Mari Emlyn
Mari Emlyn | |
---|---|
Ganwyd | Chwefror 1964 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | sgriptiwr, llenor, actor |
Tad | Owen Edwards |
Awdur ac actores yw Mari Emlyn (ganwyd Chwefror 1964).
Ganwyd a magwyd Emlyn yng Nghaerdydd yn ferch i Shân Emlyn Jones ac Owen Edwards.[1] Yn dilyn cwblhau ei haddysg yn ysgolion Bryntaf a Llanhari aeth i Lundain a graddio yn y Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Rose Bruford College of Speech and Drama. Ers hynny mae wedi dilyn gyrfa fel actores, sgriptwraig, golygydd llyfrau ac awdur llyfrau yn ogystal â threulio pum mlynedd fel Cyfarwyddwr Artistig Galeri, Caernarfon.
Ei chyhoeddiad diweddaraf fel awdur yw Cofiwch Dryweryn - Cymru'n Deffro / Wales Awakening (Hydref 2019), sef cyfrol a ganolbwyntia ar ffenomenon murluniau diweddaraf Cofiwch Dryweryn sydd wedi ymddangos ar hyd a lled Cymru mewn ymateb i'r trosedd casineb yn erbyn y murlun eiconig gwreiddiol. Ynghyd â lluniau o'r murluniau, mae'r rhai fu'n eu peintio yn egluro pam eu bod wedi gweithredu yn y fath fodd a cheir cyfraniadau gan rai fu'n llygad dystion i foddi Capel Celyn.[2]
Yn 2020 cyhoeddodd nofe, Mefus yn y Glaw (Gwasg y Bwthyn), lle mae'r prif gymeriad, Lili, yn mynd drwy'r menopôs.[3] Disgrifir fel "nofel hwyliog a sensitif am gyfeillgarwch a sefyllfa merched hŷn. Rydym yn dilyn diwrnod ym mywyd Lili Daniels, awdures 50 oed, sy'n cael trafferth darganfod ei hawen a hithau'n ceisio ysgrifennu ei phumed nofel."[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ JONES, SHÂN EMLYN (1936 - 1997), cantores. Bywgraffiadur Cymru (20 Mai 2020). Adalwyd ar 14 Awst 2022.
- ↑ "www.gwales.com - 9781845271329, Llythyrau'r Wladfa 1865–1945". www.gwales.com. Cyrchwyd 2020-01-10.
- ↑ "Mari Emlyn: Y menopos a fi". BBC Cymru Fyw. 23 Gorffennaf 2020.
- ↑ "Mefus yn y Glaw". Ffolio Cymru. Cyrchwyd 18 Ebrill 2023.