Dyma broject Docker sy'n darparu amgylchedd hwylus a chaeth ar gyfer hyfforddi modelau ar gyfer adnabod lleferydd Cymraeg gyda Kaldi.
Ewch i'r gwefan swyddogol i wybod mwy am Kaldi: http:https://kaldi-asr.org/
Mae tair haen o amgylchoedd Docker wedi eu trefnu fel stac:
|Amgylchedd/sgriptiau hyfforddi modelau Kaldi gyda data Cymraeg| |Amgylchedd/cydrannau modelau iaith (SRILM neu IRSTLM) | |Amgylchedd/meddalwedd craidd Kaldi |
Er mwyn creu'r haen gwaelod, ewch i ffolder base ac yna:
$ cd base
$ make
Mae'r proses o adeiladu meddalwedd Kaldi yn cymryd peth amser. Ar ei diwedd bydd yn profi'r amgylchedd ar gorpws bach syml ac yn dangos WER ('word error rate') o 0%.
Bydd delwedd newydd o fewn eich system Docker:
$ docker images
REPOSITORY TAG IMAGE ID CREATED SIZE
techiaith/kaldi-env-base latest 9912c046466e 1 minute ago 9.37 GB
Ewch yn nesaf i'r ffolder srilm:
$ cd srilm
$ ls
Dockerfile Makefile srilm-1.7.1.tar.gz
Mae angen i chi estyn a llwytho i lawr y ffeil tar.gz srilm eich hunain o wefan http:https://www.speech.sri.com/projects/srilm/
SRILM yw'r meddalwedd modelau iaith mae'r project Kaldi yn ei argymell fel y gorau ar gyfer Kaldi.
Defnyddiwch y gorchymyn 'make' unwaith eto:
$ make
Ar ddiwedd adeiladu meddalwedd SRILM mae delwedd newydd arall yn bodoli o fewn Docker:
$ docker images
REPOSITORY TAG IMAGE ID CREATED SIZE
techiaith/kaldi-env-base latest 9912c046466e 30 minutes ago 9.37 GB
techiaith/kaldi-env-base-srilm latest 83cdba1d0fd3 1 minute ago 10.01 GB
Ewch yn ol i brif ffolder y project ac yna defnyddiwch 'make' eto er mwyn greu'r amgylchedd hyfforddi modelau Kaldi ar gyfer y Gymraeg:
$ make
Ar ôl peth amser, fe fydd linell gorchymyn newydd yn ymddangos:
root@733ed0db77a6:/usr/local/src/kaldi/egs/paldaruo_welsh#
Dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffeil README.txt
Yn y cyfamser, mae eich system Docker yn cynnwys delwedd ar gyfer drydedd haen eich amgylchedd Kaldi:
$ docker images
REPOSITORY TAG IMAGE ID CREATED SIZE
techiaith/kaldi-env latest f0806ba389cb 4 seconds ago 10.12 GB
techiaith/kaldi-env-base-srilm latest 83cdba1d0fd3 10 minutes ago 10.01 GB
techiaith/kaldi-env-base latest 9912c046466e 30 minutes ago 9.37 GB