Neidio i'r cynnwys

Tatra Uchel

Oddi ar Wicipedia
Tatra Uchel
Mathcadwyn o fynyddoedd, cyrchfan i dwristiaid, atyniad twristaidd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolTatra National Park Edit this on Wikidata
SirPoprad District, Liptovský Mikuláš District, Kežmarok District, Lesser Poland Voivodeship Edit this on Wikidata
GwladSlofacia, Gwlad Pwyl Edit this on Wikidata
Arwynebedd341 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr2,655 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau49.1667°N 20.1333°E Edit this on Wikidata
Hyd26 cilometr Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolMïosen Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEastern Tatras Edit this on Wikidata
Map
Panorama o'r Tatra Uchel, o'r chwith i'r de: Gerlachovský štít, Batizovský štít, Kačací štít, Končistá, Gánok, Vysoká, a Rysy.
Lleoliad y Tatra Uchel.

Cadwyn o fynyddoedd yw'r Tatra Uchel neu'r Tatrau Uchel (Slofaceg a Tsieceg: Vysoké Tatry, Pwyleg: Tatry Wysokie) ar y ffin rhwng Slofacia a Gwlad Pwyl yng Nghanolbarth Ewrop. Maent yn rhan o'r Tatra Dwyreiniol yng nghadwyn y Carpatiau.

Disgrifiad

[golygu | golygu cod]

Gyda 11 copa dros 2500 m, y Tatra Uchel, ynghyd â'r Carpatiau Deheuol, yw'r unig gadwyn o gymeriad alpaidd yng nghadwyn 1200 km y Carpatiau. Gorwedd y rhan fwyaf o'r copaon uchaf yn Slofacia: yr uchaf o'r rhain yw Gerlachovský štít (2,655 m).

Mae sawl rhywogaeth brin o anifeiliaid a phlanhigion i'w cael yn y Tatra Uchel. Mae'n gynefin i famaliaid ysglyfaethus mawr fel eirth, lynx Ewrasiaidd, bleiddiaid a llwynogod, ynghyd â sawl rhywogaeth o adar prin.

Mae'n ardal yn ganolfan chwaraeon gaeaf. Mae canolfannau gwyliau sgïo adnabyddus yn cynnwys Štrbské pleso, Starý Smokovec a Tatranská Lomnica yn Slofacia a Zakopane, yr enwocaf efallai, yng Ngwlad Pwyl. Tref Poprad yw'r porth i gyrraedd canolfannau chwaraeon gaeaf y Tatra Slofaciaidd.

Sefydlwyd y parc cenedlaethol traws-ffin cyntaf yn Ewrop yma, sef Parc Cenedlaethol Tatra - parc Tatranský národný yn Slofacia yn 1948 a Tatrzański Park Narodowy yng Ngwlad Pwyl, yn 1954.

Copaon

[golygu | golygu cod]

Y 15 copa uchaf, i gyd yn Slofacia, yw:

Peak Elevation (m|ft)
Gerlachovský štít 2,655 8,711
Gerlachovská veža 2,642 8,668
Lomnický štít 2,633 8,638
Ľadový štít 2,627 8,619
Pyšný štít 2,623 8,605
Zadný Gerlach 2,616 8,583
Lavínový štít 2,606 8,550
Malý Ľadový štít 2,602 8,537
Kotlový štít 2,601 8,533
Lavínová veža 2,600 8,530
Malý pyšný štít 2,591 8,501
Veľká Litvorová veža 2,581 8 468
Strapatá veža 2,565 8,415
Kežmarský štít 2,556 8,386
Vysoká 2,547 8,356

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: