Appian
Appian | |
---|---|
Ganwyd | c. 95 Alexandria |
Bu farw | c. 165 Rhufain |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | hanesydd, llenor, cyfreithiwr, gwas sifil |
Swydd | Procurator |
Adnabyddus am | Roman History |
Roedd Appian (Groeg: Αππιανος; Lladin: Appianus) (tua 95 - 165), yn hanesydd Groegaidd o ddinesyddiaeth Rufeinaidd a aned yn Alecsandria. Roedd yn byw yn oes yr ymerodron Trajan, Hadrian ac Antoninus Pius.
Cafodd ei eni tua OC 95 yn Alecsandria yn yr Aifft, prifddinas dysg yr Henfyd diweddar. Treuliodd gyfnod fel cyfreithiwr yn Rhufain lle enillasai gyfeillgarwch y rhethregydd Fronto. Mae'n debyg mai Fronto a lwyddodd i berswadio Antoninus Pius i apwyntio Appian yn procurator ymherodrol yr Aifft.
Ysgrifennodd Appian hanes cynhwysfawr o'r Ymerodraeth Rufeinig o'r cyfnod bore hyd amser Trajan. Ychwanegodd bennodau neilltuol ar gyfer hanes teyrnasoedd eraill cyn iddynt ddod dan awdurdod Rhufain, yn cynnwys hanes y Celt-Iberiaid yn Sbaen. Mae safbwynt Appian yn gadarn o blaid y Rhufeiniaid. Er gwaethaf ei ddiffygion, megis camgymeriadau cronolegol, ac arddull sych yr awdur, erys ei lyfr yn ffynhonnell bwysig am y cyfnod.
O'r 24 llyfr gwreididol dim ond 11 sydd wedi goroesi'n gyfan, ynghyd â'r rhagymadrodd, sef hanes:
- Sbaen (liber vi)
- Hannibal (vii)
- Carthago (viii)
- Syria (xi)
- Mithridates (xii)
- Rhyfeloedd Cartref Rhufain (xiii-xvii)
- Illyria (xxiii)
Ffynhonnell
[golygu | golygu cod]- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902)
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Testun ar-lein Archifwyd 2008-01-05 yn y Peiriant Wayback