Charing Cross
Gwedd
Math | cofadeilad, ardal o Lundain |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Westminster |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Yn ffinio gyda | Covent Garden |
Cyfesurynnau | 51.5073°N 0.12755°W |
Cod OS | TQ302804 |
Cod post | WC2 |
Charing Cross yw'r enw a roddir ar gyffordd y Strand, Whitehall a Cockspur Street, i'r de o Sgwâr Trafalgar yn Ninas Westminster yng nghanol Llundain, Lloegr. Cafodd ei henwi ar ôl hen safle Croes Elinor (Saesneg: Eleanor Cross) yn yr hen bentrefan Charing, lle saif heddiw gerflun o Siarl I, brenin Lloegr, ar ben ceffyl.
Ers ail hanner y 18g fe ystyrir Charing Cross fel "canol Llundain", sef y pwynt swyddogol y mae "pellter o ganol Llundain" yn cael ei fesur ohono.
Ceid Capel Methodistaidd enwog Cymraeg, Capel Charing Cross ar Shaftesbury Avenue rhwng 1988 a'i chau yn 1982.