyddiwr:Llais Sais defnyddiwr newydd, sef Defnyddiwr:That annoying englishman again also known as wrach (gweler ei lòg cyfraniadau). Os ewch chi i dudalen Sgwrs Defnyddiwr:Llais Sais, mae LL.S. yn sôn am rhyw "wrach?" Ydy rhywun yn gwybod beth sy'n mynd ymlaen?! -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 15:11, 1 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Camddealltwriaeth ydoedd. Dywedodd Llywelyn:
Y gronynnau'n dy lygid, wrach?
sef tafodiaith ogleddol y llinell
Y gronynnau'n dy lygaid, efallai?
Jôc fechan wedi mynd o chwith! Eisingrug 15:33, 1 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Ie... Dw i'n cofio darllen wrach mewn gwaith ysgrifenedig rai blynyddoedd yn ôl a meddwl beth ar y ddaear oedd a gwrachod i wneud â'r testun dan sylw. Wedyn, pan geisiais ail-ddarllen y darn yn uchel mewn acen Ogleddol, daeth popeth yn glir! Pwyll 16:47, 1 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
O ran pypedi soc, efallai ei fod yn werth gadael neges ar dudalen sgwrs Llais Sais yn esbonio fod creu sawl cyfrif gwahanol yn groes i reolau Wicipedia? Pwyll 16:50, 1 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Doeddwn i ddim yn deall yr ystyr yn gyntaf, ac dwi ddim yn deall fe nawr, ha! Wi'n meddwl bod yn rhaid inni ddileu un o'r cyfrifau, gan y gwyddem fod y ddau ohonyn nhw yn perthyn i'r defnyddiwr. Neu efallai ail-gyfeirio'r un newyddach i'r "hen" un, a diogelu'r flaenorol? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 00:25, 2 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Am "wrach" darllener "[h]w[y]rach". Ond dwi'n cyfadde bu rhaid i mi edrych dwywaith i sylweddoli hynny achos gellir ei ddarllen fel "gwrach" gyda threiglad meddal am ei fod/bod yn cael ei gyfarch/chyfarch gan y person sy'n siarad!
Llais Sais, jôc neu beidio, mae creu cyfrifon ychwanegol fel hyn yn erbyn y rheolau. Dwi'n derbyn mai tipyn o hwyl oedd y cyfan, ond paid â gwneud yr un peth eto, plîs. Anatiomaros 20:10, 2 Hydref 2010 (UTC)[ateb]


Gweinyddwyr sydd heb gyfrannu ers dros dwy flynedd

[golygu cod]

Ble mae'r sgwrs a gafwyd yn ddiweddar am hyn? Dw i'n gweld fod Defnyddiwr:Anatiomaros yn cyfeirio at Arwel Parry yma - a hynny ddwy flynedd yn ôl!

a flying visit here - you'll be wanting https://cy.wikipedia.org/wiki/Wicipedia:Y_Caffi/archif/13#Tynnu_statws_gweinyddwr (no I've no complaints about it by the way, I find far too many distractions from work as it is without getting back into wiki) Alan temp 23:08, 21 Chwefror 2011 (UTC)[ateb]

Diolch Alan, a braf dy weld eto.
Dw i'n cynnig ein bod yn clirio'r gwe-pry-cop fel llynedd, ac yn cynnal dileu'r canlynol:
Llywelyn2000 05:11, 22 Chwefror 2011 (UTC)[ateb]
Dydy Defnyddiwr:Marnanel ddim wedi cyfrannu ers 13 Ionawr 2009. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 13:14, 22 Chwefror 2011 (UTC)[ateb]
Cytuno - os nad oes rhywun wedi cyfrannu am gymaint o amser, dw i'n credu y gallwn ni gymryd nad ydyn nhw eisiau bod yn rhan o'r wici bellach. Wrth gwrs, mae croeso iddyn nhw ddod nol yn y dyfodol i gyfrannu ac efallai y gellir edrych ar y posibilrwydd o roi statws gweinyddwyr nol iddynt bryd hynny. Pwyll 19:34, 22 Chwefror 2011 (UTC)[ateb]
Cytuno efor ddau enw. Dylem roi wythnos arall iddyn nhw neu eraill gael y cyfle i ymateb, fodd bynnag. 19:52, 22 Chwefror 2011 (UTC)Llywelyn2000
Arwel is still active on English wikipedia, and I believe Marnanel is still around, but is choosing not to log into his account. Deb 20:52, 22 Chwefror 2011 (UTC)[ateb]
Gan nad ydym wedi cael gair gan neb yn erbyn diswyddo'r ddau weinyddwr sydd heb gyfrannu ers dros blwyddyn bellach, dw i'n cymryd mai dyna ddylid felly ei wneud. Oes Biwrocrat i wneud hyn? Bev: As we havn't heard anything from either of the above, and neither has contributed recently, then we must go ahead with the decission to remove the Burocrat and Gweinyddwr powers of both Defnyddiwr:Arwel Parry and Defnyddiwr:Marnanel. Can you (or Anatiomaros) do this? Llywelyn2000 23:29, 1 Mawrth 2011 (UTC)[ateb]

Mae'r unig Fiwrocrat gweithredol (Deb) wedi nodi ar ei thudalen sgwrs: I admit I don't really see it as a problem. !!! Mae hi felly yn mynd yn groes i'r hyn rydym wedi'i benderfynnu. Os rheol - rheol. Wyt ti, Deb, isio newid y penderfyniad? As the only Beurocrat we have at the moment, am I right in saying that you do not agree with our decission to remove their powers? We decided this policy a year ago, and it was acted on. We have now looked again at the situation and we have unanimously come to a decission to remove both Arwel Parry and Marnanel's powers. If you disagreed with our policy then you should have voiced your opinion two weeks ago. Please can you state your opinion fully. Llywelyn2000 22:48, 3 Mawrth 2011 (UTC)[ateb]

Beth ddigwyddodd i Anatiomaros? Glanhawr 23:35, 7 Mawrth 2011 (UTC)[ateb]
Ble mae'r polisi a sonnir amdano fe? A all rywun fy nghyfeirio, oherwydd siŵr o fod mae angen diweddaru arno fe (geirio, cynnwys, ayyb). -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 00:25, 8 Mawrth 2011 (UTC)[ateb]
I don't actually think I have the power to do this. I may be able to do it for an administrator, but definitely not for a biwrocrat. I would have to ask someone over on the English wikipedia for instructions. But I don't see the urgency of it either. Arwel set up the Welsh wikipedia practically single-handed. What do you fear from his continuing to have administrator powers? It could prove useful in an emergency (which indeed it has in the past). Deb 18:49, 9 Mawrth 2011 (UTC)[ateb]


Pa hwyl bawb?
1. Glanhawr yn gyntaf: Dywedodd Anatiomaros yn un o'i gyfraniadau diwethaf (yma): Yn ola, fel Llywelyn, dwi'n brysur ar hyn o bryd - ceisio helpu pobl Tunisia mewn sefyllfa sy'n peri pryder o hyd - felly ymddiheuraf am dreulio llai o amser nag arfer yma: Normal service will be resumed shortly, gobeithio...
2. Glenn: Mae'r polisi wedi'i lunio drwy bleidlais a gweithredu yma.
3. Deb: I fear nothing, Deb, other than the fact that he hasn't been here for over two years. Does en have similar leniency, or do they review annually? As Pwyll says (above), if they do return to contribute, then we could reinstall their status. I do however see your point in keeping friends in high places. PS What's your view on Marnanel? Llywelyn2000 20:14, 9 Mawrth 2011 (UTC)[ateb]
In the meantime I have checked on the dark side and find that it is even more difficult than I thought: gweler yma. You would have to make the request of a steward. The last time Marnanel contributed, it was to say that he was deliberately not logging in but was dropping in from time to time. He may do so again, he may not, but he was made an admin because he was trusted and he never abused that trust. Deb 21:07, 9 Mawrth 2011 (UTC)[ateb]

Nid polisi ydy'r ddolen 'na, ond trafodaeth. Mae angen rhywbeth tebyg i hwn arnom ni. Mae'r dudalen gennym ni, sef Wicipedia:Gweinyddwyr, ond mae angen adran yno. Na i osod y Saesneg dros dro. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 23:20, 9 Mawrth 2011 (UTC)[ateb]

Nid trafodaeth, ond trefn. Deb 12:49, 10 Mawrth 2011 (UTC)[ateb]
Y drefn ydy ein bod yn adolygu galluoedd y rhai hynny nad ydynt wedi cyfrannu ers blwyddyn. Trefn ydy gwneud hynny. Datblygodd y drefn hon drwy drafodaeth. Mae angen dod a'r llinyn hwn i ben y naill ffordd neu'r llall, ond mae angen cau pen y mwdwl rhywsut. Deb ydy'r unig fiwrocrat a'r pwer i wneud hynny ac mae'n gwrthod gwneud, er i ni gael pleidlais. Dw i'n anhapus gadael sefyllfa hyn yn agored yn amhenodol. Ga i gynnig cyfaddawd: ein bod ni'n gohirio'r penderfyniad a wnaed am bedwar mis, gan obeithio y daw biwrocrat yn ol atom cyn hynny, neu fod y ddau ddafad colledig yn dod nol i'r gorlan, wrth gwrs. Ond, Deb, mae hygrededd Wici'n dibynnu ar gadw at gonsensws a phenderfyniad - os wyt ti'n cytuno neu beidio. Mae'n biti na wnest ti ddweud dy farn cyn neu yn ystod y bleidlais! Llywelyn2000 00:23, 17 Mawrth 2011 (UTC)[ateb]

Dw i wedi gadael nodyn cwrtais ers dros mis bellach ar dudalen Sgwrs Defnyddiwr:Marnanel a Defnyddiwr:Arwel Parry - ar Wiki-en - yn gofyn iddyn nhw droi fewn atom ar Wici-cy, gadewais ail nodyn heddiw. Mae'r rheolau hefyd wedi'u cyfieithu yma. Gadewais hefyd nodyn ar Wici-cy yn Chwefror 2011, a hyd yma does run o'r ddau wedi ymateb! Os nad ydyn nhw'n troi fewn atom ac ail-ddechrau cyfrannu, dw i am fynd ymlaen i'r hyn a gytunom arno bron i flwyddyn yn ôl - gweler y sgwrs uchod. Llywelyn2000 23:03, 31 Ionawr 2012 (UTC)[ateb]

Er rhoi BLWYDDYN o rybudd i'r ddau, ni ddaeth gair na chyfraniad. Dw i felly wedi dechrau'r broses o ddialluogi'r pwerau a roddwyd iddyn nhw yma. Pe dont yn ol, wrth gwrs, gallem eu hail-bweru; nid proses parhaol fydd hon, gobeithio. Llywelyn2000 08:43, 15 Chwefror 2012 (UTC)[ateb]

Mae'r broses bellach wedi'i gyflawni. Llywelyn2000 04:44, 16 Chwefror 2012 (UTC)[ateb]

Pa drwydded ydw i fod defnyddio?!

[golygu cod]

Dw i wedi dod o hyd i lun ar Flickr rydw i eisiau defnyddio. Mae perchennog y llun yn fodlon i bobl ei defnyddio cyn belled ag ei fod yn cael ei gydnabod am hynny. Os ydw i'n defnyddio Gallwch ddefnyddio'r ffeil at bwrpasau addysgol neu at bwrpasau nad ydynt yn fasnachol yn unig mae neges yn ymddangos yn dweud y gallai'r llun gael ei dileu. Pa drwydded yw'r un cywir i'w ddefnyddio???!! Pwyll 13:06, 27 Gorffennaf 2011 (UTC)[ateb]

Pa drwydded sydd ar y llun? Alli di roi dolen? --Ben Bore 15:55, 27 Gorffennaf 2011 (UTC)[ateb]
Wel, yn ôl y dudalen yma, dim ond lluniau sy'n dod o dan drwyddedau CC-BY, CC-BY-SA, a'r parth cyhoeddus y gallet eu huwchlwytho i Wicipedia o Flickr. Yn ôl yr un dudalen, mae gan bob dudalen adran "Trwyddedu" ar ochr dde'r dudalen, lle rwyt ti'n gallu gweld y drwydded dan sylw. Os yw'r perchennog wedi dweud ei fod yn iawn iti ddefnyddio'r llun, wedyn mae'n iawn, a dylet ddewis y pumed trwydded (Mae'r gafaelydd...) o'r gwymplen. Wedi iti uwchlwytho'r llun, defnyddia yn o'r tagiau yma. Yn anffodus, nid yw'r tagiau gennym eto ar cy (ddim wedi'u cyfieithu). Jyst cofia lenwi'r paramedrau yn y blwch yn ôl perchennog y llun, megis yr Awdur, Dyddiad, a'r Caniatâd. Wedi imi orffen â phob nodyn trwydded, dwi am ailwampio'r dudalen uwchlwytho i edrych yn debyg i'r hyn a geir ar en. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 16:46, 27 Gorffennaf 2011 (UTC)[ateb]
Dyma'r ddolen i'r dudalen drwyddedu ac i'r llun gwreiddiol. Y pumed disgrifiad o'r gwymplen defnyddiais i ond mae'r nodyn hwn yn ymddangos sy'n dweud nad yw defnyddio'r llun yn dderbyniol.


Dw i'n conffiwsd! Pwyll 10:09, 28 Gorffennaf 2011 (UTC)[ateb]

Mae'r holl drefn yn gymhleth iawn. Os dw i'n deall pethe: mae Glenn, uchod, wedi rhoi [dolen] i ti sy'n egluro pa luniau o Flickr y gelli eu defnyddio yn Wici, a pha rai NA ddylet eu mewnforio. Mae'r un rwyt ti'n dymuno ei fewnforio yn cynnwys y tag: Attribution-NonCommercial-NoDerivs 2.0 Generic (CC BY-NC-ND 2.0).
Y rhan pwysig (i ni rwan) ydy'r diwedd, sef CC BY-NC-ND 2.0. Fe weli fod y tag hwn ar restr Glenn o luniau/drwyddedi NA ddylem eu mewnforio. Hynny yw, paid a'i uwchlwytho/mewnforio i fewn i Wici!!! Ydy hynny'n help, neu'n gwaethygu pethe?! 78.147.37.117 10:25, 28 Gorffennaf 2011 (UTC)[ateb]
Yn anffodus, mae 78.147.37.117 yn gywir - ni ddylet wedi uwchlwytho'r llun, a hynny am nifer o resymau: gyda thrwydded CC BY-NC-ND 2.0, mi rwyt ti â'r hawl i rannu'r llun, sef ei gopïo (at ddefnydd personol), dosbarthu (i roi i'th ffrindiau), a thrawsyrru (mewn neges), ond nid i uwchlwytho llun. Yn ôl polisïau Wicipedia, nid yw lluniau sydd yn cynnwys trwydded NC (anfasnachol) yn addas i uwchlwytho. Felly, yn anffodus, dwi'n dileu'r llun. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 13:10, 28 Gorffennaf 2011 (UTC)[ateb]
Oce, diolch am yr ymateb ond oes modd cael canllawiau symlach i'w dilyn ynglyn â'r hyn sydd a hawl ei uwchlwytho neu beidio? Pwyll 13:49, 28 Gorffennaf 2011 (UTC)[ateb]
Haia! gelli ddefnyddio lluniau sydd gydag un o'r tri hyn:
OND NI ELLIR DEFNYDDIO UNRHYW LUN O FLICKR! SYDD A THRWYDDED O FATH ARALL!
Pob lwc! Llywelyn2000 14:18, 28 Gorffennaf 2011 (UTC)[ateb]
O.N. Pam na wnei di ebostio'r ffotograffydd (Andrew Wodyatt)a gofyn iddo newid y drwydded i un o'r tri uchod? Eglura na wneith neb ddefnyddio'i waith oni bai ei fod yn defnyddio un o'r tri thrwydded hyn. Llywelyn2000 14:32, 28 Gorffennaf 2011 (UTC)[ateb]

Dwi yn cydymdeimlo gyda ti, Pwyll - mae'n confusing iawn oherwydd bod llawer o wahanol fathau o drwyddedau. Mae'n iawn i awgrymu hwnna, Llyw, ond wedyn mae'n agor ei hunan (Woody1969) i bobl ddefnyddio ei luniau lle bynnag y mynnent heb ei adnabod e. Dwi wrthi'n ailwampio (unwaith 'to!) y dudalen uwchlwytho i roi mwy o synnwr i bawb... -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 16:22, 28 Gorffennaf 2011 (UTC)[ateb]

Os mae e'n rhoi caniatad i ddefnyddio'r llun gyda'r trwydded CC-BY-SA neu CC-BY, does dim perygl bydd bobl ddefnyddio ei luniau lle bynnag y mynnent heb ei adnabod e. Mae'r BY yn golygu mae rhaid i nhw adnabod e. Yn unig os mae e'n rhoi caniatad i ddefnyddio'r llun gyda Public Domain, mae hwn yn gallu digywdd. Oxford 18:13, 28 Gorffennaf 2011 (UTC)[ateb]
Nage, ti'n iawn, Oxford, ond doedd y llun dan sylw ddim yn CC-BY-SA na CC-BY ychwaith; mae'r llun dan sylw yn CC-BY-NC-ND, ac dyw'r fath luniau ddim yn addas eu cynnwys ar Wicipedia. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 20:50, 28 Gorffennaf 2011 (UTC)[ateb]

Dos i fama am eglurhad reit syml. Cei ddefnyddio'r cyntaf a'r olaf yn y rhestr. Llywelyn2000 21:46, 28 Gorffennaf 2011 (UTC)[ateb]

Archwilwyr defnyddwyr/CheckUsers

[golygu cod]

Oherwydd y fandaliaeth ddiweddar yma, mi fyddai'n fuddiol iawn inni gael archwilwyr defnyddwyr (checkusers) sy'n gallu edrych ar gyfeiriadau IP defnyddwyr. Mae'n well a ydyn ni'n rhwystro'r cyfeiriadau IP yn hytrach na'r enw defnyddiwr. Wrth edrych ar y Arbennig:ListGroupRights, does neb ar y wici Cymraeg yn archwilwr defnyddwr. A hoffech imi weld a yw'n bosibl inni gael statws am rhywun, neu ambell i beron (4)? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 19:42, 7 Medi 2011 (UTC)[ateb]

Byddwn i o blaid gwneud hyn, ond hyd a gwn i mae'n broses hir a chymhleth i roi'r statws yma i ddefnyddwyr. Glanhawr 19:49, 7 Medi 2011 (UTC)[ateb]
Ie, gwn i, ond bydd o werth os ydyn yn ei wneud. Arhosem nes i bawb ddweud eu dweud. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 20:05, 7 Medi 2011 (UTC)[ateb]
Dos i fyny i'r Pennawd: Dau gyfrif newydd gan un person? (uchod) i weld y drafodaeth a gawsom rhyw flwyddyn yn ol. Mae bron yn amhosib i Wici bach fel ni wneud hyn. Llywelyn2000 21:05, 7 Medi 2011 (UTC)[ateb]

Ystadegau gweithredoedd Gweinyddwyr

[golygu cod]

Dw i wedi rhoi tabl, syml ar fy Nhudalen Defnyddiwr sy'n crynhoi'r holl newidiadau / golygiadau dw i wedi neud ers y cychwyn ar Wici. Mae croeso i chi gopio'r Nodyn ar eich tudalen flaen chithau os dymunwch. Un linell syml sydd angen ei phastio, sef:

  • {{adminstats|Eich-Enw-Defnyddiwr-Chi}}

Pob lwc! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:11, 31 Mawrth 2012 (UTC)[ateb]

Mae rhywbeth yn mynd ymlaen gyda'r defnyddiwr yma; mae e wedi bod yn creu erthyglau ac ailgyfeiriadau hurt. Wrth chwilio amdano ar en, des i ar draws y ddolen yma, sy'n dweud mai sockpuppet yw e. Cyn imi ei rwystro, a gawn drafodaeth? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 19:06, 12 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]

Gweler yma am yr ymchwiliad. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 19:08, 12 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]
Dw i'n hapus i ti ei flocio Dyfrig (sgwrs) 19:19, 12 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]
Iawn. Arhoswn ni ar farnau pobl eraill cyn imi ei wneud, felly. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 20:38, 12 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]
Cytuno. Dw i di bod yn cadw llygad arno ers tro. Doedd o ddim yn ymateb i gwestiynnau - sdim rhyfedd pam! Dw i wedi'i flocio. Wel spotted Glenn! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:15, 13 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]
Beth i'w wneud gyda'i gyfraniadau?
Heb gael cyfle i ddarllen y dystiolaeth uchod digon manwl i weld ble'r mae prawf mai'r un person ydy o, ond dw i'n ddigon hapus i fynd gyda'ch penderfyniad os ydych yn siwr. Ro'n i wedi sylwi ar ei gyfraniadau, a tra do'n i ddim yn gweld lot o werth iddynt (erthyglau un frawddeg am actorion Americanaidd), sylwais i ddim o'i le (ro'n i'n gwirio ambell un ar en:wiki o bryd i'w gilydd a gweld dim o'i le.) Dw i wedi bod yn ail edrych ar rai ar hap rwan, a sylwi bod rhai yn cynnwys 'gwallau' - e.e. Actorion o Loegr n yn cael eu cyfrif fel Actorion Americanaidd (sy'n gallu bod yn gamgymeriad diniwed os ydy o'n ddi-Gymraeg a mond yn copio pethau drosodd - er mae'n dal yn boen) a hefyd roedd ambell enw canol yn ymddangos yn enwau rhai actorio ar erthyglau yma nad oedd yn bodoli ar erthygl ar en:wiki.
Yn lle wastio ein hamser yn gwirio'r rhain i gyd, ydy o'n briodol (ac yn bosib mewn un tro) jyst i ddileu popeth ganddo? Os mai fandaleiddio slei oedd ei wir fwriad, i beth wnawn ni wastraffu ein hamser prin?--Ben Bore (sgwrs) 08:22, 13 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]
Tan y swp diwethaf wnaeth Glenn eu dileu, roedd yn eitha cywir, fel y dywedi. Mi ychwanegais refs ar tua 10 o'r erthyglau cynnar; rhois rybudd iddo ddwywaith ychwanegu refs, a wnaeth o ddim ymateb. Dw i o'r farn y dylid dileu pob erthygl sydd heb refs, er y gall hyn olygu ymhell dros dwy fil ohonyn nhw. Neu rhoi rhybudd i bawb y bydden nhw'n cael eu dileu mewn 6 mis, oni newidir nhw. ? Fel mae Glenn yn dweud gan nad oedd erthyglau ar en yn y swp diwethaf, roedd hi'n anodd iawn wedyn eu gwiro. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:33, 13 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]
Da. Dwi'n cytuno â'i rwystro. Dwi hefyd yn cytuno ag awgrymiad Ben Bore, sef dileu ei gyfraniadau. Fel fe, welais i ddim byd o'i le gyda chyfraniadau AAW i ddechrau, ond nawr, dwi yn! Mae'n rhaid inni gael canllawiau mwy manwl ynglŷn a'r cyfeiriadau a roddir ac o fewn pryd mae angen eu gosod nhw. Ond, am nawr, beth ydyn ni'n mynd i'w wneud gyda'i gyfraniadau eraill? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 00:41, 14 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]
Dw i'n deall awydd Llywellyn i ddileu'r 2,000 erthygl heb cyfeiriadau a dechrau gyda llechen lan, ond baswn i'n gwrthwynebu hynny gan bod llawer o bobl wedi treulio amser yn gweithio arnynt a chododd neb unrhyw wrthywynebiad ar y pryd. Does yna ddim byd yn mynd i droi cyfranwyr achlysurol i ffwrdd yn fwy na dod yn ol ymhen amser a gweld eu gwaith wedi diflannu (a falle na welan nhw y drafodaeth hon/tebyg) - tydw i ddim yn edrych ymlaen at wneud, ond byddai'n llai o waith dod o hyd i gyferiiadau i'r erthyglau yn hytrach na chreu 2,000 erthygl o'r newydd. Falle dylwn gael blwch AMLWG ar yr hafan ar gyfer Prosiect y Gaeaf 2012/13: Gwirio Cyfeiriadau (neu rhywbeth mwy catchy!).
O ran cyfraniadau Defnyddiwr:AnthonyAngrywolf, dw i'n cynnig eu dileu i gyd. --Ben Bore (sgwrs) 07:43, 14 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]

Mae'n gleddyf miniog dwbl, on'd yw e? Ar un llaw, mi ddylwn ni eu dileu, ond ar y llaw arall, fel mae Ben yn dweud, mae pobl wedi teulio amser yn gweithio arnyn nhw... Am nawr, cadw nhw ydy fy mhleidlais i, ond mae'n rhaid inni fod yn llawer mwy trwyadl gyda nhw o hyn ymlaen. Hefyd, mi ddylwn ni gyfeirio cyfranwyr newydd at Wicipedia:Tiwtorial, yn enwedig yr adran Wicipedia:Tiwtorial (Nodi ffynonellau). -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 17:04, 14 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]

Cytuno. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:44, 14 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]

Bot i ddiweddaru'r rhyng-gysylltiadau?

[golygu cod]

Oes modd inni gael rhyw fot sy'n gallu diweddaru'r rhyng-gysylltiadau (ieithoedd) mewn erthyglau Disney heb leihau'r diogelwch sydd arnynt? Credaf mai'r un person sydd gofyn am iddynt gael eu diweddaru, ond o hyd... mae'n gwneud synnwyr imi. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 14:28, 9 Gorffennaf 2012 (UTC)[ateb]

O! Mam bach! Sut goblyn fethais i hwn, Glenn? Dw i'n cytuno'n llwyr! Mi wna i gais. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:38, 19 Hydref 2012 (UTC)[ateb]

Dw i ddim yn siwr os y lle cywir i ddweud hyn yw hwn, ond dw i wedi ysgrifennu polisi rhwystro a dwi'n credu dylai'r gweinyddwyr wybod amdano. Cathfolant (sgwrs) 22:33, 20 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Gweinyddwr ar Wicidestun

[golygu cod]

Tybed a wneith un ohonoch gymryd cip ar Y Sgriptoriwm lle dw i'n gwneud cais i fod yn Weinyddwr. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 23:47, 9 Tachwedd 2013 (UTC)[ateb]

Mae sawl un wedi cytuno, felly fedar rhywun droi'r swits ymlaen os gwelwch yn dda? Llywelyn2000 (sgwrs) 00:30, 10 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]

Angen dyfarnwr!

[golygu cod]

Cafwyd trafodaeth yn y Caffi am Wicipedia:Y_Caffi#Arddull_iaith_botymau_gorchymyn_yn_y_rhyngwyneb. Fedar Gweinyddwr sydd heb gymryd rhan yn y drafodaeth ddod i benderfyniad a oes consensws wedi'i gyrraedd os gwelwch yn dda. Nid pleidlais ydyw, fel arfer, ond dod i gasgliad ynghlyn a'r hyn sy'n cael ei ddweud. Efallai mai teg fyddai gwneud hyn ar ol 7 i 10 diwrnod. Does dim raid dilyn y rheolau Saesneg yn hyn o beth, ac efallai y byddai'n beth da i rywun cychwyn canllaw syml a theg, rhag ofn iddi fynd yn fler ryw dro! Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 00:35, 10 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]

PWYSIG: Adolygiad o weithgaredd gweinyddol

[golygu cod]

Sut mae? Mabwysiadwyd polisi newydd ynglŷn â hawliau ychwanegol Gweinyddwyr a Biwrocratiaid ayb gan cydsyniad cymunedol cydwici (derbyniodd eich cymuned nodyn am y drafodaeth hon). Yn unol â'r polisi hwn mae stiwardiaid yn adolygu gweithgareddau gweinyddwyr ar wicis bach. Hyd y gwyddom, nid oes gan eich wici ddull swyddogol o ddileu "hawliau ychwanegol" gyfrifon marw. Mi wneith y stiwardiaid y gwaith hwn yn unol â admin activity review.

Penderfynom fod y defnyddwyr canlynol heb fod yn weithgar (dim golygiadau na gweithgaredd am 2 flynedd):

  1. Porius1 (biwrocrat, gweinyddwr)
  2. Wutsje (gweinyddwr)

Caiff y defnyddwyr hyn eu hysbysu cyn hir, gan ofyn iddyn nhw drafod gyda'r gymuned os ydyn nhw'n dymuno cadw rhai o'u hawliau. Os nad ydyn nhw'n ymateb, yna bydd eu hawliau ychwanegol yn cael eu diddymu gan y Stiwardiaid.

Fodd bynnag, os ydych chi, gymuned y Wicipedia Cymraeg, yn dymuno creu adolygiad ar weithgareddau gweinyddwyr sydd heb gyfrannu a'u hawliau ychwanegol, yn hytrach na'r adolygiad fyd-eang, yna rhowch wybod i stiwardiaid Meta-Wici fel nad ydym yn mynd ati gyda'r adolygiad hwn ar eich wici. Diolch. Rschen7754 08:49, 5 Ebrill 2014 (UTC)[ateb]

Trwyddedu ffeiliau

[golygu cod]

Mae na chydig go lew o waith ar yr Adran Drwyddedau! Dw i wedi ceisio twtio yma ag acw yn ystod y misoedd diwetha. Wneith rhywun wiro fod fy addasiad (nid 'cyfieithiad' slafaidd, sylwer) o'r Nodyn yma yn dderbyniol? A'r un modd efo'r rhestr hon. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:50, 22 Medi 2014 (UTC)[ateb]

[Global proposal] m.Wicipedia.org: (pawb) Golygu tudalennau

[golygu cod]
MediaWiki mobile

Hi, this message is to let you know that, on domains like cy.m.wikipedia.org, unregistered users cannot edit. At the Wikimedia Forum, where global configuration changes are normally discussed, a few dozens users propose to restore normal editing permissions on all mobile sites. Please read and comment!

Sorry for writing in English but I thought as administrators you would be interested. Thanks, Nemo 22:26, 1 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]

Dw i wedi ymateb yn gadarnhaol, ar fy rhan fy hun. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:29, 2 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]

Lle mai cofnod timau pel-droed Llydaw, Gwlad y Basg, Catalonia?

[golygu cod]

Sgwennes i bostiadau ar dimau pel-droed cenedlasethol Llydaw, Gwlad y Basg a Catalonia rhai blynyddoedd yn ol. Addasiadau oeddynt fwy na heb o'r erthyglau Saesneg (ond gyda rhai ychwanegiada). roeddwn am roi dolen i un Llydaw heddiw gan fod tim pel-droed Cymru wedi eu lleoli yno ar gyfer Euro 2016. Ond dydy Llydaw na'r ddau arall ar y wicipedia Cymraeg na chwaioth efo dolen o'r erthyglau Saesneg. Oes rhywun yn gwybod beth sydd wedi digwydd iddynt ... neu ai fi sy'n ddall?

... reit, sori, ymddengys bod Catalwnia a Basg yno, er 'mod i'n grediniol 'mod i wedi sgwennu am Lydaw hefyd. Gwnaf eto!

....... reit, dwi methu ei ffeindio eto! Lle mae e? Oes 2 wahanol restr o dimau pel-droed cenedlethol?

PWYSIG: Adolygiad o weithgaredd gweinyddol

[golygu cod]

Sut mae? Mabwysiadwyd polisi newydd ynglŷn â hawliau ychwanegol Gweinyddwyr a Biwrocratiaid ayb gan cydsyniad cymunedol cydwici (derbyniodd eich cymuned nodyn am y drafodaeth hon). Yn unol â'r polisi hwn mae stiwardiaid yn adolygu gweithgareddau gweinyddwyr ar wicis bach. Hyd y gwyddom, nid oes gan eich wici ddull swyddogol o ddileu "hawliau ychwanegol" gyfrifon marw. Mi wneith y stiwardiaid y gwaith hwn yn unol â admin activity review.

Penderfynom fod y defnyddwyr canlynol heb fod yn weithgar (dim golygiadau na gweithgaredd am 2 flynedd):

  1. Glanhawr (gweinyddwr)
  2. Paul-L (gweinyddwr)

Caiff y defnyddwyr hyn eu hysbysu cyn hir, gan ofyn iddyn nhw drafod gyda'r gymuned os ydyn nhw'n dymuno cadw rhai o'u hawliau. Os nad ydyn nhw'n ymateb, yna bydd eu hawliau ychwanegol yn cael eu diddymu gan y Stiwardiaid.

Fodd bynnag, os ydych chi, gymuned y Wicipedia Cymraeg, yn dymuno creu adolygiad ar weithgareddau gweinyddwyr sydd heb gyfrannu a'u hawliau ychwanegol, yn hytrach na'r adolygiad fyd-eang, yna rhowch wybod i stiwardiaid Meta-Wici fel nad ydym yn mynd ati gyda'r adolygiad hwn ar eich wici. Diolch. Rschen7754 05:29, 8 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]

Hi. My bot tagged a couple of days ago a large number of pages which are broken redirects (pages wich contains redirect links to inexistant pages). I'd appreciate if you could review them and delete them, along with other speedy deletion candidates. Thank you. --MarcoAurelio (sgwrs) 23:59, 7 Awst 2016 (UTC)[ateb]

All done, thanks. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:49, 27 Awst 2016 (UTC)[ateb]

Improved search in deleted pages archive

[golygu cod]

Cyfieithu i'ch iaith chi

During Wikimedia Hackathon 2016, the Discovery team worked on one of the items on the 2015 community wishlist, namely enabling searching the archive of deleted pages. This feature is now ready for production deployment, and will be enabled on all wikis, except Wikidata.

Right now, the feature is behind a feature flag - to use it on your wiki, please go to the Special:Undelete page, and add &fuzzy=1 to the URL, like this: https://test.wikipedia.org/w/index.php?title=Special%3AUndelete&fuzzy=1. Then search for the pages you're interested in. There should be more results than before, due to using ElasticSearch indexing (via the CirrusSearch extension).

We plan to enable this improved search by default on all wikis soon (around August 1, 2017). If you have any objections to this - please raise them with the Discovery team via email or on this announcement's discussion page. Like most Mediawiki configuration parameters, the functionality can be configured per wiki. Once the improved search becomes the default, you can still access the old mode using &fuzzy=0 in the URL, like this: https://test.wikipedia.org/w/index.php?title=Special%3AUndelete&fuzzy=0

Please note that since Special:Undelete is an admin-only feature, this search capability is also only accessible to wiki admins.

Diolch o galon! CKoerner (WMF) (talk) 18:40, 25 Gorffennaf 2017 (UTC)[ateb]

Dileu statws gweinyddwyr Chwefror 2018

[golygu cod]

Mae'r ddalen yma yn dangos nifer y Gweinyddwyr sydd gennym ar hyn o bryd (Chwefror 2018). Mae'r drafodaeth ddiweddaraf a gawsom ar statws Gweinyddwyr, ym Mai 2016, i'w weld yma: Wicipedia:Y Caffi/archif/21.

Deb (Biwrocrat, Gweinyddwr) - rheolaidd
Paul-L (Gweinyddwr) - Golygiad dwaethaf: Mai 2013
Dyfrig (Gweinyddwr) - 6 golygiad ers Medi 2016; golygiad dwaethaf: Ionawr 2018
Tigershrike (Gweinyddwr) - 0 golygiad ers Ebrill 2015
Lloffiwr (Gweinyddwr) - 1 golygiad ers Rhagfyr 2014; gol dwaetha Gorffennaf 2017
Adam (Gweinyddwr) - rheolaidd
Llygadebrill (Gweinyddwr) - 6 golygiad ers Hydref 2014
Anatiomaros (Biwrocrat, Gweinyddwr) - 0 golygiad ers Mehefin 2015
Rhyswynne (Gweinyddwr) - rheolaidd
Thaf (Gweinyddwr) - 0 golygiad ers Medi 2017
Llywelyn2000 (Biwrocrat, Gweinyddwr) - rheolaidd
Rhyshuw1 (Gweinyddwr) - 0 golygiad ers Mehefin 2014
Pwyll (Gweinyddwr) - 4 golygiad ers Tachwedd 2015; gol dwaetha Gorffennaf 2017
Xxglennxx (Gweinyddwr) - Gol dwaethaf: Rhagfyr 2017
Jim Carter (Gweinyddwr dros dro) - i'w ddileu (geler yma)

Ychwanegais uchod hefyd ddyddiad eu golygiad diwethaf, os nad ydynt wedi golygu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Cynigiaf ein bod yn dod a statws y canlynol i ben, am y tro:

Paul-L
Tigershrike
Lloffiwr
Llygadebrill
Anatiomaros (hefyd yn Fiwrocrat)
Rhyshuw1
Pwyll
Jim Carter

Gallant, wrth gwrs, ail-gyflwyno cais i ail-afael ynddi os ydynt am ailgychwyn. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:48, 19 Chwefror 2018 (UTC)[ateb]

Os nad oes neb yn erbyn hyn, mi af ati mewn wythnos fel yr awgrymir. Un o brif alluoedd Gweinyddwyr yw edrych ar ol wici o ran cloi tudalennau a rheoli fandaliaeth, a gall Gweinyddwyr nad ydynt yn golygu ddim gwneud hynny. Ac mae gwir angen help. Llywelyn2000 (sgwrs) 00:13, 22 Chwefror 2018 (UTC)[ateb]
A request was made at Meta regarding the above. The following users have had their admin status removed because of inactivity:
The following three users have no logged actions in more than two years (but have edited in the last two years), and have been notified on their talk pages. If they do not respond in one month, you can re-list them at Meta.

Green Giant (sgwrs) 10:25, 8 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]

Many thanks User:Green Giant for all your work here! Wnes i ddim cynnwys Defnyddiwr:Pwyll ar Meta, gan ei fod wedi golygu yng Ngorffennaf 2017. Gair hefyd i gadarnhau y gallem ailosod hawliau'r defnyddwyr yma unrhyw dro mae nhw'n dymuno hynny. Mae rhai o'r rhain ymhlith y bobl allweddol hynny a fu'n aruthrol bwysig yn nyddiau cynharaf Wicipedia Cymraeg. Y cwbwl da ni'n ei wneud mewn gwirionedd ydy "sefyll ar ysgwyddau'r cewri hyn". Llywelyn2000 (sgwrs) 06:03, 9 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]

I need help reviewing a Global RFC

[golygu cod]
Dear admins, I am preparing a Global Request for Comments about financial support for admins that might be relevant for you .

Can you please review the draft and give me some feedback about how to improve it? Thank you.

MassMessage sent by Micru on 18:00, 7 Mehefin 2018 (UTC)[ateb]

Gweinyddwr wedi newid enw

[golygu cod]

Neges gwrteisi: rydw i, yr hen Adam, wedi newid fy enw defnyddiwr. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 16:05, 25 Medi 2018 (UTC)[ateb]

New Wikimedia password policy and requirements

[golygu cod]

CKoerner (WMF) (talk) 21:21, 6 Rhagfyr 2018 (UTC)[ateb]

Few pages needs to be cleaned up after maintenance

[golygu cod]

Sorry for writing in English.

Hello, after recent maintenace that was done on your wiki, a few of pages that were previously inaccessible are accessible again. Some of those pages couldn't be fixed, because their name was taken by another page. For that reason, I've moved those pages to start with T173070. I'd like ask you to review those pages, move them to correct title or delete them, if they are no longer needed. You can find the list of pages that needs maintenance in the output of the maintenance script. If you need any help with this, please feel free to contact me. Best regards, --Martin Urbanec (talk) 21:15, 27 Mehefin 2019 (UTC)[ateb]

2409:4064:99D:B502:3084:9EC8:A370:163F

[golygu cod]

Could you drop some attention on Special:Contribs/2409:4064:99D:B502:3084:9EC8:A370:163F, please? --Martin Urbanec (sgwrs) 10:24, 16 Ionawr 2020 (UTC)[ateb]

Improving the translation support for the Welsh Wikipedia

[golygu cod]

Hi!

Content translation has been successful in supporting the translation process on many Wikipedia communities, and we want to help additional wikis with potential to grow using translation as part of a new initiative.

Content translation facilitates the creation of Wikipedia articles by translating content from other languages. It has been used already to create more than half a million articles. In addition, the tool provides mechanisms to encourage the creation of good quality content, preventing the publication of lightly edited machine translations. In general, our analysis shows that the translations produced are less likely to be deleted than the articles started from scratch.

Welsh Wikipedia editors have used Content translation to create more than 1,500 articles. Given the size of the editing community, we think that there is potential to use translation to create more articles, expand existing ones, and attract new editors that learn how to make productive edits. Translation can help the community to reduce the language gap with other languages and grow the number of editors in a sustainable way. In order to achieve this goal, we want to collaborate with you to make Content translation more visible in the Welsh Wikipedia and support new ways to translate.

As a first step, during the next weeks we plan to enable Content translation by default on the Welsh Wikipedia. That will make it easy for users to discover the tool through several entry points. However, users not interested in translation will still be able to disable it from their preferences.

Please feel free to share any comment in this conversation thread.

Thanks! --Amir E. Aharoni (WMF) (sgwrs) 20:01, 17 Medi 2020 (UTC)[ateb]

Cross-wiki spam

[golygu cod]

Hi! Could you please help me and remove this page? It was created by a globally locked LTA. Thanks in advance! Have a good day! Bencemac (sgwrs) 08:17, 8 Ionawr 2021 (UTC)[ateb]

Diddymu statws gweinyddwr

[golygu cod]

Bob rhyw dair blynedd da ni'n edrych a oes gweinyddwyr sydd ddim wedi golygu ers dros dwy flynedd. Dyma'r hyn a welaf yn fama :

Defnyddiwr:Dyfrig: golygiad diwethaf yn Ebrill 2018
Defnyddiwr:Lloffiwr: Gorffennaf 2017
Defnyddiwr:Faebot - a roddwyd y galluoedd i wneud un job rai blynyddoedd yn ol.

Bu Dyfrig a Lloffiwr yn weithgar iawn ym mlynyddoedd cynnar y Wicipedia Cymraeg, ac mae'n fy mrifo i awgrymu ein bod yn tynnu'r statws oddi wrthynt. Ond cofier, gallant wneud cais i'w ailosod os dymunent. Gyda chryn boen meddwl, dwi'n cynnig ein bod yn dileu statws gweinyddwr y tri. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:35, 9 Ebrill 2021 (UTC)[ateb]

Possible spam crosswiki

[golygu cod]

Hi, sorry for writting in English, but I can't speak the language.
Some days ago, a global sysop, Billinghurst due to some suspects from global spam around Patxi Xabier Lezama Perier
The IP 85.84.0.104, who has been related with the same process has been deleting several times the request across several wikis saying it's vandalism or "ethnic cleansing".

Some of the wikis have already erased their articles due to the spam (and some kept it), but at least so you can get informed of the information.
Thanks for your time and sorry for not using the right language.--Lost in subtitles (diskuto)--Lost in subtitles (sgwrs) 23:14, 18 Gorffennaf 2021 (UTC)[ateb]

Global ban proposal for Musée Annam

[golygu cod]

Apologies for writing in English. Cyfieithu i'ch iaith chi There is an on-going discussion about a proposal that Musée Annam be globally banned from editing all Wikimedia projects. You are invited to participate at Requests for comment/Global ban for Musée Annam on Meta-Wiki. Diolch o galon! NguoiDungKhongDinhDanh (sgwrs) 14:22, 27 Rhagfyr 2021 (UTC)[ateb]

Hello! Please react to this spam contribution Arbennig:Contributions/58.177.112.24. Diolch. Renvoy (sgwrs) 10:42, 7 Gorffennaf 2022 (UTC)[ateb]

Rename two files

[golygu cod]

Hello!

Sorry for writing in English. The file extensions (.jpg) of these files don't match the MIMEs (image/png) of the files and hence need to be moved:

Diolch. Jonteemil (sgwrs) 21:45, 13 Gorffennaf 2022 (UTC)[ateb]

Global ban proposal for Piermark/House of Yahweh/HoY

[golygu cod]

Apologies for writing in English. If this is not the proper place to post, please move it somewhere more appropriate. Cyfieithu i'ch iaith chi There is an on-going discussion about a proposal that Piermark/House of Yahweh/HoY be globally banned from editing all Wikimedia projects. You are invited to participate at Requests for comment/Global ban for Piermark on Meta-Wiki. Diolch o galon! U.T. (sgwrs) 12:35, 4 Mai 2023 (UTC)[ateb]

New special page to fight spam

[golygu cod]

Cyfieithu i'ch iaith chi

Hello, We are replacing most of the functionalities of MediaWiki:Spam-blacklist with a new special page called Special:BlockedExternalDomains. In this special page, admins can simply add a domain and notes on the block (usually reasoning and/or link to a discussion) and the added domain would automatically be blocked to be linked in Wikis anymore (including its subdomains). Content of this list is stored in MediaWiki:BlockedExternalDomains.json. You can see w:fa:Special:BlockedExternalDomains as an example. Check the phabricator ticket for more information.

This would make fighting spam easier and safer without needing to know regex or accidentally breaking wikis while also addressing the need to have some notes next to each domain on why it’s blocked. It would also make the list of blocked domains searchable and would make editing Wikis in general faster by optimizing matching links added against the blocked list in every edit (see phab:T337431#8936498 for some measurements).

If you want to migrate your entries in MediaWiki:Spam-blacklist, there is a python script in phab:P49299 that would produce contents of MediaWiki:Spam-blacklist and MediaWiki:BlockedExternalDomains.json for you automatically migrating off simple regex cases.

Note that this new feature doesn’t support regex (for complex cases) nor URL paths matching. Also it doesn’t support bypass by spam whitelist. For those, please either keep using MediaWiki:Spam-blacklist or switch to an abuse filter if possible. And adding a link to the list might take up to five minutes to be fully in effect (due to server-side caching, this is already the case with the old system) and admins and bots automatically bypass the blocked list.

Let me know if you have any questions or encounter any issues. Happy editing. Amir (talk) 09:41, 19 Mehefin 2023 (UTC)[ateb]

Erthygl o ryw wici arall wedi’i gopïo yn Saesneg. Angen dileu, amwni. Dogfennydd (sgwrs) 17:40, 31 Ionawr 2024 (UTC)[ateb]

Wedi ei dileu. Rhyswynne (sgwrs) 14:18, 2 Chwefror 2024 (UTC)[ateb]

Mae'r ffilm hon wedi'i rhwystro'n llwyr ar Wicipedia Syml a Saesneg oherwydd mater nodedigrwydd a hunan-hyrwyddo. Crëwyd yr erthygl gan y sockpuppets ym mhobman. Gallwch chi ei wirio yma, yma ac yma.

Darllenwch yn fanwl a chymerwch gamau ar yr erthygl hon a'i dileu cyn gynted â phosibl. Captcrane (sgwrs) 03:31, 15 Awst 2024 (UTC)[ateb]

Rhyswynne, rhaid i chi adolygu hyn. Diolch! Captcrane (sgwrs) 03:37, 15 Awst 2024 (UTC)[ateb]