Y Drindod
Athrawiaeth Gristnogol yw y Drindod sydd yn dal taw un bod ar ffurf tri pherson yw'r Duwdod: Duw'r Tad, Duw'r Mab, a Duw'r Ysbryd Glân. Ni amlyga'r syniad hon yn bendant yn y Beibl, ond mae Cristnogion yn tynnu sylw at adnodau'r Testament Newydd sydd yn disgrifio Iesu'r Mab, a'r Ysbryd Glân ill dau mewn perthynas unigryw â'r Tad.
Bathwyd yr enw Lladin trinitas gan Tertullian yn yr 2g, a defnyddiwyd yn ddiweddarach yn ystod y dadleuon dros natur Iesu Grist yn yr Eglwys Fore. Ar ddechrau'r 5g, amlinellodd Awstin o Hippo yr athrawiaeth yn ei waith De Trinitate, a fe ddadleua y gellir deall yr Ysbryd Glân fel cariad rhwng y Tad a'r Mab. Roedd diwinyddion cynnar fel rheol yn pwysleisio cyfartalwch y tri pherson, er iddynt awgrymu goruchafiaeth y Tad mewn rhyw modd.
Gellir deall yr athrawiaeth mewn sawl ffordd. Modd ydyw o ddehongli'r gair "duw" yng Nghristnogaeth, trwy neilltuo'r Duwdod Cristnogol, hynny yw y Drindod, oddi ar dduwiau eraill. Gellir hefyd gweld y Drindod fel eglurhad o brofiad hanesyddol y Cristnogion: Duw'r Tad, sydd yn tarddu o'r traddodiad Iddewig; Duw'r Mab, Iesu Grist ei hunan; a'r Ysbryd Glân sydd yn bresennol yn yr Eglwys Gristnogol ers atgyfodiad yr Iesu. Dywed hefyd i dri pherson y Drindod symboleiddio triawd o gysyniadau diwinyddol – y dechreuad, y mynegiant, a'r dychweliad neu'r cyfuniad – sydd yn gyffredin i nifer o grefyddau ac athroniaethau.