Japan
日本国 neu 日本 Nippon-koku | |
Arwyddair | Y Darganfod Diddiwedd |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, ynys-genedl, gwlad |
Enwyd ar ôl | sunrise |
Prifddinas | Tokyo |
Poblogaeth | 125,440,000 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Kimigayo |
Pennaeth llywodraeth | Shigeru Ishiba |
Cylchfa amser | amser safonol Japan, Asia/Tokyo, UTC+09:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Japaneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dwyrain Asia |
Gwlad | Japan |
Arwynebedd | 377,972.28 km² |
Gerllaw | Môr Japan, Y Cefnfor Tawel, Môr Okhotsk, Môr Dwyrain Tsieina, Môr y Philipinau |
Yn ffinio gyda | Rwsia, De Corea, Taiwan, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Unol Daleithiau America, Yr Undeb Sofietaidd, y Philipinau |
Cyfesurynnau | 35°N 136°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Japan |
Corff deddfwriaethol | National Diet |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Ymerawdwr Japan |
Pennaeth y wladwriaeth | Naruhito |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Japan |
Pennaeth y Llywodraeth | Shigeru Ishiba |
Crefydd/Enwad | Shintō, Bwdhaeth, Cristnogaeth |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $5,005,537 million, $4,231,141 million |
Arian | Yen |
Canran y diwaith | 4 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 1.38 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.925 |
Mae Japan (Japaneg: 日本 ynganiad Nihon; Nippon neu Nihon-koku; hefyd yn Gymraeg, Siapan) yn wlad sy'n cynnwys 6,852 o ynysoedd yn nwyrain Asia; y 4 fwyaf yw Honshu, Hokkaido, Kyushu, a Shikoku. Fe'i hamgylchynnir gan y Cefnfor Tawel (Taiheiyō), Setonaikai a Môr Japan (Nihonkai). Gorwedda i'r de-ddwyrain o Rwsia, i'r dwyrain o Tsieina a Chorea ac i'r gogledd-ddwyrain o ynys Taiwan. Tokyo yw prifddinas y wlad, ac ymhlith y dinasoedd eraill mwyaf poblog y mae: Yokohama, Osaka, Nagoya, Sapporo, Fukuoka, Kobe, a Kyoto. Yn y Cyfrifiad diwethaf, roedd poblogaeth y wlad yn 125,440,000 (Chwefror 2022)[1].
Yn 2021, Japan oedd yr 11fed wlad fwyaf poblog yn y byd, yn ogystal ag un o'r gwledydd mwyaf poblog a threfol. Mae tua 75% o dir y wlad yn fynyddig, ac mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn byw yn y gwastadeddau arfordirol, cul. Rhennir Japan yn 47 o daleithiau gweinyddol ac wyth rhanbarth traddodiadol. Ardal Tokyo Fwyaf yw'r ardal fetropolitan fwyaf poblog yn y byd, gyda mwy na 37.4 miliwn o drigolion.
Mae pobl wedi byw yn Japan ers y cyfnod Paleolithig Uchaf (neu Hen Oes y Cerrig Uchaf, sef tua 30,000 CC), er bod y sôn ysgrifenedig cyntaf am yr archipelago yn ymddangos mewn cronicl Tsieineaidd a orffennwyd yn yr 2g OC. Gellir cymharu hyn gydag Ogof Bontnewydd, Llanelwy, lle cafwyd hyd i ddant dynol sy'n mynd nôl tua 225,000 o flynyddoedd. Rhwng y 4g a'r 9g, daeth unwyd teyrnasoedd Japan o dan un ymerawdwr a'r llys ymerodrol wedi'i leoli yn Heian-kyō. Gan ddechrau yn y 12g, daliwyd y pŵer gwleidyddol gan gyfres o unbeniaid milwrol (shōgun) ac arglwyddi ffiwdal (daimyō), drwy ddosbarth o uchelwyr rhyfelgar (samurai). Ar ôl cyfnod o ganrif o ryfel cartref, adunwyd y wlad ym 1603 o dan Tokugawa shogun, a ddeddfodd bolisi tramor ynysig. Ym 1854, gorfododd fflyd o logau milwrol a masnach o’r Unol Daleithiau Japan i fasnachu gyda'r Gorllewin, a arweiniodd at ddiwedd y shogunate ac adfer pŵer ymerodrol (Adferiad y Meiji) ym 1868. Yn y cyfnod Meiji, mabwysiadodd Ymerodraeth Japan gyfansoddiad wedi'i fodelu ar y Gorllewin a dilyn rhaglen a oedd yn datblygu diwydiant a moderneiddio. Yn 1937, goresgynnodd Japan Tsieina; ym 1941, aeth i'r Ail Ryfel Byd fel un o bartneriaid yr Almaen. Fe'i trechwyd yn Rhyfel y Môr Tawel a dau fomiad atomig Hiroshima a Nagasaki. Iildiodd Japan ym 1945 a daeth o dan feddiannaeth y Cynghreiriaid am gyfnod o saith mlynedd, pan fabwysiadodd gyfansoddiad newydd. O dan gyfansoddiad 1947, mae Japan wedi cynnal brenhiniaeth seneddol seneddol unedol gyda deddfwrfa ddwyochrog, y Ddau Dŷ, neu'r 'Diet' Cenedlaethol .
Mae Japan[2] yn bwer mawr ac yn aelod o nifer o sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig (ers 1956), yr OECD, a'r Grŵp o Saith. Er ei bod wedi ymwrthod â’i hawl i ddatgan rhyfel, mae’r wlad yn cynnal Lluoedd Hunan-Amddiffyn a gaiff ei hystyried fel un o fyddinoedd cryfaf y byd. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, profodd Japan y twf mwyaf erioed yn economaidd, gan ddod yr economi ail-fwyaf yn y byd erbyn 1990. O 2021 ymlaen, economi'r wlad yw'r drydedd-fwyaf yn ôl CMC enwol a'r bedwaredd-fwyaf gan PPP. Caiff y wlad ei hystyried yn arweinydd byd-eang yn y diwydiannau modurol ac electroneg, ac wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i wyddoniaeth a thechnoleg. Yn "uchel iawn" ar y Mynegai Datblygiad Dynol, yma, ceir un o ddisgwyliadau oes ucha'r byd, er fod yma ostyngiad yn y boblogaeth. Mae diwylliant Japan yn adnabyddus ledled y byd, gan gynnwys ei chelf, bwyd, cerddoriaeth, a'i diwylliant poblogaidd, sy'n cwmpasu diwydiannau comig, animeiddio a gemau fideo amlwg.
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Bathiad estron yw'r gair Japan a ddatblygodd trwy lwybrau masnach cynnar, yn debygol iawn o ynganiad Tseiniaidd Wu neu Mandarin cynnar o'r gair gwreiddiol Japaneg.[3] Yr enw Japaneg ar y wlad yw Nihon, neu yn llai aml defnyddir yr hen enw Nippon.[4] Mae gan y ddau enw yr un ystyr sef "tarddiad yr haul", neu'r "wawr", a chaiff y ddau eu hysgrifennu gan ddefnyddio'r ddau kanji 日本. Ystyr y kanji cyntaf 日 (Ni-) yw dydd neu haul; ystyr yr ail 本 (-hon) yw gwraidd neu darddiad.[5]
Hanes
[golygu | golygu cod]Yr Oes fodern
[golygu | golygu cod]Ym 1854, gorfododd y Comodore Matthew Perry a "Llongau Du " Llynges yr Unol Daleithiau Japan i agor ei drysau i'r byd mawr, drwy Chonfensiwn Kanagawa.[6] Ond daeth nifer o gytundebau economaidd dilynol â gwledydd eraill y Gorllewin ag argyfyngau economaidd a gwleidyddol i'r wlad.[6] Arweiniodd ymddiswyddiad y shōgun at Ryfel Boshin a sefydlu gwladwriaeth ganolog a unwyd (mewn enw) o dan yr ymerawdwr (gw. Adferiad y Meiji).[7] Gan fabwysiadu trefniant gwleidyddol y Gorllewin, gan gynnwys: sefydliadau barnwrol a milwrol, trefnodd y Cabinet y Cyfrin Gyngor, cyflwynodd Gyfansoddiad Meiji, a sefydlodd y Diet Imperial.[8] Yn ystod y cynod Meiji (1868-1912), daeth Ymerodraeth Japan i'r amlwg fel y genedl fwyaf datblygedig yn Asia ac fel pŵer byd diwydiannol a aeth ar drywydd gwrthdaro milwrol i ehangu ei gylch dylanwad.[9][10][11] Ar ôl buddugoliaethau yn y Rhyfel Sino-Japaneaidd Cyntaf (1894-1895) a Rhyfel Russo-Japan (1904-1905), enillodd Japan reolaeth ar Taiwan, Corea a hanner deheuol Sakhalin.[12][8] Dyblodd poblogaeth Japan o 35 miliwn ym 1873 i 70 miliwn erbyn 1935, gyda symudiad sylweddol at drefoli.[13][14]
Yn gynnar yn yr 20g cysgodolwydcafwyd cyfnod o ddemocratiaeth Taishō (1912-1926) gan gryfhau'r fyddin yn barhaus.[15][16] Yn y Rhyfel Byd Cyntaf i Japan, ymunodd ag ochr y Cynghreiriaid buddugol, a meddiannodd lawer o eiddo'r Almaen yn y Môr Tawel ac yn Tsieina.[16] Yn y 1920au gwelwyd symudiad gwleidyddol tuag at statism, cyfnod o anhrefn, yn dilyn Daeargryn Fawr Tokyo 1923, pasio deddfau yn erbyn anghytuno gwleidyddol, a chyfres o ymdrechu i ddymchwel y llywodraeth.[14][17][18] Ym 1931, goresgynnodd a meddiannodd Japan Manchuria; yn dilyn condemniad rhyngwladol; ddwy flynedd yn ddiweddarach, ymddiswyddodd o Gynghrair y Cenhedloedd. Ym 1936, llofnododd Japan y Cytundeb Gwrth-Comintern gyda'r Almaen Natsïaidd; gwnaeth y Cytundeb Tridarn 1940 yn un o'r Pwerau Echel.[14]
Ymosododd Ymerodraeth Japan ar rannau eraill o Tsieina ym 1937, ac ymladdwyd yr Ail Ryfel Sino-Japaneaidd (1937–1945).[19] Ym 1940, goresgynnodd yr Ymerodraeth Indochina (a hawliwyd gan Ffrainc), ac ar ôl hynny gosododd yr Unol Daleithiau embargo olew ar Japan.[14][20] Ar Ragfyr 7–8, 1941, cynhaliodd lluoedd Japan ymosodiadau annisgwyl ar Pearl Harbour, yn ogystal ag ar luoedd Lloegr ym Malaya, Singapore, a Hong Kong, ymhlith eraill, gan ddechrau’r Ail Ryfel Byd yn y Môr Tawel.[21] Ar draws ardaloedd a feddiannwyd gan Japan yn ystod y rhyfel, gwelwyd camdrin trigolion lleol, gyda llawer yn cael eu gorfodi i gaethwasiaeth rywiol.[22] Ar ôl buddugoliaethau’r Cynghreiriaid yn ystod y pedair blynedd nesaf, a arweiniodd at oresgyniad Sofietaidd o Manchuria a bomiau atomig Hiroshima a Nagasaki ym 1945, cytunodd Japan i ildio’n ddiamod.[23] Costiodd y rhyfel ei threfedigaethau a miliynau o fywydau i Japan.[14] Dilewyd ymerodraeth Japan i raddau helaeth a’i dylanwad dros y tiriogaethau a orchfygodd.[24][25] Cynullodd y Cynghreiriaid y Tribiwnlys Milwrol Rhyngwladol ar gyfer y Dwyrain Pell i erlyn arweinwyr Japan am droseddau rhyfel.[25]
Ym 1947, mabwysiadodd Japan gyfansoddiad newydd yn pwysleisio arferion democrataidd rhyddfrydol.[25] Daeth meddiant y Cynghreiriaid i ben gyda Chytundeb San Francisco ym 1952,[26] ac ailymunodd y wlad gyda'r Cenhedloedd Unedig ym 1956.[25] Yn ddisymwth, daeth Japan yr economi ail-fwyaf yn y byd; [25] ond daeth hyn i ben yng nghanol y 1990au.[27] Ar 11 Mawrth 2011, dioddefodd Japan un o’r daeargrynfeydd mwyaf yn ei hanes gan sbarduno trychineb niwclear Fukushima Daiichi.[28] Ar 1 Mai 2019, ar ôl ymwrthod hanesyddol â'r Ymerawdwr Akihito, daeth ei fab Naruhito yn Ymerawdwr, gan ddechrau oes Reiwa.[29]
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Prif: Daearyddiaeth Japan
Mae 6,852 o ynysoedd yn Japan, a'r ynys fwyaf o ran maint a phoblogaeth yw Honshū sydd yn ymestyn ar hyd canolbarth y wlad. Mae tair ynys arall sy'n neilltuol o ran maint a phoblogaeth – Hokkaidō yn y gogledd, Kyūshū yn y de-orllewin a Shikoku yn y de. Mae Japan yn wlad fynyddig ac ychydig o wastadeddau sydd i'w cael sydd yn addas i fyw arnynt. Dyma'r rheswm dros y dwysedd poblogaeth uchel. Y copa uchaf yw Mynydd Fuji (富士山 Fuji-san; 3776 m).
Gan fod Japan yn rhan o'r Cylch Tân (y gadwyn o losgfynyddoedd o gwmpas y Cefnfor Tawel) ceir llawer o losgfynyddoedd, daeargrynfeydd a ffynhonnau poeth yn y wlad.
Mae gan Japan 108 o losgfynyddoedd byw. Yn ystod yr ugeinfed ganrif, daeth sawl llosgfynydd newydd i'r golwg, gan gynnwys Shōwa-shinzan ar ynys Hokkaido a Myōjin-shō oddi ar Greigiau Bayonnaise yn y Cefnfor Tawel. Mae daeargrynfeydd dinistriol, sy'n arwain yn aml at tswnami, yn digwydd sawl gwaith bob canrif. Bu farw dros 140,000 o bobl yn naeargryn Tokyo yn 1923.
Dinasoedd
[golygu | golygu cod]Prifddinas Japan yw Tokyo (Tōkyō), canolbwynt wleidyddol ac economaidd y wlad. Ger Tokyo, mae dinas fawr Yokohama ynghyd â rhannau helaeth o daleithiau cyfagos yn ffurfio Ardal Tokyo Fwyaf, un o ardaloedd dinesig mwyaf poblog y byd gyda phoblogaeth o tua 36 miliwn yn 2010 [30]. Dinasoedd mawr eraill Japan yw Osaka, Nagoya, Sapporo, Kobe, Kyoto, Fukuoka, Kawasaki a Saitama.
Gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Prif: Gwleidyddiaeth Japan
Mae Japan yn deyrnas seneddol. Ceir Tenno (天皇Ymerawdwr) a senedd, system debyg iawn i'r hyn sydd yng ngwledydd Prydain.
Shinzo Abe o'r Blaid Ddemocrataidd Ryddfrydol (neu'r LDP) ydy Prif Weinidog Japan ers Rhagfyr 2012.
Celf
[golygu | golygu cod]Y celfyddydau gweledol
[golygu | golygu cod]Tarddodd anime yn Japan, math o animeiddio gyda chryn ddylanwad manga arno. Ceir genre unigryw a marchnad enfawr ar ei gyfer ar ffurf gemau fideo hefyd, sydd wedi bod ers y 1980au.[31]
Cerddoriaeth
[golygu | golygu cod]Mae cerddoriaeth Japan yn amrywiol iawn, ac yn adlewyrchu'r hen a'r newydd; ceir llawer o hen offerynnau fel y koto sy'n mynd yn ôl i'r 9fed a'r 10g. Mae canu gwerin yn mynd nol i'r 17fed canrif. Dau o'u cyfansoddwr modern gora nhw yw Toru Takemitsu a Rentarō Taki. Ers yr Ail Ryfel Byd mae cerddoriaeth America ac Ewrop wedi dylanwadu'n fawr ac mae carioci'n bwysig iawn ganddynt.
Economi
[golygu | golygu cod]Yn 2009 Japan oedd ail economi fwyaf y byd ar ôl yr Unol Daleithiau. Mae bancio, yswiriant, eiddo diriaethol, masnach, trafnidiaeth, telathrebu ac adeiladwaith i gyd yn ddiwydiannau mawr.[32] Mae gan Japan gynhwysedd sylweddol i gynhyrchu ar raddfa fawr, ac mae'n gartref i nifer o ddatblygiadau a newyddbethau technogol yn y meysydd moduro, electroneg, offer peiriannau, haearn a metelau anfferrus, llongau, sylweddau cemegol, tecstiliau a bwyd wedi eu prosesu.
Mae'r sector gwasanaethau yn cyfri fel dros dri chwarter o'i CMC, llawer mwy nac amaethyddiaeth a gwneuthuriaeth. Gan fod prinder o adnoddau yn y wlad, mae'n rhaid mewnforio deunyddiau crai a mwynau fel olew a haearn. Mae'r wlad yn allforio cynhyrchion technologol, er enghraifft, ceir neu gynhyrchion trydanol a chemegol.
Poblogaeth
[golygu | golygu cod]- Prif: Poblogaeth Japan
Mae mwyafrif y bobl yn Japaneaid, a'r iaith swyddogol yw Japaneg.
Yng ngogledd y wlad mae grŵp o bobl a elwir yr Ainu yn byw. Pobl wreiddiol ardal gogledd-ddwyrain Siapan. Mae mwyafrif y tramorwyr sy'n byw yn Siapan yn dod o Frasil a Korea.
Rhanbarthau Gweinyddol
[golygu | golygu cod]- Prif: Taleithiau Japan
Mae 47 talaith (Saesneg: Prefecture) yn ffurffio Japan, pob un â llywodraethwr etholedig ynghyd â deddfwrfa a biwrocratiaeth weinyddol. Mae taleithiau yn cyfuno i greu rhanbarth ac yn is-rannu i greu dinasoedd, trefi a phentrefi.
1. Hokkaidō |
2. Aomori 3. Iwate 6. Yamagata 7. Fukushima |
8. Ibaraki 9. Tochigi |
15. Niigata |
24. Mie |
|
|
40. Fukuoka |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Aizuri-e: printiadau bloc pren Siapaneaidd
- Anime
- Gwisg ysgol Japan
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://www.stat.go.jp/english/data/jinsui/tsuki/index.html. dyddiad cyrchiad: 22 Chwefror 2022.
- ↑ "Official Names of Member States (UNTERM)" (PDF). UN Protocol and Liaison Service. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-06-05. Cyrchwyd May 21, 2020.
- ↑ Carr, Michael (March 1992). "Wa Wa Lexicography". International Journal of Lexicography 5 (1): 1–31. doi:10.1093/ijl/5.1.1. ISSN 0950-3846. https://academic.oup.com/ijl/article/5/1/1/950449.
- ↑ Schreiber, Mark (November 26, 2019). "You say 'Nihon,' I say 'Nippon,' or let's call the whole thing 'Japan'?". The Japan Times.
- ↑ Piggott, Joan R. (1997). The Emergence of Japanese Kingship. Stanford University Press. tt. 143–144. ISBN 978-0-8047-2832-4.
- ↑ 6.0 6.1 Henshall, Kenneth (2012). "The Closed Country: the Tokugawa Period (1600–1868)". A History of Japan: From Stone Age to Superpower. Palgrave Macmillan. tt. 53–74. ISBN 978-0-230-36918-4.
- ↑ Totman, Conrad (2005). A History of Japan (arg. 2nd). Blackwell. tt. 289–296. ISBN 978-1-4051-2359-4.
- ↑ 8.0 8.1 Henshall, Kenneth (2012). "Building a Modern Nation: the Meiji Period (1868–1912)". A History of Japan: From Stone Age to Superpower. Palgrave Macmillan. tt. 75–107. ISBN 978-0-230-36918-4.
- ↑ McCargo, Duncan (2000). Contemporary Japan. Macmillan. tt. 18–19. ISBN 978-0-333-71000-5.
- ↑ Baran, Paul (1962). The Political Economy of Growth. Monthly Review Press. t. 160.
- ↑ Totman, Conrad (2005). A History of Japan (arg. 2nd). Blackwell. tt. 312–314. ISBN 978-1-4051-2359-4.
- ↑ Matsusaka, Y. Tak (2009). "The Japanese Empire". In Tsutsui, William M. (gol.). Companion to Japanese History. Blackwell. tt. 224–241. ISBN 978-1-4051-1690-9.
- ↑ Hiroshi, Shimizu; Hitoshi, Hirakawa (1999). Japan and Singapore in the world economy: Japan's economic advance into Singapore, 1870–1965. Routledge. t. 17. ISBN 978-0-415-19236-1.
- ↑ 14.0 14.1 14.2 14.3 14.4 Henshall, Kenneth (2012). "The Excesses of Ambition: the Pacific War and its Lead-Up". A History of Japan: From Stone Age to Superpower. Palgrave Macmillan. tt. 108–141. ISBN 978-0-230-36918-4.Henshall, Kenneth (2012).
- ↑ Tsuzuki, Chushichi (2011). "Taisho Democracy and the First World War". The Pursuit of Power in Modern Japan 1825–1995. Oxford University Press. doi:10.1093/acprof:oso/9780198205890.001.0001. ISBN 978-0-19-820589-0.
- ↑ 16.0 16.1 Ramesh, S (2020). "The Taisho Period (1912–1926): Transition from Democracy to a Military Economy". China's Economic Rise. Palgrave Macmillan. tt. 173–209. ISBN 978-3-030-49811-5.
- ↑ Burnett, M. Troy, gol. (2020). Nationalism Today: Extreme Political Movements around the World. ABC-CLIO. t. 20.
- ↑ Weber, Torsten (2018). Embracing 'Asia' in China and Japan. Palgrave Macmillan. t. 268.
- ↑ Paine, S. C. M. (2012). The Wars for Asia, 1911–1949. Cambridge University Press. tt. 123–125. ISBN 978-1-139-56087-0.
- ↑ Worth, Roland H., Jr. (1995). No Choice But War: the United States Embargo Against Japan and the Eruption of War in the Pacific. McFarland. tt. 56, 86. ISBN 978-0-7864-0141-3.
- ↑ Bailey, Beth; Farber, David (2019). "Introduction: December 7/8, 1941". Beyond Pearl Harbor: A Pacific History. University Press of Kansas. tt. 1–8.
- ↑ Yōko, Hayashi (1999–2000). "Issues Surrounding the Wartime "Comfort Women"". Review of Japanese Culture and Society 11/12 (Special Issue): 54–65. JSTOR 42800182.
- ↑ Pape, Robert A. (1993). "Why Japan Surrendered". International Security 18 (2): 154–201. doi:10.2307/2539100. JSTOR 2539100. https://archive.org/details/sim_international-security_fall-1993_18_2/page/154.
- ↑ Watt, Lori (2010). When Empire Comes Home: Repatriation and Reintegration in Postwar Japan. Harvard University Press. tt. 1–4. ISBN 978-0-674-05598-8.
- ↑ 25.0 25.1 25.2 25.3 25.4 Henshall, Kenneth (2012). "A Phoenix from the Ashes: Postwar Successes and Beyond". A History of Japan: From Stone Age to Superpower. Palgrave Macmillan. tt. 142–180. ISBN 978-0-230-36918-4.Henshall, Kenneth (2012).
- ↑ Coleman, Joseph (March 6, 2007). "'52 coup plot bid to rearm Japan: CIA". The Japan Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-11. Cyrchwyd 2021-09-06.
- ↑ Saxonhouse, Gary; Stern, Robert (2003). "The bubble and the lost decade". The World Economy 26 (3): 267–281. doi:10.1111/1467-9701.00522. https://archive.org/details/sim_world-economy_2003-03_26_3/page/267.
- ↑ Fackler, Martin; Drew, Kevin (March 11, 2011). "Devastation as Tsunami Crashes Into Japan". The New York Times.
- ↑ "Japan's emperor thanks country, prays for peace before abdication". Nikkei Asian Review. April 30, 2019.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-26. Cyrchwyd 2010-07-27.
- ↑ Herman, Leonard (2002). "The History of Video Games". GameSpot. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-29. Cyrchwyd 1 Ebrill 2007. Unknown parameter
|coauthors=
ignored (help) - ↑ er 6 Manufacturing and Construction, Statistical Handbook of Japan, Ministry of Internal Affairs and Communications
|