S4C
Enghraifft o'r canlynol | gorsaf deledu, darlledwr |
---|---|
Cysylltir gyda | Huw Jones |
Dechrau/Sefydlu | 1982 |
Perchennog | Awdurdod S4C |
Prif weithredwr | Owen Evans |
Pencadlys | Caerfyrddin |
Enw brodorol | Sianel Pedwar Cymru |
Gwefan | https://s4c.cymru/en/, https://s4c.cymru/cy/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Darlledwr sy'n darparu gwasanaethau teledu yn y Gymraeg yw Sianel Pedwar Cymru neu S4C. Dechreuodd ddarlledu ar y 1af Tachwedd 1982. SuperTed oedd y rhaglen gyntaf i'w ddarlledu ar S4C.[1]
Sefydlwyd S4C gan Ddeddfau Darlledu 1980/1981. Cychwynodd y sianel wreiddiol ar deledu analog yn 1982, lle roedd yn gyfrifol am ddarlledu rhaglenni Cymraeg yn ystod oriau brig a rhaglenni Channel 4 am weddill yr amser. Yn dilyn y newid i deledu digidol, daeth yn sianel uniaith Gymraeg. Nid yw S4C yn cynhyrchu rhaglenni ei hun, ond yn eu comisiynu oddi wrth gwmnïau annibynnol. Yn yr 1980au cafodd y sianel enw da am gomisiynu cartwnau a ddaeth yn llwyddiannau byd-eang megis SuperTed, Sam Tân, Shakespeare - The Animated Tales. Mae'r sianel hefyd yn nodedig am ddramau o safon uchel sydd wedi llwyddo yn rhyngwladol, yn cynnwys Y Gwyll, 35 Diwrnod ac Un Bore Mercher. Mae rhaglenni chwaraeon yn denu nifer fawr o wylwyr i'r sianel ac er y gystadleuaeth frwd am hawliau chwaraeon gan sianel masnachol, mae S4C yn ceisio darparu amrywiaeth o chwaraeon yn cynnwys pêl-droed a rygbi.
Goruwchwylir y gwasanaeth gan Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn San Steffan. Roedd yr adran yn arfer ariannu'r sianel yn llawn ond ers 2010 torrwyd y grant i tua £6.8m y flwyddyn a daw gweddill cyllid S4C drwy'r BBC a'r drwydded deledu. Mae S4C hefyd yn derbyn arian am werthu hysbysebion ond bu gostyngiad yn lefel yr incwm o hysbysebu wrth i wylwyr droi at ddulliau digidol o dderbyn eu gwasanaethau teledu, gan mai dim ond ar analog yr oedd S4C yn gallu gwerthu hysbysebion o gwmpas rhaglenni Saesneg Channel 4. Ar ôl diffodd analog mae'r Sianel yn ceisio incwm masnachol o sawl ffynhonnell yn cynnwys hysbysebion ar y teledu ac ar wasanaethau arlein; drwy bartneriaethau masnachol; gwerthiant rhaglenni a chyd-gynhyrchu ac ecwiti mewn prosiectau a chwmniau digidol.[2]
Mae'r BBC yn cyflawni ei ddyletswydd gyhoeddus trwy gynhyrchu deg awr o raglenni bob wythnos, gan gynnwys rhaglenni poblogaidd megis Pobol y Cwm a Newyddion. Fel gweddill gwasanaethau cyhoeddus y BBC, mae'r rhain yn cael eu hariannu drwy'r drwydded deledu.
Lledaenu llwyfannau
[golygu | golygu cod]Yn 2008 lansiwyd gwasanaeth i blant ar y sianel o'r enw Cyw, gyda chwech awr a hanner o raglenni bob dydd o ddydd Llun i Ddydd Gwener.[3]
Yn 2016 lansiwyd cyfres i bobl ifanc rhwng 16-35 oed. Roedd y cynnwys ar gael ar YouTube gyda pob rhaglen yn bum munud o hyd.[4] Yn dilyn y cynllun peilot, lansiwyd gwasanaeth Hansh yn Mehefin 2017, gyda cynnwys digidol ar sawl cyfrwng cymdeithasol yn cynnwys YouTube, Facebook, Twitter ac Instagram.[5]
Yn 2019 lansiwyd Lŵp sy'n Sianel ar-lein traws blatfform ar gyfer cerddoriaeth a diwylliant cyfoes Cymraeg gan S4C. Fe'i lansiwyd ym mis Awst 2019. Mae'r gwasanaeth i'w weld ar S4C Clic, BBC iPlayer a llwyfannau rhyngrwyd eraill sy'n annibynnol o'r Sianel, fel Youtube, a chyfryngau cymdeithasol megis Facebook, Twitter, TikTok ac ati.[6] Yn 2021 lansiwyd gwasanaeth Newyddion S4C sy'n wasanaeth ar-lein yn annibynnol ar ddarpariaeth rhaglen deledu Newyddion. Mae'r gwasanaeth newydd yno i lenwi bwlch wrth i arferion gwylio newyddion ar y teledu yn ôl ymchwil S4C fod yn parth i bobl dros 65 oed, tra bod pobl iau yn derbyn ei newyddion drwy'r cyfryngau cymdeithasol (megis Facebook, Twitter ayyb). Mae gwasanaeth Newyddion S4C yn derbyn newyddion gan y BBC, Golwg360, ITV Cymru Wales a ffrydiau annibynnol eraill.[7]
Hanes
[golygu | golygu cod]Ymgyrch y sianel
[golygu | golygu cod]Cyn sefydlu S4C roedd Cymry Cymraeg yn ddibynnol ar raglenni achlysurol ar BBC Cymru a HTV Cymru, yn aml yn hwyr yn y nos neu adegau amhoblogaidd eraill. Roedd hyn yn annerbyniol i'r Cymry Cymraeg ac i'r di-Gymraeg hefyd am fod rhaglenni Saesneg o weddill Prydain yn cael eu darlledu ar amseroedd gwahanol neu ddim o gwbl.
Dros y 1970au bu ymgyrchwyr iaith yn brwydro dros gael gwasanaeth teledu Cymraeg. Gwrthodwyd talu'r drwydded deledu gan Gymry amlwg, torrwyd i mewn i stiwdios teledu a bu protestwyr hyd yn oed yn dringo mastiau a distrywio cyfarpar darlledu. Yn 1980 gwnaeth Gwynfor Evans fygwth ymprydio hyd at farwolaeth ar ôl i Lywodraeth Margaret Thatcher fynd yn ôl ar addewid a wnaethant i roi sianel Gymraeg i Gymru. Ar ôl i Gymry amlwg megis Archesgob Cymru ar y pryd, Cledwyn Hughes a Goronwy Daniel fynd i gyfarfod ag aelod o'r cabinet fe newidiodd Margaret Thatcher ei meddwl ac fe gytunwyd i sefydlu'r sianel.
Newid i ddigidol
[golygu | golygu cod]Yn 1998 lansiwyd gwasanaeth teledu digidol daearol (a elwid yn Freeview yn ddiweddarach) a llwyfan lloeren Sky ar draws y DU. Ar y gwasanaeth daearol cafodd S4C ei wobrwyo gyda hanner Amlblecs A. Sefydlwyd cwmni S4C Digital Networks (SDN) i werthu'r gofod hwn ac y tu allan i Gymru llogwyd y gofod i sawl darlledwr yn cynnwys QVC. Cychwynwyd darlledu sianel uniaith Gymraeg S4C Digidol, ac S4C2, a oedd yn darlledu cyfarfodydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Roedd S4C Digidol ac S4C2 ar gael drwy wledydd Prydain drwy loeren, yn ogystal â thrwy Gymru ar TDD ac ar wasanaeth cebl Virgin Media mewn rhannau o Dde Cymru. Wedi cwblhau y newid i ddigidol yng Nghymru ar 31 Mawrth 2010, caewyd hen wasanaeth analog S4C gan adael y gwasanaeth S4C Digidol fel y brif sianel Gymraeg.
Ar yr adegau pan nad oedd sianel analog S4C yn darlledu yn Gymraeg dangoswyd rhaglenni Channel 4 a gynhyrchwyd i weddill y Deyrnas Unedig, ond daeth hyn i ben pan diffoddwyd teledu analog yng Nghymru yn 2009 a 2010 fel rhan o'r Newid i Ddigidol yng ngwledydd Prydain.
Argyfwng 2010
[golygu | golygu cod]Ar 20 Hydref 2010 cyhoeddodd Canghellor y DU George Osborne AS y byddai'r cyfrifoldeb am ariannu S4C yn cael ei drosglwyddo i'r BBC. Roedd hyn yn dilyn cyfres o drafodaethau rhwng Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon llywodraeth y DU a'r BBC. Doedd S4C na llywodraeth Cymru yn gwybod dim am y trafodaethau hyn ac roedd y cyhoeddiad yn gwbl annisgwyl iddynt. Clywodd John Walter Jones, Cadeirydd S4C, amdano am y tro cyntaf pan oedd yn gwrando ar Radio Cymru. Dywedodd "Rydw i'n rhyfeddu at yr agwedd sarhaus mae Llywodraeth Llundain wedi'i dangos, nid yn unig tuag at S4C, ond hefyd tuag at bobl Cymru ac i'r iaith." Disgrifiodd Cymdeithas yr Iaith y penderfyniad fel "anghredadwy" gan rybuddio fod hyn yn mynd â darlledu Cymraeg "yn ôl i'r 1970au pan nad oedd S4C yn bodoli. Y gwir yw, erbyn 2015, mae'n bosib fydd na ddim sianel ar ôl i'r BBC gymryd drosodd oherwydd toriadau Jeremy Hunt." Cyhoeddodd Awdurdod S4C eu bod am wneud cais am adolygiad barnwrol o'r modd y penderfynwyd ar y newidiadau hyn a'r sail cyfreithiol iddynt.[8] Ymateb Gweinidog Treftadaeth Cymru, Alun Ffred Jones AC, oedd fod y penderfyniad i newid y drefn o ariannu S4C yn "gywilyddus". Ychwanegodd nad oedd unrhyw drafodaeth wedi bod, a'i fod (ar 20 Hydref 2010) yn dal heb gael gwybod yn swyddogol am y penderfyniad.[8] Dywedodd ei fod yn "ddiwrnod du" i Gymru.[9]
Ar 25 Hydref cafwyd ymateb swyddogol Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd, Meri Huws, fod y penderfyniad yn un "cwbl sarhaus" ac y byddai'n cael "effaith andwyol" ar yr iaith Gymraeg.[10] Datganodd:
- "Dros y degawdau diwethaf, fe ddaeth S4C â statws i'r iaith, a hynny drwy gyfoeth y rhaglenni a'r ffilmiau yr oedd yn ei darlledu. Lle'r oedd corff annibynnol yn gwneud penderfyniadau darlledu yn seiliedig ar arbenigedd mewn cynllunio ieithyddol, bellach mae dryswch llwyr. Trwy gynnal eu trafodaethau y tu ôl i ddrysau caeedig yn Llundain, mae'r Llywodraeth Brydeinig wedi tanseilio a sarhau holl ddarlledu yng Nghymru."[10]
Ychwanegodd:
- "Maen nhw wedi ein hamddifadu o unrhyw gynllunio hirdymor ar gyfer darlledu trwy gyfrwng y Gymraeg, a'n cyfyngu i ryw dair neu bedair blynedd yn unig. Fe gymerodd hi flynyddoedd o ymgyrchu i sefydlu'r Sianel, a bu hi'n gwasanaethu pobl Cymru i safon uchel am 28 oed. Cwta wythnos a gymerodd hi i'r Llywodraeth Brydeinig dynnu'r plwg. Mae'n anghredadwy."[10]
Ar y rhaglen ddogfen Week In Week Out a ddarlledwyd ar y 25 Hydref, 2010 dywedodd cyn-Uwch Gyfarwyddwr S4C, Geraint Stanley Jones (a fu yn y swydd o 1989 tan 1994) na fyddai'n ddoeth petai'r sianel yn dechrau brwydro yn erbyn y llywodraeth.[11] Dywedodd hefyd fod S4C wedi colli "hygrededd ac awdurdod" yn ystod y misoedd diwethaf.[11] Beirniadwyd Awdurdod S4C hefyd gan yr aelod seneddol Ceidwadol Alun Cairns a ddywedodd fod yr awdurdod wedi tanseilio'i hun.[11] Yn ogystal â hyn, croeswyd y penderfyniad y byddai'r BBC yn cymryd rheolaeth o beth o gyllid S4C gan gyfarwyddwr BBC Cymru, Menna Richards. Dywedodd Ms Richards ei bod yn falch fod y BBC wedi gwneud y penderfyniad i gefnogi teledu cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol ac y byddai cwmnïau annibynnol sy'n cynhyrchu rhaglenni ar gyfer S4C yn elwa yn y dyfodol.[12] Cyn yr argyfwng cyllidol, roedd cyn-weinidog y Swyddfa Gymreig, Rod Richards AS, wedi galw am i'r BBC gymryd rheolaeth o S4C o achos "eu hystadegau gwylwyr siomedig".[13]
Mewn cyfarfod cyhoeddus ar 30 Hydref, galwodd Cymdeithas yr Iaith ar yr holl aelodau a'r cyhoedd yn gyffredinol i beidio talu eu trwydded deledu oni bai bod Llywodraeth San Steffan yn gwarantu annibyniaeth S4C. Cefnogwyd hyn gan AC Llafur Canolbarth a Gorllewin Cymru, Alun Davies. Dywedodd "fod rhaid gwrthsefyll yr ymosodiad (ar S4C)".[14]
Ar 1 Tachwedd 2010, ysgrifennodd arweinwyr y pedair prif blaid yn y Cynulliad Cenedlaethol - sef Nick Bourne (Ceidwadwyr), Carwyn Jones (Llafur), Ieuan Wyn Jones (Plaid Cymru) a Kirsty Williams (Democratiaid Rhyddfrydol) - lythyr ar y cyd at David Cameron, Prif Weinidog y DU yn galw ar lywodraethau Cymru a'r DU i gomisiynu adolygiad annibynnol o gynlluniau'r llywodraeth Brydeinig ar gyfer S4C. Disgrifwyd y cydweithredu hyn gan y pedair plaid fel "cam anarferol" gan Olygydd Gwleidyddol BBC Cymru, Betsan Powys. Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru fod llywodraeth Prydain eisiau i S4C fod yn annibynnol.[15]
Adleoli Pencadlys S4C
[golygu | golygu cod]Ym mis Medi 2013 cychwynodd S4C astudiaeth i'r posibilrwydd o symud eu pencadlys. Ym mis Mawrth 2014 cyhoeddwyd mai Caerfyrddin oedd yn fuddugol gyda chais a arweiniwyd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Y Brifysgol sydd berchen y tir lle adeiladwyd Canolfan S4C Yr Egin a mae'r adeilad hefyd yn gartref i gwmniau eraill yn y diwydiannau creadigol.[16] Cafwyd cais cryf ar gyfer adleoli i Gaernarfon ond roedd siom nad oedd y cais yn llwyddiannus.[17]
Yn 2016 datgelwyd fod S4C yn talu £3 miliwn o rent rhag-blaen i Brifysgol Y Drindod Dewi Sant[18], bydd yn talu am rhent dros yr 20 mlynedd dilynol. Mynegwyd pryder am y trefniant a'r diffyg tryloywder ynghylch taliadau masnachol rhwng dau gorff sy'n derbyn arian cyhoeddus.[19] Gwnaed cais gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am arian at y gwaith adeiladu a cafwyd £3 miliwn gan Lywodraeth Cymru a £3m arall o fargen ddinesig Bae Abertawe.[20]
Ym Mehefin 2018 datgelwyd y bydd mwy o staff yn gadael y sianel na'r rhai fyddai'n symud i weithio yng Nghaerfyrddin. Cychwynnodd S4C adleoli i'r adeilad newydd o fis Medi 2018 a byddai 54 o swyddi yn symud i'r ganolfan. Cadwyd swyddfa yng Nghaerdydd ar gyfer dibenion technegol, wedi ei gyd-leoli ym Pencadlys newydd BBC Cymru gyda 70 o staff yno, ond bydd canran sylweddol o'r swyddi technegol yn trosglwyddo i'r BBC.[21] Er hyn, ni fyddai BBC Cymru yn symud ei stiwdio yng Nghaerfyrddin i'r Egin.[22] Yn Medi 2018, ymrwymodd S4C i ddeg mlynedd o les ar ei swyddfa yng Nghaernarfon, sydd a 12 o staff llawn amser.[23]
Yn 2021 symudodd adrannau Cyflwyno, Llyfrgell, Hyrwyddo a Masnachol S4C i bencadlys BBC Cymru yn Sgwâr Canolog, Caerdydd. Y rhaglenni cyntaf a ddarlledwyd oddi yno oedd gwasanaeth plant y sianel, Cyw am 6:00. Daeth y cyflwyniad byw cyntaf gan Liz Scourfield ar 27 Ionawr 2021 cyn y bwletin newyddion am 12:00.[24][25]
Honiadau am fwlio a diwylliant o ofn
[golygu | golygu cod]Yn Mai 2023, cyhoeddwyd fod y sianel wedi gofyn i cwmni cyfreithiol ymchwilio i honiadau o fwlio a "diwylliant o ofn". Roedd hyn dilyn e-bost anhysbys yn honni bod staff sy'n gweithio i'r sianel yn cael eu hanwybyddu a'u tanseilio gan y tîm rheoli ac "yn aml yn eu dagrau".[26]
Ym mis Hydref 2023, diswyddwyd Llinos Griffin-Williams, Prif Swyddog Cynnwys S4C wedi honiadau o "gamymddwyn difrifol".[27] Gwadwyd y cyhuddiadau yma ganddi mewn cyfweliad yn Tachwedd 2023, gan ddweud ei bod hithau wedi cael ei bwlio ac wedi ei diswyddo'n annheg.[28] Ar yr un pryd, cyhoeddwyd fod y prif weithredwr am gymryd amser ffwrdd o'i gwaith oherwydd salwch. Ar 24 Tachwedd 2023 cyhoeddodd Awdurdod y sianel bod y prif weithredwr, Siân Doyle wedi ei diswyddo, yn sgîl ymchwiliad gan gwmni cyfreithiol Capital Law.[29] O fewn oriau cafwyd ymateb gan Siân Doyle yn beirniadu y penderfyniad i'w diswyddo – gan ddweud nad oedd wedi cael cyfle i ymateb a nid oedd "rheswm dilys y tu ôl i'r penderfyniad." [30]
Yr wythnos ganlynol dywedodd cyn-brif swyddog cyfathrebu y sianel, Gwyn Williams, ei fod wedi rhybuddio Awdurdod S4C am "ymddygiad amhriodol" o fewn y sefydliad ym mis Ebrill 2022.[31] Esboniodd bod staff wedi dioddef oherwydd y awyrgylch tocsig ac bod nifer fawr o staff wedi gadael. Datgelodd cais Rhyddid Gwybodaeth i 27 aelod o staff adael ym mlwyddyn ariannol 2022/23, allan o'r 118 oedd yn gweithio i S4C yn y cyfnod.[32]
Prif Weithredwyr
[golygu | golygu cod]- Owen Edwards (1981–1989)
- Geraint Stanley Jones (1989–1994)
- Huw Jones (1994–2005)
- Iona Jones (2005 – 28 Gorffennaf 2010)
- Arwel Elis Owen (dros dro; 30 Gorffennaf 2010 – Mawrth 2012)[33]
- Ian Jones (Ebrill 2012 – 2017)
- Owen Evans (1 Hydref 2017 – 31 Rhagfyr 2021)
- Siân Doyle (1 Ionawr 2022 – 24 Tachwedd 2023)[34][29]
- Sioned Wiliam (dros dro; Mawrth 2024 – Ionawr 2025)[35]
- Geraint Evans (Ionawr 2025 –)[36]
Cadeiryddion
[golygu | golygu cod]- Goronwy Daniel (1981 – 1986)
- John Howard Davies (1986 – 30 Medi 1992)
- Ifan Prys Edwards (1 Hydref 1992 – 31 Mawrth 1998)
- Elan Closs Stephens (1 Ebrill 1998 – 31 Mawrth 2006)
- John Walter Jones (1 Ebrill 2006 – ymddeolodd 7 Rhagfyr 2010)
- Rheon Tomos (yn gweithredu dros dro fel Is-gadeirydd; 7 Rhagfyr 2010 – 7 Mehefin 2011)[37]
- Huw Jones (8 Mehefin 2011 – 30 Medi 2019)
- Hugh Hesketh Evans (dros dro; 1 Hydref 2019 – 31 Mawrth 2020)[38]
- Rhodri Williams (1 Ebrill 2020 – 31 Mawrth 2024)[39]
- Guto Bebb (dros dro; 1 Ebrill 2024 –)[40]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- TG4 - Gwyddeleg
- BBC Alba - Gaeleg
- ETB 1 - Basgeg
- Whakaata Māori - Maorieg
- Brezhoweb - teledu ar-lein Llydaweg
- Gŵyl Cyfryngau Celtaidd
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Edrych yn ôl ar ddyddiau cynnar S4C , BBC Cymru Fyw, 30 Hydref 2012. Cyrchwyd ar 18 Mehefin 2019.
- ↑ Adroddiad Blynyddol S4C 2016-2017. S4C.
- ↑ https://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7420000/newsid_7420200/7420287.stm S4C: Manylion am raglenni plant
- ↑ S4C yn lansio cyfres PUMP ar-lein. S4C (7 Ebrill 2016). Adalwyd ar 7 Hydref 2019.
- ↑ ‘Cynnydd rhyfeddol’ S4C ar gyfryngau cymdeithasol , Golwg360, 18 Medi 2017. Cyrchwyd ar 7 Hydref 2019.
- ↑ "S4C yn lawnsio Lŵp – mwy o gerddoriaeth ar y sianel". S4C. Awst 2019.
- ↑ "S4C yn lansio gwasanaeth newyddion digidol newydd". Cymru Fyw BBC Cymru. 6 Ebrill 2021.
- ↑ 8.0 8.1 "S4C: Cais am adolygiad barnwrol", Newyddion y BBC. Dydd Mercher, 20 Hydref 2010.
- ↑ "Penderfyniad 'cywilyddus' am S4C" Cyfweliad Nia Thomos gyda Gweinidog Treftadaeth Cymru, Alun Ffred Jones, ar y Post Cyntaf, Radio Cymru.
- ↑ 10.0 10.1 10.2 "Bwrdd: Penderfyniad 'sarhaus' yw'r newidiadau i S4C", Newyddion BBC Cymru, 25.10.2010.
- ↑ 11.0 11.1 11.2 Former chief executive urges review of S4C Authority BBC News. 26-10-2010
- ↑ BBC Wales director welcomes S4C funding decision BBC News. 21-10-2010. Adalwyd ar 26-10-2010
- ↑ Figures reveal failure of S4C to attract TV Audiences Western Mail. 10-03-2010. Adalwyd ar 27-10-2010
- ↑ "Cymdeithas yr Iaith o blaid gwrthod talu'r drwydded", Newyddion BBC Cymru, 30.10.2010.
- ↑ "S4C: arweinwyr yn galw am adolygiad", Newyddion BBC Cymru, 02.11.2010.
- ↑ Awdurdod S4C yn cymeradwyo cais i symud pencadlys S4C i Gaerfyrddin. S4C (14 Mawrth 2014). Adalwyd ar 30 Ionawr 2018.
- ↑ Pencadlys S4C yn symud i Gaerfyrddin , BBC Cymru, 14 Mawrth 2014. Cyrchwyd ar 12 Hydref 2018.
- ↑ £3m – rhent 'rhag-blaen' S4C i'r Egin , Golwg360, 16 Rhagfyr 2016. Cyrchwyd ar 12 Hydref 2018.
- ↑ Cwestiynu 'tryloywder' S4C a phrifysgol dros Yr Egin , BBC Cymru Fyw, 8 Chwefror 2017. Cyrchwyd ar 12 Hydref 2018.
- ↑ Pencadlys S4C, Yr Egin, i gael £3m gan Lywodraeth Cymru , BBC Cymru Fyw, 1 Mawrth 2017. Cyrchwyd ar 14 Hydref 2018.
- ↑ S4C: Mwy'n gadael na sy'n symud i Gaerfyrddin yn barhaol , BBC Cymru Fyw, 6 Mehefin 2018. Cyrchwyd ar 12 Hydref 2018.
- ↑ BBC Cymru ddim am symud i'r Egin? , BBC Cymru Fyw, 9 Chwefror 2018. Cyrchwyd ar 12 Hydref 2018.
- ↑ S4C yn ymrwymo i swyddfa Caernarfon , BBC Cymru Fyw, 11 Medi 2018. Cyrchwyd ar 22 Hydref 2018.
- ↑ @s4c (27 Ionawr 2021). "Cyhoeddiad byw cyntaf S4C o Sgwâr Canolog, Caerdydd. 👇🏼 The first live S4C announcement from Central Square, Cardiff. 👇🏼" (Trydariad) – drwy Twitter.
- ↑ S4C yn darlledu o Sgwâr Canolog. S4C (27 Ionawr 2021).
- ↑ "S4C: Honiadau o fwlio a 'diwylliant o ofn'". BBC Cymru Fyw. 2023-05-02. Cyrchwyd 2023-11-24.
- ↑ "S4C yn diswyddo Llinos Griffin-Williams dros ymddygiad 'amhriodol'". BBC Cymru Fyw. 2023-10-12. Cyrchwyd 2023-11-24.
- ↑ "S4C: Cyn-brif swyddog gafodd ei diswyddo 'wedi cael ei bwlio'". BBC Cymru Fyw. 2023-11-20. Cyrchwyd 2023-11-24.
- ↑ 29.0 29.1 "Awdurdod S4C wedi terfynu cyflogaeth Sian Doyle y Prif Weithredwr". newyddion.s4c.cymru. 2023-11-24. Cyrchwyd 2023-11-24.
- ↑ "Siân Doyle yn beirniadu penderfyniad S4C i'w diswyddo". BBC Cymru Fyw. 2023-11-24. Cyrchwyd 2023-11-25.
- ↑ "Angen eglurder ar ddyfodol cadeirydd S4C - cyn-gyfarwyddwr". BBC Cymru Fyw. 2023-11-27. Cyrchwyd 2023-11-27.
- ↑ "Cyn-weithwyr S4C yn 'hapus' wedi diswyddiad Sian Doyle". BBC Cymru Fyw. 2023-11-27. Cyrchwyd 2023-11-27.
- ↑ "S4C: Pennaeth dros dro" (yn Saesneg). 2010-07-30. Cyrchwyd 2024-01-11.
- ↑ Penodi Siân Doyle yn Brif Weithredwr newydd S4C , Newyddion S4C, 17 Ionawr 2021.
- ↑ "S4C yn penodi Sioned Wiliam yn brif weithredwr dros dro". BBC Cymru Fyw. 2024-02-29. Cyrchwyd 2024-02-29.
- ↑ "S4C yn penodi Geraint Evans yn brif weithredwr newydd". BBC Cymru Fyw. 2024-11-12. Cyrchwyd 2024-11-12.
- ↑ John Walter Jones wedi ymddiswyddo , BBC Cymru Fyw, 7 Rhagfyr 2010. Cyrchwyd ar 17 Mehefin 2019.
- ↑ Hugh Hesketh Evans yw Cadeirydd dros dro S4C , Golwg360. Cyrchwyd ar 7 Hydref 2019.
- ↑ (Saesneg) Secretary of State Appoints Rhodri Williams as S4C Chair. Llywodraeth y DU (7 Ebrill 2020). Adalwyd ar 24 Mehefin 2020.
- ↑ Penodi Guto Bebb yn Gadeirydd dros dro S4C , Newyddion S4C, 14 Mawrth 2024.