Homo
Homo | |
---|---|
Penglog Homo ergaster | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Primates |
Teulu: | Hominidae |
Is-deulu: | Homininae |
Llwyth: | Hominini |
Is-lwyth: | Hominina |
Genws: | Homo Linnaeus, 1758 |
Rhywogaethau | |
Homo yw'r rhywogaeth (genws) sy'n cynnwys dynolryw a'u perthnasau agosaf. Tybir fod y genws yn bodoli ers tua 1.5 i 2.5 miliwn o flynyddoedd. Mae pob rhywogaeth ac eithrio Homo sapiens wedi darfod o'r tir. Darfod fu hanes Homo neanderthalensis, y rhywogaeth olaf ac eithrio dyn, tua 30,000 o flynyddoedd yn ôl (ond yn ddiweddar ceir tystiolaeth sy'n awgrymu i Homo floresiensis fyw hyd at mor ddiweddar â 10,000 CC).
Mae'r rhan fwyaf o wyddonwyr yn meddwl fod y gwahaniaeth rhwng dyn a'r gorila a tsimpansî yn rhy fawr iddyn nhw fod yn rhan o'r un genws, er eu bod fel arall yn agos iawn i ni. Y genws agosaf i Homo yw Kenyanthropus platyops, sydd efallai'n genws hynafiad. Yn nesaf, trwy'r genws hwnnw, mae homo yn perthyn i'r genera Paranthropus ac Australopithecus, a adawsant stema'r egin-Homo tua 5 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Rhywogaethau
[golygu | golygu cod]- Homo antecessor (Dyn Rhagflaenol)
- Homo erectus (Dyn Cefnsyth)
- Homo ergaster (Dyn Gweithgar)
- Homo floresiensis (Dyn Flores — darganfuwyd yn 2003)
- Homo habilis (Dyn Galluog)
- Homo heidelbergensis (Dyn Heidelberg)
- Homo longi
- Homo luzonensis
- Homo naledi
- Homo neanderthalensis
- Homo rhodesiensis
- Homo rudolfensis (Dyn Rudolf)
Esblygu
[golygu | golygu cod]Gall hynafiad uniongyrchol llinach Homo fod yn un o sawl rhywogaeth gan gynnwys: Australopithecus garhi, Australopithecus sediba, Australopithecus africanus, ac Australopithecus afarensis.[1] Mae sawl nodwedd o forffoleg pob un o'r rhain yn debyg iddo, ond ceir anghytundeb pa un sydd agosaf. Esblygodd Homo'n gyntaf ar yr un pryd a dau ddigwyddiad: yn gyntaf y defnydd cyntaf o offer carreg, sef Hen Oes y Cerrig Isaf ac yn ail cychwyn y rhewlifiad cwaternaidd, sef cychwyn yr Oes iâ cyfredol.
Yn 2015 darganfuwyd asgwrn y gên 2.8 miliwn CP, a all fod y ddolen rhwng Australopithecus a Homo, yn Ardal Afar, Ethiopia.[2] Mae rhai anthropolegwyr yn mynnu i Homo ddechrau dros 3 miliwn CP drwy gynnwys y ffosil Kenyanthropus a ddyddiwyd i 3.2 -3.5 miliwn CP.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Pickering, R.; Dirks, P. H.; Jinnah, Z.; De Ruiter, D. J.; Churchill, S. E.; Herries, A. I.; Berger, L. R. (2011). "Australopithecus sediba at 1.977 Ma and implications for the origins of the genus Homo". Science 333 (6048): 1421–1423. doi:10.1126/science.1203697.
- ↑ Erin N. DiMaggio EN, Campisano CJ, Rowan J, Dupont-Nivet G, Deino AL. "Late Pliocene fossiliferous sedimentary record and the environmental context of early Homo from Afar, Ethiopia". Science. doi:10.1126/science.aaa1415. https://www.sciencemag.org/content/early/2015/03/03/science.aaa1415.
Gweler hefyd: "Oldest known member of human family found in Ethiopia". New Scientist. 4 Mawrth 2015. Cyrchwyd 7 Mawrth 2015. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help), Ghosh, Pallab (4 March 2015). "'First human' discovered in Ethiopia". BBC News. Cyrchwyd 5 Mawrth 2015. - ↑ Cela-Conde and Ayala (2003) recognize five genera within Hominina: Ardipithecus, Australopithecus (including Paranthropus), Homo (including Kenyanthropus), Praeanthropus (including Orrorin), and Sahelanthropus. C. J. Cela-Conde and F. J. Ayala. 2003. "Genera of the human lineage". Proceedings of the National Academy of Sciences 100(13):7684-7689.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Rhywogaethau ominid
- Phylogeneg Mikko Archifwyd 2008-01-10 yn y Peiriant Wayback