Rudolf II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Rudolf II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig | |
---|---|
Ganwyd | 18 Gorffennaf 1552 Fienna |
Bu farw | 20 Ionawr 1612 Prag |
Dinasyddiaeth | y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd |
Galwedigaeth | casglwr celf |
Swydd | Ymerawdwr Glân Rhufeinig, brenin Hwngari |
Tad | Maximilian II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig |
Mam | Maria o Awstria, Ymerodres Lân Rufeinig |
Plant | Julius d’Austria |
Llinach | Habsburg |
Gwobr/au | Marchog Urdd y Cnu Aur, Urdd y Gardas |
Uchelwr o Dŷ Hapsbwrg oedd Rudolf II (18 Gorffennaf 1552 – 20 Ionawr 1612) a fu'n Ymerawdwr Glân Rhufeinig o 1576 i 1612.
Ganed ef yn Fienna yn fab i Maximilian, fab Ferdinand, Brenin Hwngari, Croatia a Bohemia, a Maria, ferch Siarl V, Ymerawdwr Glân Rhufeinig—brodyr oedd Ferdinand a Siarl, ac felly cefnder a chyfnither gyfan oedd rhieni Rudolf. Olynwyd Siarl V yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig gan ei frawd Ferdinand I ym 1556, a dilynwyd yr hwnnw gan ei fab Maximilian II 1564. Derbyniodd Rudolf ei addysg yn llys ei ewythr, Felipe II, Brenin Sbaen.[1] Coronwyd yn Rudolf, Brenin Hwngari a Chroatia ym 1572 ac yn Rudolf II, Brenin Bohemia ym 1575. Yn sgil marwolaeth Maximilian ar 12 Hydref 1576, fe'i dyrchafwyd yn Rudolf II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig a Rudolf V, Archddug Awstria yn 24 oed.[2]
Deallusyn, amlieithydd, a chasglwr oedd Rudolf, a dywed iddo fedru Almaeneg, Lladin, Sbaeneg, Eidaleg, Ffrangeg, a rhywfaint o Tsieceg.[1] Dioddefai o byliau o iselder ysbryd, ac ym 1583 aeth o'r neilltu i Brag, Bohemia, i ymddiddori yn y celfyddydau a'r gwyddorau. Dan ei nawdd, daeth Prag yn ganolfan i ysgolheigion, arlunwyr, penseiri, crefftwyr, ac esoteryddion o bedwar ban Ewrop, yn eu plith Tycho Brahe, Johannes Kepler, Bartholomaeus Spranger, Giuseppe Arcimboldo, Giambattista Della Porta, a John Dee. Comisiynodd Rudolf nifer o gelfyddydweithiau, a chasglodd baentiadau, cerfluniau, tapestrïau, ac engrafiadau ar gyfer ei oriel, llyfrau a llawysgrifau ar gyfer ei lyfrgell, a thlysau, ffosiliau, cregyn, esgyrn, ac offer gwyddonol ar gyfer ei Kunstkammer (arddangosfa hynodion).[1] Ymddiddorai hefyd yn yr ocwlt, alcemeg, a dewiniaeth.
Gwaethygodd ei afiechyd meddwl ar ôl 1598, ac yn ystod ei flynyddoedd olaf pwysodd yr Hapsbwrgiaid eraill ar Rudolf i drosglwyddo'i rym yn raddol i'w frawd iau, Matthias. Ildiodd felly goron Hwngari iddo ym 1608 a choron Bohemia ym 1611. Bu farw Rudolf II ym Mhrag yn 59 oed, a fe'i olynwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig gan Matthias.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Stephanie Witham, "Rudolf II of Habsburg, Holy Roman Emperor" yn Renaissance and Reformation, 1500–1620: A Biographical Dictionary, golygwyd gan Jo Eldridge Carney (Westport, Connecticut: Greenwood Press, 2001), tt. 305–06.
- ↑ (Saesneg) Rudolf II (Holy Roman emperor). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Chwefror 2023.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- R. J. W. Evans, Rudolf II and His World (1973).
- E. Fucikova (gol.), Rudolf II and Prague: The Court and the City (1997).
Rhagflaenydd: Maximilian II |
Ymerawdwr Glân Rhufeinig 1576 – 1612 |
Olynydd: Matthias |