Tri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | class of mythical entities |
---|---|
Math | gwrthrych chwedlonol |
Yn cynnwys | Dyrnwyn |
Enw brodorol | Tri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain |
Trysorau arbennig o briodoleddau rhyfeddol a gysylltir ag arwyr a brenhinoedd yr Hen Ogledd oedd Tri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain. Cedwir sawl fersiwn o'r testun Cymraeg Canol sy'n eu rhestru; un o'r cynharaf yw testun Llawysgrif Caerdydd 17.
Dyma'r Tri Thlws ar Ddeg:
- Dyrnwyn, cleddyf Rhydderch Hael; pe bai rhyfelwr o dras uchel yn ei thynnu o'r gwaun torrai'n fflam a redai ar ei hyd.
- Mwys (basged neu hamper) Gwyddno Garanhir; pe rhoddid bwyd i un dyn ynddo ceid bwyd i gant ohono.
- Corn Brân Galed, a ddiwallai bawb.
- Car (cerbyd rhyfel) Morgant Mwynfawr; pe bai rhywun yn mynd ynddi byddai'n ei gludo ar unwaith i ble bynnag y dymunai.
- Cebystr Clydno Eiddin; pe rhwymai Clydno y cebystr wrth droed y gwely byddai'r march a ddymunai yno yn y bore
- Cyllell Llawfrodedd Farchog; oedd yn gallu gwasanaethu 24 o ryfelwyr wrth y bwrdd ar yr un pryd.
- Pair Dyrnwch Gawr; ni ferwai gig ond i rywun dewr ond iddo ef rhoddid digonedd
- Hogalen Tudwal Tudclyd
- Pais (arfwisg) Padarn Beisrudd; medrai newid maint i ffitio pobl teilwng i'w gwisgo ond ni fyddai'n wneud hynny yn achos taeog.
- Grên a dysgl Rhygenydd Ysgolhaig; llestri digonedd.
- Gwyddbwyll Gwenddolau ap Ceidio; set gwyddbywll Geltaidd hud a lledrith.
- Llen (clogyn) Arthur yng Nghernyw; mantell hud a lledrith a wnai'r gwisgwr yn anweladwy
- Mantell Tegau Eurfron; rhoddai brawf o ddiweirdeb
Ychwanegwyd:
- Maen (gem) Modrwy Eluned Ddedwydd; gem a modrwy hud y ceir eu hanes yn chwedl Iarlles y Ffynnon.
Yn ôl un fersiwn o'r testun enillodd Taliesin y Tlysau hyn "yn y Gogledd" (h.y. yr Hen Ogledd).
Ffynhonnell
[golygu | golygu cod]- Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain, gol. Rachel Bromwich (Caerdydd, argraffiad newydd 1991), atodiad III