Ludwig Tieck
Ludwig Tieck | |
---|---|
Portread o Ludwig Tieck. | |
Ffugenw | Peter Lebrecht, Gottlieb Färber, Peter Leberecht |
Ganwyd | Johann Ludwig Tieck 31 Mai 1773 Berlin |
Bu farw | 28 Ebrill 1853 Berlin |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prwsia |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, llenor, cyfieithydd, dramodydd, beirniad llenyddol, nofelydd, casglwr straeon, cyhoeddwr |
Adnabyddus am | Der gestiefelte Kater |
Mudiad | Rhamantiaeth, German Romanticism, Romantic literature |
Tad | Johann Ludwig Tieck |
Mam | Anna Sophia, ex Berukin Tieck |
Priod | Amalie Tieck |
Perthnasau | Julius Gustav Alberti, Jacob Nicolai Møller |
Gwobr/au | Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Chevalier de la Légion d'Honneur |
llofnod | |
Beirniad llenyddol a theatr, bardd, nofelydd, dramodydd, a chyfieithydd o'r Almaen oedd Ludwig Tieck (31 Mai 1773 – 28 Ebrill 1853) a fu'n un o hoelion wyth y mudiad Rhamantaidd yn yr Almaen.
Ganed ef ym Merlin, Teyrnas Prwsia, yn fab i grefftwr. Mynychodd y gymnasiwm ym Berlin o 1782 i 1792 cyn iddo astudio ym mhrifysgolion Halle, Göttingen, ac Erlangen o 1792 i 1794. Gydag un o'i gyfeillion agos, W. H. Wackenroder, astudiodd gweithiau William Shakespeare a dramodwyr Saesneg eraill Oes Elisabeth, llenyddiaeth yr Uchel Almaeneg Ganol (o'r 11g i'r 14g), a phensaernïaeth ddinesig yr Oesoedd Canol.
Ymhlith ei weithiau cynnar mae'r nofel epistolaidd Die Geschichte des Herrn William Lovell (tair cyfrol, 1795–96), y drasiedi ddramataidd Karl von Berneck (1797), a'r nofel Franz Sternbalds Wanderungen (dwy gyfrol, 1798). Ysgrifennodd sawl drama yn seiliedig ar straeon gwerin, gan gynnwys Ritter Blaubart (Barflas) a Der gestiefelte Kater (Pws Esgid Uchel), a gesglid, gyda'i nofel fer Der blonde Eckbert, yn y gyfrol Volksmärchen (1797) dan y ffugenw Peter Leberecht. Ym 1799 cyhoeddodd ei gyfieithiad o The Tempest gan Shakespeare, a chychwynnodd ar drosi Don Quixote gan Miguel de Cervantes i'r Almaeneg, a chyhoeddwyd yr hynny mewn rhannau o ym 1799 i 1801. Ar ddiwedd ei gyfnod boreuol, cynhyrchodd y dramâu grotésg Leben und Tod der heiligen Genoveva (1800) a Kaiser Octavianus (1804).
Tua throad y ganrif, rhoddai Tieck y gorau i ysgrifennu gweithiau creadigol am ryw chwarter canrif. Treuliodd ei amser yn astudio'r iaith Uchel Almaeneg Ganol, yn casglu a chyfieithu dramâu'r theatr Elisabethaidd, ac yn cyhoeddi argraffiadau newydd o ddramâu Almaeneg o'r 16g a'r 17g. Bu hefyd yn cynghori August Schlegel ar ei gyfieithiad efe o Shakespeare. Cafodd Tieck hefyd ran mewn cyhoeddi gweithiau newydd gan lenorion megis Novalis a Heinrich von Kleist.
Gweithiodd Tieck yn gynghorwr a beirniad i Theatr Dresden o 1825 i 1842, a daeth yn enwog fel beirniad llenyddol gwychaf yr Almaen ers Goethe. Ysgrifennodd ryw 40 o nofelau byrion yn y cyfnod hwn, ac ynddynt gwelir Tieck yn troi yn erbyn y Rhamantwyr ifainc a llenorion y grŵp Junges Deutschland. Cyhoeddodd hefyd fywgraffiad o Shakespeare, Dichterleben (dwy gyfrol, 1826 a 1831), a'r nofel hanesyddol Vittoria Accorombona (1840). Derbyniodd wahoddiad y Brenin Ffredrig Wiliam IV i ddychwelyd i'w ddinas enedigol, Berlin, ym 1842, ac yno y bu hyd at ei farwolaeth yn 79 oed.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Ludwig Tieck. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Tachwedd 2021.
- Genedigaethau 1773
- Marwolaethau 1853
- Beirdd y 18fed ganrif o'r Almaen
- Beirdd y 19eg ganrif o'r Almaen
- Beirdd Almaeneg o'r Almaen
- Beirdd Rhamantaidd
- Beirniaid llenyddol Almaeneg o'r Almaen
- Beirniaid theatr Almaeneg o'r Almaen
- Cyfieithwyr o'r Almaen
- Cyfieithwyr o'r Saesneg i'r Almaeneg
- Cyfieithwyr o'r Sbaeneg i'r Almaeneg
- Dramodwyr y 18fed ganrif o'r Almaen
- Dramodwyr y 19eg ganrif o'r Almaen
- Dramodwyr Almaeneg o'r Almaen
- Dramodwyr Rhamantaidd
- Llenorion o Brwsia
- Nofelwyr y 18fed ganrif o'r Almaen
- Nofelwyr y 19eg ganrif o'r Almaen
- Nofelwyr Almaeneg o'r Almaen
- Nofelwyr Rhamantaidd
- Pobl a aned ym Merlin
- Pobl fu farw ym Merlin