Machlud
Y machlud yw diflaniad dyddiol yr Haul dros gorwel o ganlyniad i gylchdro'r Haul. Wrth edrych arno o'r Cyhydedd, mae Haul y cyhydnos yn machludo yn union yn y gorllewin yn y gwanwyn a'r hydref. Wrth edrych arno o'r lledredau canol, mae Haul yr haf yn machludo i ogledd-orllewin Hemisffer y Gogledd, ond i dde-orllewin Hemisffer y De.
Mae amser y machlud yn cael ei ddiffinio mewn seryddiaeth fel y foment y gwelir cymal uchaf yr Haul yn diflannu ar y gorwel. Ger y gorwel, mae plygiant atmosfferig yn achosi i belydrau'r haul gael eu hystumio i'r fath raddau fel bod y ddisg solar eisoes tua un diamedr o dan y gorwel pan welir machlud.
Mae'r machlud yn wahanol i'r cyfnos, sy'n cael ei rannu'n dair rhan: y cyntaf yw'r cyfnos sifil, sy'n dechrau unwaith y mae'r haul wedi diflannu y tu hwnt i'r gorwel, ac yn parhau tan y bydd wedi gostwng 6 gradd o dan y gorwel; yr ail yw'r cyfnos morwrol, rhwng 6 a 12 gradd o dan y gorwel; a'r trydydd yw'r cyfnos seryddol, sef y cyfnod pan fydd yr Haul rhwng 12 ac 18 gradd o dan y gorwel.[1] Y llwyd-wyll yw rhan olaf un y cyfnos seryddol, a'r foment dywyllaf o'r cyfnos cyn nos.[2] Mae'r nos yn dechrau pan fydd yr Haul yn cyrraedd 18 gradd o dan y gorwel ac nad yw'n golweuo'r awyr mwyach.
Nid yw lleoliadau i'r gogledd o Gylch yr Arctig ac i'r de o Gylch yr Antarctig yn cael machlud na gwawr yn ei gyfanrwydd am o leiaf un diwrnod y flwyddyn, pan fydd y diwrnod pegynol neu'r noson begynol yn parhau yn ddi-dor am 24 awr. Lleoliadau ar ledred o fwy na tua 72.5 gradd yn unig sy'n cael noson begynol gyflawn.
Mae'r machlud yn creu amodau atmosfferig unigryw fel lliwiau oren a choch dwys yr Haul a'r awyr o'i amgylch.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Diffiniad o Adran Cymwysiadau Seryddol yr UDA (USNO)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-08-14. Cyrchwyd 2016-06-17.
- ↑ "Diffiniad llawn o llwyd-wyll (dusk)".