Skip to content

Offer hwyluso creu Adnabod Lleferydd Cymraeg gyda HTK, IRSTLM, Julius a Docker | Welsh Speech Recognition with HTK, IRSTLM, Julius and Docker

License

Notifications You must be signed in to change notification settings

techiaith/seilwaith

Folders and files

NameName
Last commit message
Last commit date

Latest commit

 

History

26 Commits
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

Repository files navigation

Seilwaith Datblygu Adnabod Lleferydd Cymraeg

(Infrastructure for Developing Welsh Language Speech Recognition)

click here for the English version of this page

Cyflwyniad

Mae'r project hwn yn darparu'r amgylchedd defnyddir gan Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor i hyfforddi'r modelau iaith ac acwstig ar gyfer adnabod lleferydd Cymraeg.

Mae nifer o'r camau hyfforddi arferol wedi eu hwyluso er mwyn caniatáu i ddatblygwyr ac ymchwilwyr ei ddefnyddio hefyd.

Mae'r amgylchedd yn darparu nodweddion i:

  • llwytho corpws lleferydd Paldaruo i lawr o wefan Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru.

  • asesu a dadansoddi pob cyfraniad o gorpws Paldaruo

  • hidlo'r recordiadau gorau ar gyfer hyfforddi

  • hyfforddi model acwstig ar sail un, casgliad neu bob cyfraniad yn y corpws.

  • ddulliau syml i brofi'r modelau acwstig

  • pecynnu'r modelau acwstig ar gyfer defnyddio o fewn Julius-cy

  • llwytho corpora testun yr Uned i lawr a'u defnyddio i hyfforddi modelau iaith

  • creu lecsicon ynganu o eirfa corpws.

  • pecynnu'r modelau iaith a lecsicon ynganu ar gyfer eu defnyddio o fewn defnydd arddweud o Julius-cy

Sut mae cychwyn...

Bydd angen cyfrifiadur gyda system weithredu Linux fel Ubuntu neu RedHat ar gyfer y project. Bydd angen i chi gosod git,wget, make a Docker cyn cychwyn arni. Cychwynwch o'ch cyfeiriadur cartref (h.y. $HOME)

~$ mkdir src
~$ cd src
~/src$ git clone --recursive https://github.com/techiaith/seilwaith.git
~/src$ cd seilwaith

Mae'r project yn defnyddio'r HTK i gynhyrchu modelau acwstig. Mae rhaid i chi gofrestru ar wefan http:https://htk.eng.cam.ac.uk, er mwyn derbyn enw defnyddiwr a chyfrinair er mwyn llwytho'r cod ffynhonnell i lawr. Mae modd llwytho'r cod i lawr fel hyn:

$ wget --user <eich enw defnyddiwr HTK> --ask-password http:https://htk.eng.cam.ac.uk/ftp/software/HTK-3.4.1.tar.gz

$ wget --user <eich enw defnyddiwr HTK> --ask-password http:https://htk.eng.cam.ac.uk/ftp/software/HTK-samples-3.4.1.tar.gz

Bydd yn gofyn am eich cyfrinair yn y man.

Bydd ddwy ffeil, HTK-3.4.1.tar.gz a HTK-samples-3.4.1.tar.gz yn bodoli o fewn y cyfeiriadur 'SpeechRecDevKit'. h.y.:

~/src/seilwaith $ ls
Dockerfile  HTK-3.4.1.tar.gz  HTK-samples-3.4.1.tar.gz  Makefile  README.md  srdk

Y cam nesaf yw teipio:

~/src/seilwaith $ make

Bydd hyn yn adeiladu rhannau craidd yr amgylchedd hyfforddi gan ddefnyddio'r ffeiliau HTK rydych wedi llwytho i lawr ar wahân. Pan mae wedi cwblhau, teipiwch i mewn

$ exit

Y cam nesaf yw mynd i ffolder 'srdk

~/src/seilwaith $ cd srdk

a dilyn cyfarwyddiadau'r README yno srdk/README

About

Offer hwyluso creu Adnabod Lleferydd Cymraeg gyda HTK, IRSTLM, Julius a Docker | Welsh Speech Recognition with HTK, IRSTLM, Julius and Docker

Topics

Resources

License

Stars

Watchers

Forks

Releases

No releases published

Packages