Ian Woosnam
Gwedd
Ian Woosnam | |
---|---|
Ffugenw | Woosie |
Ganwyd | 2 Mawrth 1958 Croesoswallt |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | golffiwr |
Taldra | 1.64 metr |
Pwysau | 73 cilogram |
Gwobr/au | OBE, 'Hall of Fame' Golff y Byd |
Chwaraeon | |
Tîm/au | European Ryder Cup team |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Golffiwr proffesiynol o Gymru yw Ian Harold Woosnam (ganed 2 Mawrth, 1958). Ganed ef yn nhref Croesoswallt, a dechreuodd chwarae golff yng Nghlwb Golff Llanymynech. Trodd yn broffesiynol yn 1976, a chafodd yrfa lwyddiannus, er ei fod yn anarferol o fyr i olffiwr proffesiynol, 5 troedfedd 4½ modfedd (1.64 m).
Yn 1991, enillodd dwrnamaint yr U.S. Masters, y golffiwr cyntaf sy'n cynrychilio Cymru i ennill un o'r majors. Y flwyddyn honno, cyrhaeddodd rhif 1 ymhlith golffwyr y byd, a daliodd y safle honno am 50 wythnos.
Roedd yn aelod o dîm Ewrop yng Nghwpan Ryder am wyth cystadleuaeth yn olynol rhwng 1983 a 1997. Yn 2006, deiswyd ef yn gapten tîm Ewrop, ac arweiniodd hwy i fuddugoliaeth 18½-9½ yn erbyn yr Unol Daleithiau.
Rhagflaenydd: Steve Barry |
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru 1983 |
Olynydd: Ian Rush |
Rhagflaenydd: Kirsty Wade |
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru 1987 |
Olynydd: Colin Jackson |
Rhagflaenydd: Stephen Dodd |
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru 1990 |
Olynydd: Ian Woosnam |
Rhagflaenydd: Ian Woosnam |
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru 1991 |
Olynydd: Tanni Grey-Thompson |