Hanes Cymru
Hanes Cymru |
---|
Cynhanes Cymru |
Oes y Celtiaid |
Cyfnod modern cynnar |
Teyrnasoedd |
Rhestr digwyddiadau |
Iaith |
Crefydd |
Llenyddiaeth |
Deddfau pwysig
|
Mytholeg a symbolau |
Hanesyddiaeth |
WiciBrosiect Cymru |
Gellid dadlau fod hanes Cymru fel gwlad, neu egin-wlad, yn dechrau gyda'r Celtiaid o gwmpas cyfnod y daeth y Rhufeiniaid i Gymru. Credir fod Cristnogaeth wedi ymgartrefu yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwnnw ac arferir galw'r cyfnod yn dilyn gadawiad y Rhufeiniaid yn Oes y Seintiau. Yng nghyfnod y seintiau cynnar bu goresgyniad Eingl-Sacsonaidd yn ne-ddwyrain Prydain a mewnfudo gan Wyddelod i Gymru a gorllewin yr Alban.
Yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid, fe dyfodd nifer o freniniaethau - yng Ngwynedd, Powys, Dyfed a Deheubarth. Roedd gan y brenhinoedd hyn eu heglwysi, eu cyfreithiau a'u llysoedd eu hunain, gyda safon byw a diwylliant uchel. Erbyn yr 8g, pan godwyd Clawdd Offa, roedd tiriogaeth Cymru yn ddiffiniedig a'r Oesoedd Canol wedi dechrau. Yn sgil y goresgyniad Normanaidd newidiodd patrwm llywodraethu Cymru a dechreuodd ei harweinwyr pendefig galw eu hunain yn dywysogion yn hytrach na brenhinoedd; gelwir y cyfnod hwnnw yn "Oes y Tywysogion". Yn yr Oesoedd Canol Diweddar yng Nghymru ar ôl cwymp Llywelyn ap Gruffudd a'i frawd Dafydd ap Gruffudd, cafwyd cyfnod ansefydlog dan reolaeth coron Lloegr. Arweiniodd Owain Glyndŵr wrthryfel llwyddiannus yn erbyn y Saeson ac yn ddiweddarach enillodd Harri Tudur Frwydr Bosworth gan sefydlu cyfnod y Tuduriaid.
Un canlyniad o'r cyfnod hwnnw oedd y Deddfau Uno a roddodd Cymru yn yr un system gyfreithiol a gweinyddol â Lloegr. Ar yr un pryd newidiodd Cymru mewn cenhedlaeth neu ddwy o fod yn wlad Gatholig i fod yn wlad Brotestannaidd. Gwelwyd hefyd adfywiad llenyddol - cyfnod y Dadeni Dysg a'r Beibl Cymraeg - ond troes y bonedd fwyfwy Seisnigaidd a thyfai bwlch rhwng arweinwyr cymdeithas a'r werin. Un canlyniad o hynny oedd y mudiadau crefyddol ymneilltuol a ymledai'n gyflym yn ystod yr 17eg ganrif a'r 18fed. Dechreuodd Cymru droi'n wlad ddiwydiannol yn ogystal, ac erbyn diwedd y 18g a dechrau'r 19eg ganrif roedd trefi diwydiannol, chwareli a phyllau glo yn nodwedd amlwg ar fywyd y wlad. Tyfodd llythrennedd ac ymledai'r wasg Gymraeg. Cynyddai'r galw am Ddatgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru ac am hunanlywodraeth ac erbyn diwedd y 19g roedd mudiad Cymru Fydd ar ei anterth.
Cymysg fu ffawd y wlad yn ystod y 20fed ganrif. Ond er gwaethaf y Rhyfel Byd Cyntaf, Dirwasgiad Mawr y 1930au, yr Ail Ryfel Byd a'r dirywiad ieithyddol yn y 1970au a'r 1980au, mae Cymru heddiw yn meddu Cynulliad Cenedlaethol ac ymddengys fod yr iaith Gymraeg yn wynebu dyfodol mwy gobeithiol nag a ddychmygid cenhedlaeth yn ôl.
Cynhanes
[golygu | golygu cod]- Prif: Cynhanes Cymru
Dyn cynharaf
[golygu | golygu cod]Mae'r dystiolaeth hynaf o fodolaeth dynol yn dod o Ogof Pontnewydd, Ddinbych, lle darganfuwyd gweddillion Neanderthal yn dyddio o 230,000 o flynyddoedd yn ôl. Darganfuwyd gerrig bwyell a ddefnyddiwyd gan Neanderthaliaid yn Ogof Coygan sy'n dyddio o 60,000 i 40,000 o flynyddoedd yn ôl. Ymddangosodd y bodau dynol homo sapien cyntaf tua 60,000 o flynyddoedd yn ôl.[1]
Yn Ewrop a Phrydain mae'r homo sapiens cynharaf yn dyddio o tua 40,000 o flynyddoedd yn ôl.[2] Mae enghraifft o ysgerbwd dyn Paeleolithig Goch yn Ogof Pen-y-Fai yn dyddio o tua 33,000-34,000 o flynyddoedd yn ôl.[3] Dyma'r enghraifft cynharaf o gladdu seremonïol yng Ngorllewin Ewrop i gyd ac mae sawl galwad wedi bod i ddychwelyd y dyn coch i Gymru o Loegr.[4][5]
Mewnfudiad Ffermwyr ~4000 C.C
[golygu | golygu cod]Ymddangosodd diwylliannau Neolithig gyntaf ym Mhrydain tua 4000 CC. Cyflwynwyd amaethyddiaeth i Brydain gan ffermwyr cyfandirol. Mewn astudiaeth genetig, dangoswyd bod cysylltiadau rhwng pobl Neolithig Prydain a phobl Neolithig Iberia. Mae hyn yn awgrymu bod pobl Neolithig Prydain yn ddisgynyddion i ffermwyr o Fôr Aegeaia a ddaeth i Brydain drwy ddilyn arfordir Môr y Canoldir.[6] Adeiladwyd bedrodd Neolithig Pentre Ifan tua 4000 CC[7] a siambr gladdu yn Carnedd Hir Parc Cwm tua 3800 CC[8] ac adeiladau pren yn Llandygái sy'n dyddio o 3760-3620 CC.[9] Tua 700 mlynedd yn ddiweddarach, adeiladwyd Bryn Celli Ddu tua 3074-2956 a CC.[10][11]
Y Brythoniaid
[golygu | golygu cod]- Prif: Y Brythoniaid a Brenin y Brythoniaid
Mae astudiaeth genetaidd hefyd yn cefnogi mewnfudiad Celtaidd i dde Prydain tua 1000-875 CC a all fod yn gyfrifol yn ledaeniad ieithoedd Celtaidd cynnar yn y cyfnod.[12] Yn 55 a 54 CC, glaniodd Iŵl Cesar ym Mhrydain a theithiodd drwy'r de-ddwyrian yn unig. Gwelodd debygiaethau rhwng Celtiaid Prydain a Cheltiaid Gâl on roedd rhain pethau yn unigryw am y Celtiaid Brythoniaidd gan gynnwys peintio'i hunain gyda glaslys a'u defnydd parhaol o gerbyd y rhyfel (chariot).[13]
Dechreuodd goresgyniad y Rhufeiniaid tua 90 mlynedd yn ddiweddarach yn 43 OC, ac anfonwyd byddin o 40,000 i Brydain yn 48 OC.[14] Rhoddir ddarlun gwahanol o'r Brythoniaid yn y cyfnod hwn gan yr ymerawdwr Claudius. Daeth y Rhufeiniaid i adnabod y llwythau Prydain yn ehangach a disgrifir rheolaeth mwy canolog ohonynt gan gynnwys brenhinoedd. Awgrymir yr awdur Barri Jones mai conffederaliaeth o lwythau Celtaidd a fodolodd yng Nghymru rhwng y Cornoficiaid, y Demetiaid, yr Ordoficiaid a'r Silwriaid.[15] Mae'n bosib yr ysgogwyd Rhufain i oresgyn Cymru er mwyn sicrhau cyfoeth ei chyfoeth mwynol.[16]
Ar ôl gwrthwynebu'r Rhufeiniaid fel arweinydd y Catuvellauni, ffodd Caradog i'r gorllewin lle arweiniodd y Silwriaid a'r Ordoficiad yn erbyn y Rhufeiniaid. Daliwyd Caradog a chymerwyd ef i Rufain yn 51 OC.[17][18] Daliwyd Ynys Môn, cadarnle Derwyddon yr Ordoficiaid yn 61 OC a thorrwyd coed derw y derwyddon. Gadawodd y catrawd Rhufeinig i ymladd yn erbyn Buddug (Boudica) ond fe oresgynnwyd yr ynys eto yn 78 OC. Parhaodd y Silwres i ymladd gyda thactegau gerila tan yr un cyfnod, 74-78 OC. Ar ei hanterth tua 70 OC roedd tua 30,00 o filwyr Rhufeinig yng Nghymru, ond roeddent yn cynnwys llwythau Nervii, Vettones a'r Astwriaid.[14] Ni choncwerwyd Prydain yn drylwyr tan 84 OC.[19]
Erbyn 120 OC creodd y Silwriaid Senedd Llwythol yn Caer-went fel canolbwynt "civitas", gwladwriaeth dinesig a ddefnyddiodd system ariannol Rhufeinig. Fe ddaeth Caerfyrddin yn ganolbwynt i'r Demetae ond fe barhaodd ir Ordoficiad i wrthwynebu'r Rhufeiniaid yn y 3g a'r 4g ac mae eu tiroedd yn wag ar fapiau Rhufeinig, er gwaethaf presenoldeb milwyr.[14] Sefydlodd y Rhufeiniaid gaer lleng Caerllion a safle milwrol a ddatblygwyd fel tref Rhufeinig yng Nghaerfyrddin.[20]
Dywed Gwyn Alf Williams y ganwyd Cymru yn 383 pan gadawodd Macsen Gymru sy'n ymddangos yn y gân Yma o Hyd; ond mae'r rhan fwyaf o haneswyr yn anghytuno â hyn. Erbyn 393, dad-filwriwyd Cymru oherwydd roedd angen mwy o filwyr gan y Rhufeiniaid yn Gâl ac erbyn 410 gadawodd y catrodau Rhufeinig gan adael dim ond tasgfeistri ar ôl i ‘fflangellu ysgwyddau'r brodorion’ yn ôl Gildas. Erbyn 400 cymysgwyd llawer o Ladin gyda'r Frythoneg ac fe gyfunwyd y traddodiadau a diwylliant Celtaidd gyda rhai Rhufeinig.[14]
Newid crefydd ac Oes y Seintiau
[golygu | golygu cod]Derwyddiaeth oedd crefydd y Brythoniaid ond tystiodd awduron y cyfnod bod eglwysi Cristnogol ymysg y Celtiaid erbyn 169 OC; fod Brythoniaid wedi dod yn Gristnogion erbyn 208 ac yn 314 OC roedd tri esgob o Frythoniad yng Nghyngor Arles.[21] Sefydlwyd Eglwys annibynnol Gymreig/Brythonaidd cyn Eglwys Rufain ac Eglwys Loegr ac fe barhaodd i fod yn hollol annibynnol yn y cyfnod hwn.[22] Yn 440 OC dywed i Sant Padrig sefydlu eglwys yn Llanbadrig yn Ynys Môn ac yn 470 eglwys lle sefir Eglwys Tyddewi heddiw.[23][24]
Yn y 6g, adroddodd Taliesin fod y rhyfelwyr Brythonaidd yn rhoi eu dwylo ar y groes ac yn tyngu wrtho.[25] Dywed Nennius i'r Brenin Arthur hefyd gael ei arwisgo ag arwyddlun frenhinol gan Dyfrig, esgob Llandaf yn Caerllion yn 517 OC cyn arwain y Brythoniaid i ryfel yn erbyn yr Eingl-Sacsoniaid. Claddwyd ef yn Glastonbury (dan reolaeth y Brythoniaid ar y pryd).[26] Yn ôl Rhygyfarch ap Sulien, gwnaed Dewi Sant yn Archesgob metropolitan Prydain a'r Brythoniaid yn Synod Brefi (Llanddewi Brefi).[27] Cynigodd yr hanesydd John Davies flwyddyn posib o 570 OC ar gyfer y digwyddiad hwn.[28]
Teyrnasoedd cynnar Cymru
[golygu | golygu cod]Dechreuodd y cyfnod Eingl-Sacsonaidd ym Mhrydain tua'r 5g, ac ar yr un pryd ffurfiwyd teyrnasoedd yng Nghymru megis Powys, Ystrad Tywi, Gwent, Dyfed, Gwynedd, Morgannwg, Ceredigion, a Brycheiniog. Yn y 5g symudodd Cunedda o Foryd Forth i Wynedd a gyrru setlwyr Gwyddelig o Ben Llŷn.[29]
Gwahanwyd y Cymry a'r Cernywiaid ar ol brwydr ger Dyrham yn 577 OC. Curwyd Rheged a Manaw Gododdin yn yr Yr Hen Ogledd.[29] Dywed i Frwydr Caer yn 616 OC dorri'r cysylltiad tir rhwng Brythoniaid yr Hen Ogledd (Cumbria a gogledd ddwyrain Lloegr) a Chymru.[30] Llwyddodd teyrnas Ystrad Clud i amddiffyn ei hannibyniaeth tan yr 11g hwyr. Yn y cyfnod hwn, roedd y bardd Aneirin yn byw ym mhrifddinas teyrnas Manaw Gododdin sef Din Eidyn (Caeredin). Ysgrifennodd y gerdd enwog, y Gododdin, yn sôn am lwyth y Gododdin yn yr Hen Ogledd yn brwydro'n erbyn yr Eingl-Sacsoniaid yn y 590au;[29]
“ | Gwyr a aeth Gatraeth oedd fraeth eu llu
Glasfeydd eu hancwyn a gwenwyn fu Trichant mewn peiriant yn catau Ac wedi elwch tawelwch fu... |
” |
Fe lwyddodd Powys i amddiffyn ei thiroedd rhag deyrnas Eingl-Sacsonaidd Mersia ac fe godwyd Croes Eliseg gan Cyngen ap Cadell i goffáu ymdrechion Elisedd ap Gwylog (ei daid), "Yr Eliseg hwnnw a gasglodd ynghyd etifeddiaeth Powys . . . allan o afael yr Eingl â'i gleddyf ac â thân." Yn yr 8g, fe gododd Aethelbald, brenin Mersia, Glawdd Wat ac yna cododd ei olynydd Offa, Glawdd Offa i gadw Brythoniaid Powys allan.[29]
Ymdrechion i uno Cymru
[golygu | golygu cod]- Gweler hefyd: Brenin Cymru
Ar ôl i Dŷ Gwynedd gael ei sefydlu gan Cunedda, daeth Rhodri Mawr yn frenin arni yn 844 OC a daeth Powys dan ei reolaeth yn yr un flwyddyn ar ôl marwolaeth ei ewythr.[31] Bu farw Cyngen ap Cadell yn Rhufain yn 854 a nodir darostyngiad olaf Powys i Wynedd yn 881-6. Ar ôl hyn, roedd un deyrnas dros Ogledd Cymru. Daw'r sôn nesaf am Bowys fel teyrnas annibynnol yn 1102. [32] Priododd Rhodri Mawr Angharad ferch Meurig gan ennill rheolaeth dros teyrnasoedd Ceredigion ac Ystrad Tywi (unwyd dan yr enw Seisyllwg). Rhodri oedd y cyntaf i uno rhannau sylweddol o Gymru tan y rhannwyd ei diroedd rhwng ei feibion ar ôl ei farwolaeth.[31]
Yn y flwyddyn 930, galwodd frenin yr Eingl-Sacsoniad Athelstan bron i holl frenhinoedd Cymru i'w lys yn Henffordd a chytunwyd mai'r Afon Gwy fyddai'r ffin yno. Gorfodwyd termau gwaradwyddus ar y Cymry a phwysleisiwyd statws israddol y frenhiniaeth Gymreig. Dywedir mai hyn ysbrydolodd y gerdd Armes Prydein.[33]
Yn y 10g, etifeddodd Hywel Dda dde Seisyllwg ac yn 942 fe lwyddodd i uno Cymru gyfan heblaw Morgannwg. Roedd Hywel yn gyfrifol am greu Cyfraith Cymreig Hywel a bu'r unig frenin Cymreig i gynhyrchu ei arian ei hun gyda "Hywel rex" arnynt. Ar ôl ei farwolaeth yn 950, rhannodd y teyrnasoedd unwaith eto.[31]
Erbyn 1039, fe lwyddodd Gruffudd ap Llywelyn i gymryd Gwynedd a Phowys.[31] Yn 1053, mewn cyfarfod gyd Gruffudd ap Llywelyn yn Beachley ac Edward y Cyffeswr wrth lan Clogwyn Aust ar ochr arall Afon Hafren. Cydnabyddodd Gruffudd oruwch-arglwyddiaeth Edward y Cyffeswr ond doedd dim termau eraill i'w cwrdd.[33] Yn 1057 fe yrrodd ymaith deyrn Morgannwg ac wrth wneud, unodd Cymru gyfan am y tro cyntaf tan y lladdwyd ef yn 1063 gan Cynan ab Iago.[31] Yr un flwyddyn, gorfodwyd hanner brodyr Gruffudd, Bleddyn ap Cynfyn a Rhiwallon ap Cynfyn i dalu gwrogaeth mwy costus i Edward.[33]
Brwydro yn erbyn y Normaniaid
[golygu | golygu cod]- Gweler hefyd: Tywysogion a Brenhinoedd Cymru
Ar ôl i Wiliam Goncwerwr ennill coron yr Eingl-Sacsoniaid yn 1066, bu brwydro dros diroedd Cymru am 25 mlynedd ac fe sefydlwyd 'Pura Wallia' dan reolaeth y Cymry a'r Mers ('Marchia Wallia') dan reolaeth yr Normaniaid. Er gwaethaf hyn, erbyn 1100 enillodd y Cymry diroedd helaeth yn ôl oddi tan reolaeth Wiliam II gan gynnwys Gwynedd, Ceredigion a rhannau mawr o Bowys.[34]
Pan orchfygwyd Lloegr gan y Normaniaid yn 1066, y prif deyrn yng Nghymru oedd Bleddyn ap Cynfyn, oedd yn teyrnasu dros Wynedd a Phowys. Yn ne Cymru y cafodd y Normaniaid eu llwyddiannau cynnar, gyda William Fitzosbern, Iarll 1af Henffordd yn cipio Teyrnas Gwent cyn 1070. Erbyn 1074 roedd byddin Iarll Amwythig yn anrheithio Deheubarth.[35]
Tan y cyfnod hwn, bu Eglwys Cymru yn annibynnol o'r pâb Rhufeinig a'r Eglwys Seisnig ers oes Dewi Sant. Newidiwyd hyn pan benodwyd archesgob Normanaidd a gafodd ei annog gan Harri I i fod yn atebol i archesgob Caergaint.[36]
Pan laddwyd Bleddyn ap Cynfyn yn 1075, bu cyfnod o ryfel cartref yng Nghymru, a roddodd gyfle i'r Normaniaid gipio tiroedd yng ngogledd Cymru. Yn 1081 trefnwyd cyfarfod rhwng Ieirll Caer ac Amwythig a Gruffudd ap Cynan, oedd newydd gipio gorsedd Gwynedd oddi wrth Trahaearn ap Caradog ym Mrwydr Mynydd Carn. Cymerwyd Gruffudd yn garcharor trwy frad, a chadwyd ef yng Nghaer am flynyddoedd, gyda'r Normaniaid yn cipio rhan helaeth o Wynedd.[37] Yn y de, diorseddwyd Iestyn ap Gwrgant, teyrn olaf Morgannwg, tua 1090 gan Robert Fitzhamon, arglwydd Caerloyw, oedd wedi sefydlu arglwyddiaeth yng Nghaerdydd ac a aeth ymlaen i gipio ardal Bro Morgannwg. Lladdwyd Rhys ap Tewdwr, brenin Deheubarth, ym 1093 wrth amddiffyn Brycheiniog rhag y Normaniaid, a chipwyd ei deyrnas a'i rhannu rhwng nifer o arglwyddi Normanaidd.[38]
Yn 1081, unodd Rhys ap Tewdwr a Gruffudd ap Cynan i adennill Teyrnas Deheubarth a Gwynedd rhag y Normaniaid. Llwyddodd ymdrechion Rhys ond daliwyd Gruffudd a'i garcharu. Yn 1093, lladdwyd Rhys ger Aberhonddu ond llwyddodd Gruffudd i ddianc o'i garchar tua'r un cyfnod. Yn 1098 bu'n rhaid i Gruffudd ffoi eto i Iwerddon ond dychwelodd yn 1099, pan lladdwyd y Norman pwerus, Hugh de Montgomery gan Lychlynwyr. Erbyn y 1120au, fe lwyddodd Gruffudd i reoli rhan fwyaf o Wynedd.[39]
Yn y blynyddoedd ar ôl 1125, llwydodd mab Gruffydd ap Cynan, Cadwallon ap Gruffudd i ehangu tiroedd Gwynedd a etifeddwyd gan ennill arglwyddiaethau Rhos, Rhufoniog a Dyffryn Clwyd ac erbyn 1136 Meirionnydd. Ystyrir 1136 fel trobwynt, lle dinistriwyd byddin Eingl-Normanaidd yng Nghasllwchwr. Yn 1138, unodd wyrion Rhys ap Tewder (Anarawd ap Gruffudd a Cadell ap Gruffudd) gyda meibion Gruffydd ap Cynan, (Owain Gwynedd a Cadwaladr) i gwblhau concwest Ceredigion rhag y Normaniaid, heblaw Castell Aberteifi).[40]
Yn 1141, disgrifiwyd Owain a'i frawd Cadwaladr yn frenhinoedd Gwynedd ac yn 1152, llwyddodd Owain i adennill ffiniau cyn-Normanaidd Gwynedd yn ogystal â rhannau o Bowys a Deheubarth. Yn 1150 rheolodd Hywel ab Owain Gwynedd Geredigion a Meirionydd ond erbyn 1153 adenillwyd Ceredigion gan deyrnas Deheubarth. Yn 1163, Malcolm brenin yr Alban, Rhys ap Gruffudd "tywysog y Cymru deheuol" ac Owain, "(tywysog y Cymry) gogleddol" ac arweinwyr eraill Cymru dalu gwrogaeth i Harri II, brenin Lloegr yng Nghyngor Woodstock.[41]
Tywysogion Cymru
[golygu | golygu cod]- Gweler hefyd: Oes y Tywysogion
Disgrifiodd Owain Gwynedd ei hun fel "Owinus, rex Wallie" (Owain, brenin Cymru) yn ei lythr cyntaf o dri at frenin Ffrainc; yr ymdrech cyntaf gan arweinydd Cymreig i sefydlu perthynas diplomataidd gyda brenin cyfandirol. Yn 1163, dim ond 4 mis ar ol cyfarfod Woodstock, dechreuodd ddisgrifio'i hun fel "Tywysog y Cymry". Mewn ymateb, ysgrifennodd Thomas Beckett mewn llythyr at y Pab Alecsander III, "the Welsh and Owain who calls himself prince" ac fod "the lord king was very moved and offended". Roedd hyn yn arwyddocaol i Owain ac y byddai ef a'r brenin Harri yn gwybod yn iawn fod "princeps" yn cyfeirio at lywodraethwr sofran gwlad yng nghyfraith Rhufeinig.[42]
Yn 1201 fe ddaeth Llywelyn ap Iorwerth i'r amlwg gan ennill rheolaeth dros Wynedd a gwneud ei hun yn "Dywysog Gogledd Cymru gyfan", yn hwyrach defnyddiodd y teitl "Tywysog Aberffraw ac Arglwydd Eryri". Ar ôl dioddef o strôc yn 1237, trosglwyddodd ei bwerau i'w fab Dafydd ap Llywelyn a chasglodd arweinwyr eraill y wlad yn Abaty Ystrad Fflur ynghyd i dalu gwrogaeth iddo fel Tywysog Cymru.[43]
Erbyn 1258 fe ddaeth Llywelyn ap Gruffudd i reoli bron y cyfan o "Gymru Gymreig" (Pura Wallia) a dechreuodd ddefnyddio teitl Tywysog Cymru. Mae'r awdur John Gower yn awgrymu bod hyn yn awgrymu bod y rhan fwyaf neu bob un o'r tywysogion Cymreig wedi talu gwrogaeth iddo. Wedi iddo ymestyn ei reolaeth i lawr i'r Bannau Brycheiniog yn 1262, sefydlodd Cytundeb Trefaldwyn yn 1267 lle cytunodd Harri III, brenin Lloegr i gydnabod Llywelyn fel Tywysog Cymru. Ym 1277, gorfododd ymosodiad Edward I i Llywelyn dderbyn Cytundeb Aberconwy, gan olygu y byddai'n colli llawer o'r tir a enillwyd yn flaenorol, ond yn cadw teitl Tywysog Cymru.[43]
Diwedd annibyniaeth Cymru
[golygu | golygu cod]- Gweler hefyd: Rhyfeloedd dros annibyniaeth Cymru
Yn 1282, fe wnaeth trethi newydd a cham-drin swyddogion lleol y goron arwain at wrthryfel Cymreig. Cynigwyd iarllaeth Seisnig i Llywelyn ond ymatebodd Llywelyn fod pobl Eryri yn;
“ | anfodlon gwneud gwrogaeth i ddieithryn y mae ei iaith, ei arferion a'i ddeddfau yn gwbl anghyfarwydd iddynt. Os pe bai hynny'n digwydd gallent gael eu caethiwo am byth a chael eu trin yn greulon. | ” |
Ar ôl teithio i'r de, gwahanwyd Llywelyn oddi wrth ei filwyr a lladdwyd ef ger Llanfair-ym-Muallt; dyma oedd diwedd annibyniaeth Cymru. Anfonwyd ei ben i Lundain, a'i roi ar bicell ar giât Tŵr Llundain a'i goroni gyda eiddew, symbol o fod tu hwnt i'r gyfraith. Safodd y pen ar y giât am o leiaf pymtheg mlynedd. Daliwyd ei frawd Dafydd chwe mis wedi hynny, ac ef oedd y person nodedig cyntaf i gael ei grogi, diberfeddu a chwarteru. Cymerwyd meibion Dafydd i gastell Seisnig lle cysgodd un ohonynt mewn cawell am gyfnod. Cymerwyd y Dywysoges Gwenllian i fynachlog Seisnig am ei bywyd cyfan heb allu siarad Cymraeg. Cyhoeddodd Statud Rhuddlan 1284 fod Pura Wallia yn "annexed an united to the crown of the said kingdom as part of the said body". Adeiladodd Edward res o gestyll mawr i gadw'r Cymry dan reolaeth — gan gynnwys cestyll Rhuddlan, Conwy, Caernarfon, Biwmares, a Harlech. Cymerwyd Tlysau Coron Cymru a chreiriau sanctaidd i gysegr Edward y Coffeswr yn San Steffan. Enwyd fab brenin Lloegr yn "dywysog Cymru" yn 1301 yng Nghaernarfon a pherchnogwyd holl diroedd y teuluoedd a rhyfelodd yn erbyn y goron Seisnig. Yn ôl un bardd, "Ac yna taflwyd Cymru oll i'r llawr".[44]
Canoloesoedd hwyr
[golygu | golygu cod]Ym mis Mehefin 1287, gwrthryfelodd un o arglwyddi Cymru, Rhys ap Maredudd. Arglwydd o Sir Gaerfyrddin oedd Rhys ac roedd wedi cefnogi Edward yn rhyfeloedd 1276-7 ac 1282-3. Roedd wedi ei siomi na chafodd fwy o wobr am ei gefnogaeth. Yn ogystal, roedd Rhys wedi cael llond bol bod y Sais o Ustus De Cymru yn ymyrryd yn ei waith ef o reoli. Parhaodd y gwrthryfel tan fis Ionawr 1288. Cafodd Rhys ei orchfygu gan fyddin y brenin oedd yn cynnwys llawer o Gymry. Effeithiodd gwrthryfel 1294-5 ar Gymru gyfan. Cafodd ei arwain gan dri arglwydd o Gymry: Madog ap Llywelyn yn y gogledd, Morgan ap Maredudd ym Morgannwg, a Maelgwn ap Rhys yn y de-orllewin. Parhaodd y gwrthryfel o fis Medi 1294 tan haf 1295 pan orchfygwyd y Cymry gan y Saeson.[45]
Yn 1295 pasiwyd y cyntaf o'r Deddfau Penyd yn erbyn Cymru. Yn 1316, bu gwrthryfel Llywelyn Bren. Bu dau gyfnod newyn yn hanner cyntaf y ganrif ac yna daeth tair afiechyd i'r byd gorllewinol yn 1347-51 gan gynnwys 'Y Farwolaeth Fawr' lle bu farw chwarter o boblogaeth Cymru yn 1349-50. Yn 1300, poblogaeth Cymru oedd tua 300,000, ond erbyn diwedd y ganrif roedd tua 200,000.[46]
Cyhoeddwyd Owain Glyn Dŵr yn dywysog Cymru ar 16 Medi 1400 yn Glyndyfrdwy gyda 300 o gefnogwyr. Cefnogwyd Glyndŵr gan Rhys ap Tudur Fychan, Gwilym ap Tudur, Rhys Ddu, Rhys Gethin, Gwilym Gwyn ap Rhys Llwyd ac yn 1401, Henry Dunn a roddodd gyngor ar frwydro. Enillodd Gwilym ap Tudur Conwy yn 1401 ac enillodd Glyndŵr Frwydr Hyddgen. Lladdwyd un o gefnogwyr Glyndŵr, Llywelyn ap Gruffudd Fychan gan y brenin yn 1401 a dechreuwyd Deddfau Penyd yn erbyn Cymru yn 1402. Cynhaliwyd Seneddau ym Machynlleth yn 1404 ac yn Harlech yn 1405. Ysgrifennwyd Lythyr Pennal yn 1406 gan gynnwys ei weledigaeth dros adfer Eglwys annibynnol Cymru a'i chanolbwynt yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn ogystal a chreu prifysgolion yn Ne a Gogledd Cymru. Yn 1408 collwyd cestyll Aberystwyth a Harlech a llosgwyd ei gartref Sycharth a bu brwydrau ola'r gwrthryfel yn 1412. Bu farw ei fab Gruffuddyn 1411 yn nhŵr Llundain ac hefyd yn hwyrach ei wraig Margaret Hanmer a'i ferched Alys a Catrin.[47] Roedd Llythyr Pennal a Sêl Fawr Owain yn symbolau o hyder y cyfnod. Fe wrthododd Maredudd ab Owain Glyn Dŵr bardwn swyddogol tan 1421.[48]
Cyfnod modern cynnar
[golygu | golygu cod]- Gweler hefyd: Cyfnod modern cynnar Cymru
Wedi hyn bu Rhyfeloedd y Rhosynnau lle rannwyd cefnogaeth y Cymry. Ond er gwaethaf yr ansefydlogrwydd, fel yn y ganrif flaenorol, blodeuodd diwylliant Cymru ac yn arbennig y Traddodiad Barddol gyda Beirdd yr Uchelwyr yn cael nawdd gan yr uchelwyr Cymreig. Un o'r uchelwyr hyn oedd Harri Tudur, nai Siasbar Tudur a disgynnydd i Ednyfed Fychan, distain Llywelyn Fawr. Roedd hefyd yn ŵyr i Owain ap Maredudd (Owain Tudur) a oedd yn gefnder i Owain Glyndŵr. Bu Harri Tudur yn byw'n alltud yn Llydaw a defnyddiodd draddodiad barddol proffwydol Cymreig (Mab Darogan). Enillodd gefnogaeth yng Nghymru ar ôl dweud, "ein tywysogaeth ni o Gymru a'r bobl o'r un peth i'w rhyddid blaenorol, gan eu traddodi o'r fath gaethwasanaethau truenus ag y buont yn druenus ers tro byd." Glaniodd ym Mae'r Felin ym Mhenrhyn Dale ym Mhenfro, enillodd Brwydr Maes Bosworth gan chwifo 'Draig Goch Cadwaladr". Gwelwyd buddugoliaeth 1485 fel un Cymreig gan Gymry.[49]
Ar ôl i Harri VIII wneud ei hun yn bennaeth Eglwys Lloegr ym 1534, gwelwyd Cymru fel problem bosibl a oedd yn cynnwys dynion uchelgeisiol a oedd yn anhapus a'i hanfantais ethnig ac yn rhwystredig gyda chymhlethdodau cyfreithiol. Bu Cymru hefyd yn dir glanio i Harri Tudur ac yn agos at Iwerddon Gatholig. Prif weinyddwr coron Lloegr, Thomas Cromwell, a anogodd y Deddfau yn 1536 a 1542-43 i wneud Cymru yn rhan o Loegr. Diddymwyd Y Mers ac ehangwyd Tywysogaeth Cymru dros Gymru cyfan. Dilewyd y Gyfraith Gymreig. Disgrifiwyd Cymru fel "Tywysogaeth, Gwlad neu Diriogaeth" a ffurfiwyd ffin â Lloegr. Caniatawyd i Gymry ddal swyddi cyhoeddus ond gyda â'r gofyniad i allu siarad Saesneg a gwnaed Saesneg yn iaith y llysoedd.[50] Yn ôl yr awdur Walter Davies mewn traethawd eisteddfodol yn 1791, pasiwyd y ddedf gan Harri VIII mewn ymateb i gwyn gan y Cymry nad oedd gennynt yr un hawliau a'r Saeson.[51]
Crefydd, rhyfel cartref a gwella addysg
[golygu | golygu cod]- Gweler hefyd: Y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru
Newidiodd y crefydd swyddogol o Gatholigiaeth i Brotestaniaeth yn 1533, yn ôl i Gatholigiaeth yn 1553-1558 ac yna'n ôl i Brotestaniaeth gyda Elisabeth I. Cyfieithodd William Morgan y Beibl i'r Gymraeg yn 1588 ar ôl lobïo gan Brotestaniaid o Ogledd Cymru i San Steffan orchymyn cyfieithiad o'r Beibl i'r Gymraeg er mwyn sicrhau diwygiad y Cymry. Daeth rhannau o Gymru megis Dinbych-y-pysgod yn fwy cyfoethog erbyn diwedd ei theyrnasiad ond roedd Cymru'n parhau i fod yn wlad tlawd annatblygedig heb ddosbarth canol cryf.[52]
Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, bu rhan fwyaf o uchelwyr Cymreig yn Cefnogi'r Stiwartiaid oherwydd fod James I yn ddisgynydd i Harri Tudur a welwyd fel brenin Cymreig. Bu brwydrau ffyrnig yng Nghymru gan gynnwys Brwydr Sain Ffagan yn 1648[52]
18g
[golygu | golygu cod]Roedd y 18g yn gyfnod o barhad o rai agweddau ar fywyd crefyddol a chymdeithasol y ganrif flaenorol ac, ar yr un pryd, yn gyfnod o newidiadau mawr yn y wlad, yn arbennig yn ail hanner y ganrif a osododd Cymru ar lwybr newydd gyda diwydiant yn tyfu'n gyflym a phoblogaeth y trefi'n dechrau cynyddu.[angen ffynhonnell]
Dyma'r ganrif pan oedd y Diwygiad Methodistaidd mewn bri gyda phobl fel Howel Harris, William Williams Pantycel ac yna Daniel Rowland yn arwain trwy deithio'r wlad i bregethu o flaen tyrfaoedd mawr. Cafwyd hefyd ysgolion cylchynolGriffith Jones yn y ganrif hon a dyma gyfnod gwaith Y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol (SPCK), yn ogystal. Erbyn diwedd y ganrif roedd canran sylweddol o'r boblogaeth yn Anghydffurfwyr o ryw fath, ond arhosai nifer yn ffyddlon i'r Eglwys yn ogystal.[angen ffynhonnell]
Roedd y mwyafrif mawr o'r boblogaeth yn Gymry uniaith Gymraeg o hyd a'r rhan fwyaf yn byw mewn pentrefi a threfi bach cefn gwlad. Roedd caneuon gwerin a barddoniaeth rydd yn boblogaidd, yn arbennig adeg y gwyliau mawr fel y Gwyliau Mabsant. Yn ail hanner y ganrif roedd yr anterliwt ar ei hanterth a phobl yn tyrru i'r llwyfan yn y ffeiriau, yn arbennig yn siroedd y gogledd-ddwyrain. Cafwyd tyfiant mawr yn y nifer o lyfrau a gyhoeddwyd ynghyd â gwawr newyddiaduriaeth yng Nghymru gydag ymddangosiad y cylchgronau cyntaf. Gosodwyd sylfeini'r Eisteddfod Genedlaethol gyda gwaith y Gwyneddigion yn Llundain ac yn y cylchoedd llenyddol cafwyd math o Ddadeni gyda bri ar bopeth Celtaidd ac ail-ddarganfod meistri'r gorffennol fel Dafydd ap Gwilym a'r Gogynfeirdd diolch i waith Goronwy Owen, Ieuan Fardd a Morrisiaid Môn. Dechreuodd teithwyr ymweld â'r wlad a gwerthfawrogi ei thirwedd "gwyllt" - y twristiaid cyntaf - ac ymledodd dylanwad y Mudiad Rhamantaidd ar lenorion ac artistiaid y wlad, fel yr arlunydd enwog Richard Wilson.[angen ffynhonnell]
Gwelwyd hefyd adfywiad llenyddol — cyfnod y Dadeni Dysg a'r Beibl Cymraeg — ond troes y bonedd fwyfwy Seisnigaidd a thyfai bwlch rhwng arweinwyr cymdeithas a'r werin. Un canlyniad o hynny oedd y mudiadau crefyddol ymneilltuol a ymledai'n gyflym yn ystod y 17g a 18g. Daeth Y Diwygiad Methodistaidd i'r amlwg fel mudiad annibynnol yng Nghymru a arweiniwyd gan Howel Harris a Daniel Rowland yn yr 18g. Daeth William Williams, Pantycelyn i'r amlwg yn yr un cyfnod, yn enwedig fel awdur 800 o emynau.[53]
Yn yr un cyfnod chwaraeodd Griffith Jones, Llanddowror rôl pwysig yn y system addysg Gymreig a sefydlodd system o ysgolion i ddysgu pobl Cymru i ddarllen a system ysgolion teithio yn 1737 i helpu pobl cefn gwlad i ddarllen y Beibl. Bu hyd yn oed Catherine fawr Rwsia yn awyddus i ddefnyddio'r system ar ôl clywed amdani. Yn yr un cyfnod, bu mudiad Celtaidd a sefydlwyd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn Llundain yn 1751.[53]
19g
[golygu | golygu cod]- Gweler hefyd: Hanes modern Cymru
Roedd y 19g yn gyfnod o newid mawr ym mywyd y wlad. Dyma ganrif y Siartwyr a Dic Penderyn, Brad y Llyfrau Gleision a Helyntion Beca.Y 19g oedd canrif fawr y wasg yng Nghymru. Cyhoeddwyd nifer fawr o gylchgronau a phapurau newydd a daeth mwy o lyfrau Cymraeg allan nag erioed.[angen ffynhonnell]
Cafwyd newidiadau ym myd amaethyddiaeth yn ystod ail hanner y ddeunawfed ganrif, yn arbennig gyda dechrau cau'r tiroedd comin. Erbyn y 19g roedd y tirfeddianwyr yn codi rhenti mwy ar eu tenantiaid, ac roedd gwasgfa ar y ffermwyr oedd yn berchen eu tir i werthu i'r tirfeddianwyr mawr. Roedd cau'r tir comin yn amddifadu'r ffermwyr o dir pori hanfodol. Mewn gair roedd tlodi dybryd yng nghefn gwlad, a hynny pan oedd yna gynnydd yn y boblogaeth.[angen ffynhonnell]
Roedd y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru ar gynnydd a thirwedd Cymru'n newid. Roedd gwaith ar gael mewn trefi fel Bersham a Brymbo yn y Gogledd-ddwyrain ac yng nghymoedd a threfi De Cymru. Roedd angen cynhyrchu haearn i adeiladu'r peiriannau newydd oedd yn cael eu hadeiladu. Roedd gan Gymru ddigon o haearn a glo hefyd i'r ffwrneisi i weithio'r haearn hwnnw. Felly roedd poblogaeth Cymru ar gerdded o'r ardaloedd gwledig i'r trefi diwydiannol fel Merthyr Tudful a'r Rhondda a oedd yn tyfu yn gyflym. Yn y gogledd agorwyd nifer o chwareli llechi ac ithfaen, mawr a bychain, a thyfodd canolfannau fel Bethesda, Llanberis a Blaenau Ffestiniog yn drefi prysur a ddeuai i chwarae rhan bwysig yn hanes economaidd a diwylliannol y genedl. Fel bod y bobl yn gallu tramwyo ac i gludo'r glo a'r haearn roedd hefyd angen adeiladu ffyrdd, camlesi a rheilffyrdd.[angen ffynhonnell]
Addysg
[golygu | golygu cod]Bu ymdrech eang i ormesu'r Gymraeg a welwyd gyda'r Welsh Not. Mewn ymateb i bryder dyn busnes Cymreig ac aelod San Steffan am anfantais y Cymry o beidio â allu siarad Saesneg bu adroddiad y Llyfrau Gleision, lle disgrifiwyd y Gymraeg fel iaith gyda "evil effects" a'r Cymry fel pobl anfoesol tu hwnt a bu teimladau o gywilydd ymysg y Cymry. Er gwaethaf hyn, bu cyfres o ymatebion chwyrn gan gynnwys yr enwog Brad y Llyfrau Gleision gan Robert Jones Derfel.[53]
Sefydliadau cenedlaethol
[golygu | golygu cod]Bu hefyd geni cenedlaetholdeb amddiffynnol yng Nghymru a ffurfiwyd sefydliadau cenedlaethol megis Cymdeithas Hynafiaethau Cymru yn 1846 a Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a Undeb Bedyddwyr Cymru. Daeth Hen Wlad fy Nhadaui'r amlwg.[53] Ar ddiwedd y 19g ffurfiwyd nifer o sefydliadau cenedlaethol eraill: 1861 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru,[54] 1876 - Cymdeithas Bêl-droed Cymru,[55] 1881 - Undeb Rygbi Cymru[56] ac yn 1893 - Prifysgol Cymru.[57] Deddf Cau ar y Sul (Cymru) 1881 oedd y ddeddfwriaeth gyntaf i gydnabod statws Cymru ar wahân i Lloegr ers y Deddfau 1536-43 ac erbyn 1889 bu Deddf Addysg Ganolraddol Cymru 1889 a ganiataodd ffurfio ysgolion uwchradd wladol.[58][53]
Yn Ebrill 1887 sefydlodd Tom Ellis fudiad Cymru Fydd yn Llundain gyda phrif amcan o sefydlu corff deddfu cenedlaethol dros Gymru (ymreolaeth, ond ni awgrymwyd annibyniaeth) ac hefyd er mwyn sicrhau aelodau seneddol a fyddai'n cynrychioli Cymru'n drwyadl. Sefydlwyd hefyd Cyngor Cenedlaethol Cymru i gynrychioli'r blaid Rhyddfrydol yr un flwyddyn. Lawnsiwyd cylchgrawn o'r un enw yn 1888 o Ddolgellau; yn agos i le bu Tom Ellis yn byw.[59]
20g
[golygu | golygu cod]- Gweler hefyd: Hanes modern Cymru
Gellid dadlau bod yr 20g yng Nghymru yn gyfnod a welodd fwy o newid yn y wlad nag yn ystod unrhyw gyfnod arall yn ei hanes. Yn chwarter cyntaf y ganrif roedd Cymru yn wlad Ryddfrydol o ran ei gwleidyddiaeth. Ond y Blaid Lafur oedd y blaid rymusaf yng Nghymru o'r 1930au ymlaen. Ffurfiwyd Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith a sefydlwyd Y Swyddfa Gymreig yn 1964 a Chynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999.[angen ffynhonnell]
Erbyn 1911 roedd 86,000 o bobl yn gweithio ar y rheilffyrdd ac yn nociau mawr y De. Ddechrau'r 20g disodlwyd haearngan ddur fel y prif fetel a oedd yn cael ei allforio o'r wlad. Roedd 3,700 yn gweithio mewn gwaith copr yn 1911 ac 21,000 mewn gwaith tun. Roeddent yn cynhyrchu 848,000 tunnell o blât tin mewn blwyddyn. Cynhyrchwyd 56.8 miliwn tunnell o lo yn 1913. Roedd Cymru yn allforio traean o holl allforion glo'r byd gan gyflogi 250,000 o ddynion ym meysydd glo'r de a'r gogledd-ddwyrain. Ond cafwyd dirywiad difrifol mewn nifer o'r diwydiannau traddodiadol ar ôl yr Ail Ryfel Byd, yn arbennig yn y meysydd glo. Ym 1913 cyflogid yn y gwaith glo 232,000 o ddynion, ond erbyn 1960 dim ond 106,000 a gyflogid a syrthiasai'r nifer i 30,000 yn unig erbyn 1979. Nid oedd ond un pwll glo ar ôl yng Nghymru erbyn y 1990au. Roedd dirywiad tebyg yn y diwydiant dur ac economi Cymru yn gyffredinol. Roedd Cymru fel nifer o wledydd eraill y gorllewin yn dod yn fwyfwy ddibynnol ar y sector gwasanaeth. Un o ganlyniadau'r dirywiad yn y diwydiant glo ac o ganlyniad esgeuluso diogelwch y tipiau glo oedd trychineb Aberfan, pan lyncwyd ysgol gyfan gan lithriad gwastraff glo gan ladd 144 o blant ac athrawon.[angen ffynhonnell]
Yn 1911 roedd gan Gymru boblogaeth o 2,400,000 gyda bron i 1,000,000 yn siarad Cymraeg. Dyma'r nifer fwyaf erioed ond eisoes roedd y Cymry Cymraeg yn lleiafrif. Ond lladdwyd nifer o Gymry ifainc yn y Rhyfel Byd Cyntaf, llawer ohonyn nhw'n siaradwyr Cymraeg. Cafodd Dirwasgiad Mawr y 1930au ei effaith hefyd a chredir fod tua 450,000 o bobl wedi ymfudo o'r wlad rhwng 1921 a 1939.[angen ffynhonnell]
Ar droad y ganrif roedd tua hanner poblogaeth Cymru yn aelodau o eglwys. Yn 1900 roedd gan y Methodistiaid Calfinaidd 158,111 o aelodau, yr Annibynwyr 144,000 a'r Bedyddwyr 106,000. Erbyn diwedd y ganrif darlun o ddirywiad enbyd a geir.[angen ffynhonnell]
Datganoli
[golygu | golygu cod]- Prif: Datganoli Cymru
Ar ddechrau'r 20g gwelwyd hefyd ffurfiant parhaus nifer o sefydliadau cenedlaethol Cymreig: 1911 - Llyfrgell Genedlaethol Cymru,[60] 1915 - Gwarchodlu Cymreig,[61] 1919 - Bwrdd Iechyd Cymru,[62] 1920 - Yr Eglwys yng Nghymru ar ôl datgysylltu'r Eglwys yng Nghymru yn dilyn Deddf Eglwysi Cymru 1914.[63] Ym 1925 sefydlwyd Plaid Genedlaethol Cymru; fe’i hailenwyd yn Blaid Cymru yn 1945. Egwyddorion y blaid a ddiffiniwyd yn 1970 oedd (1) hunanlywodraeth i Gymru, (2) diogelu diwylliant, traddodiadau, iaith a sefyllfa economaidd Cymru a (3) sicrhau aelodaeth i wladwriaeth Gymreig hunanlywodraethol yn y Cenhedloedd Unedig.[64]
Ar 1 Hydref 1949, bu rali ym Machynlleth er mwyn hybu Ymgyrch Senedd i Gymru, cyn ei lansio'n swyddogol ar 1 Gorffennaf 1950 mewn rali arall yn Llandrindod. Arweiniodd hyn at gyflwyno deiseb 240,652 o enwau i Dŷ’r Cyffredin yn 1956. Helpodd yr ymgyrch sefydlu Swyddfa Gymreig ac Ysgrifennydd Gwladol i Gymru. Methodd y refferendwm 1979 ond cafwyd Cynulliad Cenedlaethol yn 1997.[65] Pasiwyd Deddf Llywodraeth Cymru 1998 a ffurfio Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999. Trosglwyddodd y ddeddf bwerau o Ysgrifennydd Gwladol Cymru i'r Cynulliad (Senedd Cymru bellach).[66] Roedd sefydlu'r Cynulliad yn rhoi'r pŵer i bennu sut y caiff cyllideb llywodraeth ganolog Cymru ei gwario a’i gweinyddu, er bod Senedd y DU wedi cadw’r hawl i osod terfynau ar ei bwerau.[67]
21g
[golygu | golygu cod]- Gweler hefyd: Hanes modern Cymru a Datganoli Cymru
Bu nifer o ddatblygiadau o nod yn y brifddinas wedi agoriad Stadiwm y Mileniwm ym 1999,[68] megis agoriad Canolfan y Mileniwm yn 2004 fel canolfan ar gyfer cynnal digwyddiadau diwylliannol.[69] Dangosodd Cyfrifiad 2001 gynydd yn y nifer o siaradwyr Cymraeg, gyda 21% o'r boblogaeth 3 oed a hŷn yn gallu'r iaith, i gymharu â 18.7% ym 1991 ac 19.0% ym 1981. Mae hyn yn gyferbyniad i'r patrwm o leihad yn nifer y siaradwyr trwy gydol yr 20g.[70] Erbyn dechrau'r ganrif hon, roedd llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru bellach bron yn ddieithriad yn diffinio Cymru fel gwlad.[71][72]
Datganoli pellach
[golygu | golygu cod]Roedd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p 32) yn Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig a ddiwygiodd Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac sy’n caniatáu i bwerau pellach gael eu rhoi iddo’n haws. Mae’r Ddeddf yn creu system lywodraethu gyda gweithrediaeth ar wahân wedi’i thynnu o’r ddeddfwrfa ac yn atebol iddi.[73] Cwblhawyd adeilad newydd Senedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Chwefror 2006 ac agorwyd yn swyddogol ar Ddydd Gŵyl Dewi'r un flwyddyn.[69] Yn yr un flwyddyn pasiwyd ddeddf yn gwahaniaethu Llywodraeth Cymru oddi wrth y Cynulliad. Caniataodd y ddeddf i aelodau cynulliad i greu deddfwriaeth sylfaenol am y tro cyntaf.[74] Yn 2008 dywed Llywodraeth Cymru: "Nid yw Cymru yn Dywysogaeth. Er ein bod wedi ein huno â Lloegr gan dir, a'n bod yn rhan o Brydain Fawr, mae Cymru yn wlad yn ei rhinwedd ei hun."[75]
Yn 2011, pleidleisiodd etholwyr Cymru mewn refferendwm o blaid pwerau deddfu llawn i'r Cynulliad yn y meysydd y mae’n gyfrifol amdanynt. Pasiwyd Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 a oedd yn cynnwys trethu a benthyca a ddatganolwyd gan Ddeddf Cymru 2014. Gwnaeth Deddf Cymru 2017 Gynulliad Cenedlaethol Cymru'n rhan barhaol o gyfansoddiad y Deyrnas Unedig. Ar ôl pasio Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 newidiwyd enw'r Cynulliad Cenedlaethol i Senedd Cymru.[74]
Yn refferendwm 2016, pleidleisiodd Cymru o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, er i wahaniaethau demograffig ddod i’r amlwg. Yn ôl Danny Dorling, athro daearyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen, “Os edrychwch chi ar yr ardaloedd mwy gwirioneddol Gymreig, yn enwedig y rhai Cymraeg eu hiaith, doedden nhw ddim eisiau gadael yr UE.”[76]
Yn 2016, lawnsiwyd YesCymru. Ymgyrch anwleidyddol dros Gymru annibynnol a gynhaliodd ei rali gyntaf yng Nghaerdydd yn 2019.[77] Dangosodd arolwg barn ym mis Mawrth 2021, record o 39% o gefnogaeth i annibyniaeth i Gymru pan nad yw eithrio yn gwybod.[78]
Ar ôl Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, ailenwyd y Cynulliad Cenedlaethol yn 'Senedd Cymru' (a 'Welsh Parliament' yn Saesneg) y cyfeirir ati hefyd gyda'i gilydd fel y "Senedd"), a ystyriwyd fel adlewyrchiad gwell o bwerau deddfwriaethol ehangach y corff.[79]
Diwylliant Cymru |
---|
Traddodiad |
Llenyddiaeth |
Cerddoriaeth |
Bwyd |
Dathliadau a gwyliau |
Chwaraeon |
Crefydd |
Hanes |
WiciBrosiect Cymru |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Oesoedd Iâ a Phreswylwyr Ogofâu". Museum Wales. Cyrchwyd 2024-06-01.
- ↑ Higham, Tom; Compton, Tim; Stringer, Chris; Jacobi, Roger; Shapiro, Beth; Trinkaus, Erik; Chandler, Barry; Gröning, Flora et al. (2011-11). "The earliest evidence for anatomically modern humans in northwestern Europe" (yn en). Nature 479 (7374): 521–524. doi:10.1038/nature10484. ISSN 1476-4687. https://www.nature.com/articles/nature10484.
- ↑ Jacobi, R. M.; Higham, T. F. G. (2008-11-01). "The “Red Lady” ages gracefully: new ultrafiltration AMS determinations from Paviland". Journal of Human Evolution. Chronology of the Middle-Upper Paleolithic Transition in Eurasia 55 (5): 898–907. doi:10.1016/j.jhevol.2008.08.007. ISSN 0047-2484. https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0047248408001656.
- ↑ "Red Lady of Paviland: Campaign to return 33,000-year-old human skeleton to Swansea". ITV Wales. 2023.
- ↑ Sarah (2023-01-22). "Red Lady of Paviland: the story of a 33,000 year-old-skeleton – and the calls for it to return to Wales". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-06-01.
- ↑ "Ancient genomes indicate population replacement in Early Neolithic Britain". Nature. 2019.
- ↑ "Cymraeg – Coflein". coflein.gov.uk. Cyrchwyd 2024-06-01.
- ↑ "Cymraeg – Coflein". coflein.gov.uk. Cyrchwyd 2024-06-01.
- ↑ "Recent Excavations at Llandygai, near Bangor, North Wales" (PDF). 2008. t. 3.
- ↑ Burrow, Steve (2010-01). "Bryn Celli Ddu Passage Tomb, Anglesey: Alignment, Construction, Date, and Ritual" (yn en). Proceedings of the Prehistoric Society 76: 249–270. doi:10.1017/S0079497X00000517. ISSN 2050-2729. https://www.cambridge.org/core/journals/proceedings-of-the-prehistoric-society/article/abs/bryn-celli-ddu-passage-tomb-anglesey-alignment-construction-date-and-ritual/6A95DFB4ED16F57FFCC6501466424DF1.
- ↑ "Bryn Celli Ddu Passage Tomb, Anglesey: Alignment, Construction, Date, and Ritual".
- ↑ "Large-scale migration into Britain during the Middle to Late Bronze Age". Nature. 2021 [2020].
- ↑ Jones, Barri (1990). An atlas of Roman Britain. Internet Archive. Cambridge, Mass., USA : Blackwell. t. 42. ISBN 978-0-631-13791-7.
- ↑ 14.0 14.1 14.2 14.3 Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 37–52. ISBN 978-1-84990-373-8.
- ↑ Jones, Barri (1990). An atlas of Roman Britain. Internet Archive. Cambridge, Mass., USA : Blackwell. t. 42. ISBN 978-0-631-13791-7.
- ↑ Jones, Barri (1990). An atlas of Roman Britain. Internet Archive. Cambridge, Mass., USA : Blackwell. tt. 61, 179. ISBN 978-0-631-13791-7.
- ↑ Haywood, John (2014-07-10). The Celts: Bronze Age to New Age (yn Saesneg). Routledge. tt. 73–76. ISBN 978-1-317-87017-3.
- ↑ "Cornelius Tacitus, The Annals, BOOK XII, chapter 33". www.perseus.tufts.edu. Cyrchwyd 2024-06-01.
- ↑ Hughes, William (1894). A History of the Church of the Cymry: From the Earliest Period to the Present Time (yn Saesneg). E. Stock. t. 447.
- ↑ Jones, Barri (1990). An atlas of Roman Britain. Internet Archive. Cambridge, Mass., USA : Blackwell. t. 21. ISBN 978-0-631-13791-7.
- ↑ Penny Cyclopaedia of the Society for the Diffusion of Useful Knowledge (yn Saesneg). C. Knight. 1837. tt. 2–17.
- ↑ "Cambrian quarterly magazine and Celtic repertory | No. 20 - October 1 - 1833 | 1833 | Welsh Journals - The National Library of Wales". journals.library.wales (yn Saesneg). tt. 580–581. Cyrchwyd 2024-05-27.
- ↑ Cathrall, William (1860). A guide through North Wales, including Anglesey, Caernarvonshire, Denbighshire, Flintshire ... with a notice of the geology of the country, by A.C. Ramsay (yn Saesneg). t. 190.
- ↑ Hughes, William (1894). A History of the Church of the Cymry: From the Earliest Period to the Present Time (yn Saesneg). E. Stock.
- ↑ Hughes, William (1894). A History of the Church of the Cymry: From the Earliest Period to the Present Time (yn Saesneg). E. Stock. t. 114.
- ↑ Hughes, William (1894). A History of the Church of the Cymry: From the Earliest Period to the Present Time (yn Saesneg). E. Stock. tt. 62–63.
- ↑ Wade-Evans, Arthur W. (Arthur Wade) (1923). Life of St. David [microform]. Internet Archive. London : Society for Promoting Christian Knowledge; New York, Macmillan. tt. 24–27, 32.
- ↑ Davies, John (2014-01-02). Hanes Cymru (A History of Wales in Welsh). Penguin UK. ISBN 978-0-14-196172-9.
- ↑ 29.0 29.1 29.2 29.3 Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 53–66. ISBN 978-1-84990-373-8.
- ↑ Jewell, Helen M. (1994). The North-south Divide: The Origins of Northern Consciousness in England (yn Saesneg). Manchester University Press. t. 18. ISBN 978-0-7190-3804-4.
- ↑ 31.0 31.1 31.2 31.3 31.4 Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 67–82. ISBN 978-1-84990-373-8.
- ↑ Davies, Sean (2016-10-20). The First Prince of Wales?: Bleddyn ap Cynfyn, 1063-75 (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 2. ISBN 978-1-78316-937-5.
- ↑ 33.0 33.1 33.2 Davies, Sean (2016-10-20). The First Prince of Wales?: Bleddyn ap Cynfyn, 1063-75 (yn Saesneg). University of Wales Press. tt. 23–26. ISBN 978-1-78316-937-5.
- ↑ Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 83–88. ISBN 978-1-84990-373-8.
- ↑ R.R. Davies, Conquest, coexistence and change, tt. 28–30.
- ↑ "Cambrian quarterly magazine and Celtic repertory | No. 20 - October 1 - 1833 | 1833 | Welsh Journals - The National Library of Wales". journals.library.wales (yn Saesneg). t. 581. Cyrchwyd 2024-05-27.
- ↑ Maund, Kari The Welsh kings t. 110.
- ↑ J.E. Lloyd, A History of Wales, t. 398.
- ↑ Turvey, Roger (2013). Owain Gwynedd: Prince of the Welsh (yn Saesneg). Y Lolfa. tt. 11–26. ISBN 978-1-84771-694-1.
- ↑ Turvey, Roger (2013). Owain Gwynedd: Prince of the Welsh (yn Saesneg). Y Lolfa. tt. 35–43. ISBN 978-1-84771-694-1.
- ↑ Turvey, Roger (2013). Owain Gwynedd: Prince of the Welsh (yn Saesneg). Y Lolfa. tt. 49–51, 58, 68, 74. ISBN 978-1-84771-694-1.
- ↑ Turvey, Roger (2013). Owain Gwynedd: Prince of the Welsh (yn Saesneg). Y Lolfa. tt. 84–86. ISBN 978-1-84771-694-1.
- ↑ 43.0 43.1 Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 109–120. ISBN 978-1-84990-373-8.
- ↑ Johnes, Martin (2019-08-25). Wales: England's Colony (yn Saesneg). Parthian Books. tt. 37–40. ISBN 978-1-912681-56-3.
- ↑ "Oes y Tywysogion: Gorchfygu Cymru". HWB. Cyrchwyd 13 Mawrth 2020.
- ↑ Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 124–129. ISBN 978-1-84990-373-8.
- ↑ Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 137–144. ISBN 978-1-84990-373-8.
- ↑ Williams, Gruffydd Aled (2015). Dyddiau olaf Owain Glyndŵr. Y Lolfa. tt. 13–14, 20. ISBN 978-1-78461-156-9.
- ↑ Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 148–152. ISBN 978-1-84990-373-8.
- ↑ Johnes, Martin (2019-08-25). Wales: England's Colony (yn Saesneg). Parthian Books. tt. 65–69. ISBN 978-1-912681-56-3.
- ↑ Davies, Walter (1791). Rhyddid: traethawd a ennillodd ariandlws Cymdeithas y Gwyneddigion ar ei thestun i eisteddfod Llanelwy B.A. M, DCC, XC. Gan Walter Davies. 1791. Internet Archive. tt. 65–73.
- ↑ 52.0 52.1 Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 157–167. ISBN 978-1-84990-373-8.
- ↑ 53.0 53.1 53.2 53.3 53.4 Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 175–189. ISBN 978-1-84990-373-8.
- ↑ "BBC Wales - Eisteddfod - Guide - A brief history of the Eisteddfod". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2022-02-04.
- ↑ "FAW / Who are FAW?". www.faw.cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-02-04.
- ↑ "140 Years of the Welsh Rugby Union". Welsh Rugby Union | Wales & Regions (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-02-04.
- ↑ "History of the University of Wales - University of Wales". www.wales.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-02-04. Cyrchwyd 2022-02-04.
- ↑ Jones, Gareth Elwyn (1994-10-28). Modern Wales: A Concise History (yn Saesneg). Cambridge University Press. ISBN 978-0-521-46945-6.
- ↑ Jones, Wyn (1986). Thomas Edward Ellis, 1859-1899 (yn WELENG). Internet Archive. [Cardiff?] : University of Wales Press. t. 32. ISBN 978-0-7083-0927-8.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ "History of the Building | The National Library of Wales". www.library.wales. Cyrchwyd 2022-02-04.
- ↑ "Welsh Guards". www.army.mod.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-02-04.
- ↑ Records of the Welsh Board of Health (yn English). Welsh Board of Health. 1919–1969.CS1 maint: others (link) CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ "Welsh Church Act 1914".
- ↑ Lutz, James M. (1981). "The Spread of the Plaid Cymru: The Spatial Impress". The Western Political Quarterly 34 (2): 310–328. doi:10.2307/447358. ISSN 0043-4078. https://www.jstor.org/stable/447358.
- ↑ "Watch Rali Senedd i Gymru, Machynlleth 1949 online - BFI Player". player.bfi.org.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-05-25.
- ↑ Watkin, Thomas Glyn (2007). The Legal History of Wales. Cardiff: University of Wales Press. t. 197. ISBN 0-7083-2064-3.
- ↑ Powys, Betsan (12 January 2010). "The long Welsh walk to devolution". BBC News website. BBC. Cyrchwyd 26 September 2010.
- ↑ "Millennium Stadium website". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-13. Cyrchwyd 2009-09-08.
- ↑ 69.0 69.1 "The New National Assembly for Wales Senedd opened on St David's Day". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-03-11. Cyrchwyd 2009-09-08.
- ↑ Results of the 2001 Census from www.statistics.gov.uk
- ↑ "Countries within a country". 10 Downing Street website. 10 Downing Street. 10 January 2003. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 September 2008. Cyrchwyd 5 November 2010.
The United Kingdom is made up of four countries: England, Scotland, Wales and Northern Ireland.
- ↑ "UN report causes stir with Wales dubbed 'Principality'". WalesOnline website. Media Wales Ltd. 3 July 2010. Cyrchwyd 25 July 2010.
... the Assembly's Counsel General, John Griffiths, [said]: "I agree that, in relation to Wales, Principality is a misnomer and that Wales should properly be referred to as a country.
- ↑ "StackPath". www.instituteforgovernment.org.uk. Cyrchwyd 31 January 2022.
- ↑ 74.0 74.1 Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 37–52. ISBN 978-1-84990-373-8.
- ↑ "Wales.com FAQs". Wales.com website. Welsh Government. 2008. Cyrchwyd 24 August 2015.
- ↑ "English people living in Wales tilted it towards Brexit, research finds". The Guardian. 22 September 2019. Cyrchwyd 31 January 2022.
- ↑ Harries, Robert (8 November 2020). "The rise of Yes Cymru and why people are joining in their thousands". WalesOnline. Cyrchwyd 31 January 2022.
- ↑ "Westminster warned as poll shows record backing for Welsh independence". The Guardian. 4 March 2021. Cyrchwyd 31 January 2022.
- ↑ "History of devolution". senedd.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-01-31.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Ceir llyfryddiaethau mwy penodol yn yr erthyglau ar y cyfnodau unigol. Rhoddir yma ddetholiad o lyfrau ar hanes Cymru yn gyffredinol neu am gyfnodau sylweddol, e.e. Cymru yn y Cyfnod Modern.
- John Davies, Hanes Cymru