Mynydd Libanus
Gwedd
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Dyffryn Hollt Mawr |
Gwlad | Libanus |
Arwynebedd | 4,840 km² |
Uwch y môr | 3,088 metr |
Cyfesurynnau | 34.3008°N 36.1158°E |
Hyd | 160 cilometr |
Deunydd | calchfaen |
Mynydd Libanus (Arabeg: جبل لبنان) yw'r enw a ddefnyddir am gadwyn o fynyddoedd yn Libanus a de-orllewin Syria. Mae'n ymestyn am 240 km o'r gogledd i'r de, gyda tua 160 km yn Libanus ac 80 km yn Syria.
Ar ochr orllewinol y mynyddoedd mae'r gwastadedd arfordirol a'r Môr Canoldir, tra ar yr ochr ddwyreiniol mae Dyffryn Beka. Y copa uchaf yw Qurnat as Sawda', 3,088 m. Rhoddodd y mynyddoedd eu henw i'r wlad; mae "Laban" yn golygu "gwyn" mewn Aramaeg.
Yn y mynyddoedd hyn y ceir Cedrwydd Libanus, a ystyrir yn symbol o'r wlad, ac sy'n ymddangos ar faner Libanus.