Neidio i'r cynnwys

Pliska

Oddi ar Wicipedia
Pliska
Mathkmetstvo of Bulgaria, dinas ym Mwlgaria Edit this on Wikidata
Poblogaeth892, 860 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBwrdeistref Kaspichan Edit this on Wikidata
GwladBwlgaria Edit this on Wikidata
Arwynebedd34.356 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr145 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.362015°N 27.125411°E Edit this on Wikidata
Cod post9920 Edit this on Wikidata
Map

Lleoliad Pliska ym Mwlgaria

Hen brifddinas Bwlgaria yn ystod blynyddoedd cynnar y 'Deyrnas Gyntaf' o 681 tan canol yr 890au oedd Pliska. Fe'i sefydlwyd gan Khan Asparukh ychydig o flynyddoedd cyn 680. Yn 892 daeth Pliska'n ganolfan gwrthryfel Paganaidd o dan arweinyddiaeth Brenin Vladimir. Ar ôl rhoi pen ar y gwrthryfel, disodlwyd Vladimir, a gosodwyd trydydd fab Boris I yn ei le fel Simeon I. Un o'i benderfyniadau cyntaf fel teyrn oedd symud y brifddinas i Preslav, tref gaerog gerllaw, mae'n debyg oherwydd bod dylanwad y Paganiaid yn dal yn gryf yn Pliska. Lleihaodd pwysigrwydd y dref o hynny ymlaen. Difethwyd y ddinas yn llwyr yn ystod ymosodiadau gan Rws Kiev ac Ymerodraeth Bysantiwm rhwng 969 a 972, a chafodd hi mo'i hailadeiladu wedyn.

Adfeilion y ddinas ganoloesol

Heddiw Pliska yw enw pentref bach yn agos at adfeilion y ddinas ganoloesol. Ei henw cynharach oedd Aboba, ac fe'i hailenwyd yn 1925, ryw deg ar hugain o flynyddoedd ar ôl i adfeilion y dref hanesyddol gael eu darganfod ym 1899. Mae adfeilion y ddinas hen yn gorwedd tua 3 km i'r gogledd o'r pentref cyfoes.

Prifddinasoedd hanesyddol Bwlgaria Baner Bwlgaria
Pliska (681-893) | Preslav (893-972) | Skopje (972-992) | Ohrid (992-1018) | Veliko Tarnovo (1185-1393, 1878-1879) | Sofia (ers 1879)