Neidio i'r cynnwys

Hama

Oddi ar Wicipedia
Hama
Mathdinas, dinas fawr, populated place in Syria Edit this on Wikidata
Poblogaeth696,863 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iMadrid, Santiago del Estero Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirHama Subdistrict Edit this on Wikidata
GwladBaner Syria Syria
Uwch y môr289 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.13°N 36.75°E Edit this on Wikidata
Map
Tri noria ar Afon Orontes yn Hama
Yr Eglwys Uniongred Rufeinig yn Hama

Dinas hanesyddol yng ngorllewin canolbarth Syria ar lan Afon Orontes yw Hama, i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Homs. Hama yw prifddinas y dalaith o'r un enw (Hama). Ystyr yr enw Arabeg Hama yw "caer".

Mae'r ddinas yn enwog am ei holwynion dŵr hynafol (a elwir noria), rhai ohonyn nhw'n dyddio o gyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig, yn ôl traddodiad.

Hanes cynnar

[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y ddinas gan yr Hitiaid. Am ganrifoedd lawer newidiai dwylo rhwng grymoedd mawr y Dwyrain Canol megis yr Aifft hynafol ac Assyria.

Y cyfnod Clasurol a Byzantaidd

[golygu | golygu cod]

Yn sgîl ei chwncwest gan Alecsander Fawr rhoddwyd iddi'r enw Epiphania, efallai er anrhydedd y brenin Antiochus Epiphanes. Mae'r haneswyr Byzantaidd Aquila a Theodoretus yn ei galw Emath-Epiphania. Yn ddiweddarach daeth y ddinas dan reolaeth yr Ymerodraeth Rufeinig ac wedyn yr Ymerodraeth Fysantaidd, fel rhan o dalaith Syria Secunda.

Yr Oesoedd Canol

[golygu | golygu cod]

Cipiwyd Hama oddi wrth y Byzantiaid gan yr Arabiaid yn O.C. 638 neu 639.

Newidiai dwylo fwy nag unwaith yn ystod y Croesgadau. Fe'i cipiwyd gan Tancred yn 1108, ond yn 1115 collodd y Francod eu gafael arni'n derfynol. Yn 1179, ganwyd y daearyddwr Arabaidd Yaqut al-Hamawi (1179-1229) yno. Yn 1188 fe'i meddianwyd gan Saladin ac arosai dan reolaeth ei deulu, yr Ayyubidiaid, nes iddi basio dan reolaeth y Mamlukiaid Eifftaidd yn 1299. Un o lywodraethwyr cynnar Hama dan y Mamlukiaid oedd yr haneswr a daearyddwr Abu al-Fida, o 1310 hyd 1330.

Yr Otomaniaid

[golygu | golygu cod]

Ar ddechrau'r 16g daeth Hama dan reolaeth Ymerodraeth yr Otomaniaid. Codid nifer o garafanserau (ar gyfer teithwyr) neu khanau, ynghyd â phalas hardd Al-Azem Palace yn y cyfnod hwnnw. Roedd Hamah (Twrceg) yn ddinas o 45,000 o drigolion, ac yn gartref i'r Mutessarif (llywodraethwr), dan awdurdod Damascus. Mwslemiaid oedd y mwyafrif o'r trigolion, ond ceid tua 10,000 o Gristnogion yno yn ogystal, yn perthyn i sawl eglwys ac enwad.

Yr ugeinfed ganrif

[golygu | golygu cod]

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf daeth Hama dan mandad Cynghrair y Cenhedloedd Taleithiau Ffrengig y Lefant ac yn 1941 daeth yn rhan o'r Syria annibynnol.

Cyflafan Hama

[golygu | golygu cod]

Ar ddechrau'r 1980au roedd nifer o grwpiau Islamaidd yn ceisio cynneu gwrthryfel yn Syria yn erbyn y llywodraeth seciwlar Ba'athaidd. Un o'r grwpiau mwyaf oedd y Frawdoliaeth Fwslemaidd a arweiniodd wrthryfel ym mis Chwefror, 1982. Bu ymgais aflwyddiannus i lofruddio'r Arlywydd Assad yn Damascus. Cadarnle'r gwrthryfelwyr oedd Hama, ac er mwyn dial arnyn nhw a'u trechu ymosododd byddin Syria, dan arweiniaeth Rifaat al-Assad, brawd yr arlywydd. Dioddefodd ran helaeth o'r hen ddinas ddifrod sylweddol yn ystod yr ymosodiad; mae Amnesti Rhyngwladol yn amcangyfrif fod tua 10,000 o bobl wedi'u lladd yn yr ymosodiad ond mae llywodraeth y wlad yn gwrthod trafod y digwyddiad, sy'n bwnc tabŵ yn Syria hyd heddiw.

Economi

[golygu | golygu cod]

Erbyn heddiw mae'r ddinas yn ganolfan fasnach ranbarthol ac yn farchnad i gynnyrch amaethyddol y rhanbarth. Oherwydd amgylchiadau gwleidyddol y Dwyrain Canol yn ddiweddar nid yw twristiaeth mor bwysig ag y bu ar un adeg ond erys Hama yn gylchfan deniadol i breswylwyr dinasoedd mawr Syria, yn arbennig dinesyddion Damascus ac Aleppo.