Gŵyl Fihangel
Enghraifft o'r canlynol | dydd gŵyl Cristnogol, gŵyl grefyddol, gŵyl |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gŵyl Mihangel neu Gŵyl Fihangel yw gŵyl Gristnogol y Seintiau Mihangel, Gabriel, a Raphael, a chaiff ei hadnabod hefyd fel Gŵyl Mihangel Sant a'r Holl Angylion neu Ŵyl yr Archangylion. Fe'i ceir mewn llawer o galendrau litwrgïaidd ar 29 Medi (Cristnogaeth y Gorllewin) ac ar 8 Tachwedd yn nhraddodiadau Cristnogol y Dwyrain. Bu Gŵyl Mihangel yn un o bedwar diwrnod chwarterol y flwyddyn ariannol, barnwrol ac academaidd yng Nghymru, yr Alban, Lloegr ac Iwerddon, ond i raddau llai yn yr 21g.[1] Arferid dathlu Hen Ŵyl Mihangel ar 11 Hydref – ac mae’r gwahaniaeth rhwng y dyddiadau’n ganlyniad i’r newid o galendr Iŵl i galendr Gregori.
Mae Mihangel yn Archangel yn nhraddodiadau Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam. Gyda Gabriel, Raphael, Uriel ac eraill, mae'n sefyll yn dragwyddol o flaen Duw ac mae'n barod i gael ei anfon fel negesyddion at y ddynolryw. Gyda Gabriel mae'n gwarchod drysau eglwysi rhag y Diafol. Yn Islam, Mikail (Mihangel) yw'r archangel sy'n cael ei anfon gan Allah i ddatgelu'r Corân i'r Proffwyd Muhammad.
Cysegrwyd nifer fawr o eglwysi yng Nghymru i Fihangel; gweler Llanfihangel am restr o bentrefi, cymunedau a phlwyfi sy'n dwyn ei enw.
Yng Nghymru arferid dathlu'r diwrnod gyda ffeiriau cyflogi a thalu dyledion, ond nid oedd yn rhaid i'r ffair fod ar y 29 Medi, fel y gwelwn yn nyddiadur y gwleidydd Lloyd George, Llanystumdwy ar 22 Hydref 1885: rainy & slushy; cold – up 7 – to Criccieth Gwyl Mihangel Fair. Ac yn nyddiadur Edward Evans, Parsele, Sir Benfro ar gyfer 9 Hydref 1851 mae'n cofnodi: Thomas a finnau yn Glandro [gweithio cyfrifon?] a pharatoi pethau erbyn yfory, sef Ffair Mihangel yn Fathry. Efallai mai'r rheswm dros y gwahanol ddyddiadau dathlu yw fod yr hen Ŵyl Mihangel ar 11 Hydref – ac mae’r gwahaniaeth rhwng y dyddiadau’n ganlyniad i’r newid o galendr Iŵl i galendr Gregori. Byddai ffair Llanystumdwy, felly, hanner ffordd rhwng yr hen ddyddiad a'r dyddiad newydd.
Mae'r dyddiad felly'n syrthio ychydig wedi Cyhydnos yr Hydref (sef Alban Elfed).
Dathliadau
[golygu | golygu cod]Ar An t-Eilean Sgitheanach (sef yr Ynys Skye), yn yr Alban, arferwyd cynnal gorymdaith ar y dydd hwn.[2]
Un o'r ychydig flodau i flodeuo yr adeg hon o'r flwyddyn yng Nghymru yw blodyn Mihangel (sy'n cael ei adnabod hefyd fel 'Ffarwel Haf', neu aster yn Lladin).[3]
Yn Iwerddon, cynhaliwyd pererindod i ffynhonnau sanctaidd yn gysylltiedig â Sant Mihangel (a elwid yn y Wyddeleg yn Fómhar na nGéanna), gyda phererinion yn yfed dŵr sanctaidd y ffynhonnau lleol. Roedd y cyfarchiad "Boed Sant Mihangel yn féinín arnoch" yn draddodiadol hefyd. Roedd bechgyn a anwyd ar y diwrnod hwn yn aml yn cael eu bedyddio'n Michael neu'n Micheál. Yn Tramore, Swydd Waterford, cariwyd delw o Sant Mihangel, a elwid y Micilín, mewn gorymdaith drwy'r dref i lan yr afon, i nodi diwedd y tymor pysgota. Yn llên gwerin Iwerddon, roedd tywydd clir ar Ŵyl Mihangel yn arwydd o aeaf hir, "Os bydd Dydd Mihangel yn braf a chlir, yna bydd dau aeaf yn y flwyddyn."[4]
Bwyd
[golygu | golygu cod]Mae pryd traddodiadol yr ŵyl yn cynnwys gŵydd a elwir yn ŵydd sofl sef un a baratowyd tuag amser y cynhaeaf, wedi'i besgi ar y caeau sofl sef y bonion oedd yn weddill[5][6][7]. Roedd yna ddywediad Saesneg, sydd o'i gyfieithu yn golygu "os bwytewch ŵydd ar Ddydd Gŵyl Mihangel fyddwch chi byth yn brin o arian trwy'r flwyddyn".[6] Weithiau byddai tyddynwyr yn cyflwyno’r gwyddau i’w tirfeddiannwyr (y landlordiaid), fel a nodwyd yn y cytundebau tenantiaeth. Mae'r arferiad hwn yn dyddio o leiaf o'r 15g.[6]
Roedd arferiad o bobi bara neu deisen neilltuol, a elwir gan rai'n Iwerddon yn Sruthan Mhicheil (bannog Mihangel) ar noswyl Mihangel. Mae'n debyg mai o Ynysoedd Heledd y tarddodd hyn. Gwnaed y bara o ddarnau cyfartal o haidd, ceirch, a rhyg heb ddefnyddio unrhyw offer metel.[8] Gwnaed hyn i gofio am gyfeillion absennol, neu y rhai a fuont farw, a rhoddwyd torthau Struthan, wedi eu bendithio mewn Offeren foreol, i'r tlodion.[9]
Yr hen Ŵyl Mihangel
[golygu | golygu cod]Roedd yr hen Ŵyl Mihangel ar 11 Hydref (10 Hydref yn ôl rhai ffynonellau – ac mae’r gwahaniaeth rhwng y dyddiadau’n ganlyniad i’r newid o galendr Iŵl i galendr Gregori felly mae’r bwlch yn ehangu o ddiwrnod bob canrif ac eithrio’r un presennol). Dywedir i'r Diafol adael y Nefoedd ar y dyddiad hwn, a syrthio i lwyn mwyar duon, gan felltithio'r ffrwyth wrth iddo ddisgyn. Yn ôl hen chwedl, ni ddylid pigo mwyar duon ar ôl y dyddiad hwn. Yn Swydd Efrog, dywedir i'r diafol boeri ar y mwyar duon. Yn ôl Morrell (1977), mae'r hen chwedl hon yn adnabyddus ym mhob rhan o wledydd Prydain, hyd yn oed mor bell i'r gogledd ag Ynysoedd Erch. Yng Nghernyw, ceir chwedl gyffelyb lle dywedir bod y diafol wedi piso arnynt.[10]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Philip's Encyclopedia. Philip's. 2008. t. 511. ISBN 978-0-540-09451-6.
- ↑ "Catholic Encyclopedia: St. Michael the Archangel". Newadvent.org. 1 Hydref 1911. Cyrchwyd 29 Medi 2015.
- ↑ "Y Bywiadur". Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd. 30 Medi 2024. Cyrchwyd 30 Medi 2024.
- ↑ McGarry, Marion (27 Medi 2019). "Geese, daisies and debts: Michaelmas customs in Ireland of old". RTÉ Brainstorm. Cyrchwyd 29 Medi 2020.
- ↑ "Are we ready to embrace the Michaelmas goose once again?". BBC News. 29 Medi 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Hydref 2012. Cyrchwyd 28 Medi 2017.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 Simpson, Jacqueline; Roud, Stephen (2001). A dictionary of English folklore. Oxford paperback reference. Oxford New York: Oxford University Press. t. 237. ISBN 978-0-19-860398-6.
- ↑ Mahon, Bríd (1998). Land of Milk and Honey : The story of traditional Irish food and drink. Dublin, IE: Mercier Press. tt. 135–137. ISBN 1-85635-210-2. OCLC 39935389.
- ↑ Oulton, Randal W. (13 Mai 2007). "Michaelmas Bannock". Cooksinfo.com. Cyrchwyd 29 Medi 2015.
- ↑ Goldman, Marcy (c. 2014). "Peter Reinhart's struan: The harvest bread of Michaelmas". BetterBaking.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Chwefror 2014. Cyrchwyd 13 Mai 2015.
- ↑ Rob Taylor (7 Hydref 2010). "Michaelmas Traditions". Black Country Bugle. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Medi 2015. Cyrchwyd 29 Medi 2015.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Morrell, P. (1977). Gwyliau a Thollau . Llundain: Pan (Piccolo).ISBN 0-330-25215-1ISBN 0-330-25215-1