Neidio i'r cynnwys

Biggin Hill

Oddi ar Wicipedia
Biggin Hill
Mathardal o Lundain Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Llundain Bromley
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
GwladBaner Lloegr Lloegr
Yn ffinio gydaTatsfield Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.3127°N 0.0336°E Edit this on Wikidata
Cod OSTQ418590 Edit this on Wikidata
Cod postTN16 Edit this on Wikidata
Map

Tref ym Mwrdeistref Llundain Bromley, Llundain Fwyaf, Lloegr, ydy Biggin Hill.[1] Saif tua 15.2 milltir (24.5 km) i'r de-ddwyrain o ganol Llundain.[2] Saif Keston i'r gogledd, New Addington i'r gogledd-orllewin a Tatsfield, yn sir gyfagos Surrey, i'r de.

Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan ward Biggin Hill boblogaeth o 10,817.[3]

Cyn 1965 pan grëwyd Llundain Fwyaf, roedd Biggin Hill yn sir weinyddol Caint. Mae'n un o fannau uchaf yn Llundain Fwyaf, dros 210 metr (690 troedfedd) uwchben lefel y môr.

Lleolir Maes Awyr Biggin Hill ar dir a ddefnyddiwyd gynt gan RAF Biggin Hill, un o’r prif ganolfannau awyrennau ymladd a amddiffynnodd Llundain rhag awyrennau bomio’r Almaen yn ystod Brwydr Prydain.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. British Place Names; adalwyd 30 Mai 2023
  2. Yn draddodiadol, ystyrir Charing Cross fel canol Llundain, a mesurir pellteroedd i'r brifddinas o'r pwynt hwnnw.
  3. City Population; adalwyd 30 Mai 2023
Eginyn erthygl sydd uchod am Llundain Fwyaf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.