Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, Rhithwir
Sgrinlun Ciplun 2012 | |
URL | VIAF.org |
---|---|
masnachol | Nac ydy |
math o safle | Peiriant chwilio, catalog ar-lein cynhoeddus |
cofrestru | Nag oes |
ieithoedd | Saesneg |
perchennog | OCLC |
crëwyd gan | Prosiect rhwng 4 corff llyfrgellyddol |
statws ar hyn o bryd | Gweithredol |
Math o ffeil i adnabod pobl drwy ddata unigol, unigryw yw Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, Rhithwir (Saesneg: Virtual International Authority File (VIAF)). Mae'n ffrwyth prosiect rhwng pedwar awdurdod ym myd llyfrgelloedd ac yn cael ei weithredu gan y Ganolfan Lyfrgelloedd Gyfrifiadurol Ar-lein (Online Computer Library Center (OCLC)).[1][2] Sbardunwyd y gwaith cychwynnol gan y Deutsche Nationalbibliothek (llyfrgell genedlaethol yr Almaen) a Llyfrgell y Gyngres yn yr UDA.
Y nod ydy dolennu'r ffeiliau awdurdodedig hyn (megis 'Ffeiliau Enwau Awdurdodedig yr Almaen') i un ffeil rithwir. Mae'r ffeil newydd hon yn uno nifer o gronfeydd data o wahanol lefydd mewn un lle. Mae'r cofnod VIAF yn derbyn rhif data safonol ac mae'n cynnwys cofnodion ar gyfer 'Gweler' a 'Gweler hefyd' - wedi'u tynnu o'r cofnodion unigol, gwreiddiol. Cyhoeddir y data ar-lein am ddim a chant eu defnyddio'n helaeth ar gyfer gwaith ymchwilio, cyfnewid a rhannu data.
Caiff y data eu diweddaru gan sawl parti, drwy brotocol 'Menter yr Archifdy Agored' (the Open Archives Initiative).
Mae rhifau unigryw'r ffeiliau'n cael eu hychwanegu at erthyglau Wicipedia e.e. bywgraffiadau, a hynny mewn llawer o ieithoedd gan gynnwys y Gymraeg.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Kelley, Michael; Schwartz, Meredith (2012). "VIAF service transitions to OCLC". Library Journal (Media Source Inc.) 137 (8): 16.
- ↑ VIAF, OCLC, https://www.oclc.org/viaf/.
- ↑ VIAFbot Edits 250,000 Wikipedia Articles to Reciprocate All Links from VIAF into Wikipedia, OCLC, 2012-12-07, https://www.oclc.org/research/news/2012/12-07a.html
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Awdurdod Rheolaeth
- Wicipedia:ORCID
- Adnabyddwr Enw Rhyngwladol Safonol International Standard Name Identifier
- Gemeinsame Normdatei
- Categori:Tudalennau gyda gwybodaeth Awdurdod