Mervyn Davies
Enw llawn | Thomas Mervyn Davies | ||
---|---|---|---|
Dyddiad geni | 9 Rhagfyr 1946 | ||
Man geni | Abertawe, Cymru | ||
Dyddiad marw | 15 Mawrth 2012 | (65 oed)||
Taldra | 1.95 metr; 6tr 4" | ||
Pwysau | 108 kg (17 st 0 pwys) | ||
Ysgol U. | Ysgol Sirol Penlan | ||
Gyrfa rygbi'r undeb | |||
Gyrfa'n chwarae | |||
Safle | Rhif Wyth | ||
Clybiau amatur | |||
Blynyddoedd | Clwb / timau | ||
1968-1972 1972-1976 |
Clwb Rygbi Cymry Llundain Tîm Rygbi Abertawe Y Barbariaid Surrey | ||
Timau cenedlaethol | |||
Blynydd. | Clybiau | Capiau | |
1969–1976 1971–1974 |
Cymru Y Llewod |
38 8 |
(7) (0) |
Chwaraewr Rygbi'r Undeb o Gymru oedd Thomas Mervyn Davies (9 Rhagfyr 1946 - 15 Mawrth 2012).[1] Enillodd 38 o gapiau dros Gymru fel wythwr.
Cafodd Davies ei eni yn Abertawe. Ymunodd Davies â Chymry Llundain ym 1968, ac yn ddiweddarach symudodd i Abertawe. Enillodd ei gap cyntaf i Gymru ym 1969 yn erbyn yr Alban, ac aeth ymlaen i chwarae mewn 38 gêm yn olynol i Gymru gan sgorio dau gais. Yn ystod y cyfnod yma enillodd Cymru'r Gamp Lawn ddwywaith a'r Goron Driphlyg deirgwaith.
Aeth ar daith gyda'r Llewod Prydeinig i Seland Newydd ym 1971 ac i Dde Affrica ym 1974, gan chwarae mewn wyth gêm brawf i gyd. Mewn cyfanswm o 46 gêm ryngwladol i Gymru a'r Llewod, dim ond naw gwaith y bu mewn tîm a gollodd.
Diweddwyd ei yrfa gan waedlif y tu mewn i'w graniwm, anaf a ddioddefodd pan oedd yn gapten Abertawe yn erbyn Pontypŵl mewn gêm ym 1976.
Ystyrir Mervyn Davies fel yr wythwr gorau fu'n chwarae i Gymru erioed, ac un o chwaraewyr gorau Cymru mewn unrhyw safle.
Gwobrau | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Arfon Griffiths |
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru 1976 |
Olynydd: Phil Bennett |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Mervyn Davies". lionsrugby.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-11-24. Cyrchwyd 10 January 2013.