Ysgol Alun
Ysgol Alun | |
---|---|
Alun School | |
Sefydlwyd | 1970 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Saesneg |
Pennaeth | Mr Ashley Jones |
Dirprwy Bennaeth | Mrs J Cooper |
Lleoliad | Ffordd Wrecsam, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, Cymru, CH7 1EP |
Staff | dros 100 |
Disgyblion | tua 1750 |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Lliwiau | Coch a du |
Gwefan | https://www.alunschool.co.uk |
Ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint, yw Ysgol Alun (Saesneg: Alun School), ar gyfer plant 11 i 18 oed. Ffurfiwyd yn 1970 fel canlyniad o uno Ysgol Ramadeg Alun (Alun Grammar School) ac Ysgol Daniel Owen (Daniel Owen Secondary Modern School).
Mae adeiladau presennol yr ysgol yn dyddio o 1938, ac mae mwy o ddisgyblion yn yr ysgol nag y gellir yr adeilad eu dal yn swyddogol.[1] Roedd 1475 o ddisgyblion yn yr ysgol ym 1998 a 1675 yn 2004. Erbyn hyn mae tua 1750 o ddisgyblion a drost 100 o staff addysgu. Er fod yr ysgol yn orlawn, mae adroddiad Estyn 2004 yn disgrifio'r safon dysgu yn dda neu'n dda iawn ym mhob pwnc, gan nodi fod y nifer sy'n cario ymlaen i addysg uwch yn fwy na'r cyfartaledd.[1] Mae drost 500 o fyfyrwyr yn y chweched dosbarth, gan ei gwneud yn chweched ddosbarth mwyaf Cymru, ac un o'r mwyaf ym Mhrydain. Mae'n rhannu cyfleusterau megis canolfan hamdden a theatr gydag Ysgol Maes Garmon gerllaw.
Prifathrawon
[golygu | golygu cod]- William Lloyd Parry (sefydlydd) 1880-1922
- JE Parry (1930?)
- Joseph Jones (1950au)
- Gareth Lloyd Jones (graddedig o Rydychen) (tua'r 1960au)
- D V Leadbeater (1960au)
Noder: Roedd y prifathrawon uchod yn Ysgol Ramadeg Alun, rhestrir isod prifathrawon Ysgol Alun yn ei chyfnod fel ysgol gyfun.
- Wyn Williams (1971–1972)
- Gerry German (diswyddwyd) (1972–1974)[2]
- David Williams 1991–1997
- Paul Mulraney 1997–2008
- Ashley Jones 2008–
Cyn-ddisgyblion o nôd
[golygu | golygu cod]- Jonny Buckland, prif gitârydd y band Coldplay
- Andy Nicholls, awdur
- Matt Barbet, Cyflwynydd newyddion Channel 5
- Richard Head, Microsoft
- Thomas Brooke Benjamin (1929-1995), FRS, Athro Sedleian Athroniaeth Naturiol yn Rhydychen
- John McGrath (1935-2002), llenor, cyfarwyddwr, a chynhyrchydd theatr, ffilm a theledu
- Myfanwy Talog (1944-1995), actores
- Peter Edwards (1947-2016), cyfarwyddwr teledu
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 School Inspection Report, 24–27 February 2004. Estyn (2004).
- ↑ Cofio... Dyma 1974. BBC Cymru.