Tirffurf
Nodwedd arbennig o'r dirwedd (e.e. peiran, ystumllyn, neu forffoleg) a chymeriad cyffredinol arwyneb y tir yw tirffurf. Gall fod yn ganlyniad i ryngweithiad prosesau geomorffolegol (er enghraifft, gweithgaredd afonol, gweithgaredd rhewlifol, hindreuliad) a phrosesau tectonig a folcanig.[1]
Geomorffoleg yw'r astudiaeth wyddonol o dirffurfiau'r ddaear a'r prosesau a roes fod iddynt.
Termau tebyg
[golygu | golygu cod]O fewn Gwyddorau Daear, "tirwedd" yw'r term cyffredinol i ddisgrifio pryd a gwedd ardal sy'n cynnwys nodweddion naturiol (tirffurfiau) a nodweddion o wneuthuriad bodau dynol. O ran yr hinsawdd, gellir ei ddiffinio fel y graddau o wahaniaeth topolegol mewn codiadau yn y tirwedd, h.y. cydffurfiad wyneb solet y ddaear o ystyried ei elfennau anwastad (codiadau, pantiau, llethrau) gyda'i gilydd.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "'Termau Addysg Uwch' y Coleg Cymraeg". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-15.