Fernando Alegría
Fernando Alegría | |
---|---|
Ganwyd | 26 Medi 1918 Santiago de Chile |
Bu farw | 29 Hydref 2005 o methiant yr arennau Walnut Creek |
Dinasyddiaeth | Tsile |
Addysg | doethuriaeth |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, bardd, beirniad llenyddol |
Swydd | diplomydd |
Cyflogwr |
|
Arddull | barddoniaeth, traethawd |
Mudiad | Generation of '38 |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Atenea |
Nofelydd, awdur straeon byrion, bardd, ac academydd o Tsile oedd Fernando Alegría (26 Medi 1918 – 29 Hydref 2005).
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Fernando Alegría ar 26 Medi 1918 yn Santiago de Chile. Astudiodd ym Mhrifysgol Tsile, a derbyniodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Califfornia, Berkeley yn 1947.
Gyrfa lenyddol
[golygu | golygu cod]Cyhoedodd ei nofel gyntaf, Recabarren, yn 1938. Ymhlith ei nofelau eraill mae Coral de guerra (1979), El paso de los gansos (1980), a La rebelión de los placeres (1990).[1]
Gyrfa academaidd
[golygu | golygu cod]Addysgodd yn Berkeley nes iddo symud i Brifysgol Stanford yn 1967, a bu yno nes iddo ymddeol yn 1988, pryd cafodd ei benodi'n athro emeritws.
Er iddo ymsefydlu yng Nghaliffornia, cadwodd Alegría ei gysylltiadau â'i famwlad a bu'n teithio i Tsile pob blwyddyn. Yn sgil etholiad ei hen gyfaill Salvador Allende yn arlywydd y wlad yn 1970, penodwyd Alegría yn swyddog diwylliannol. Wedi'r coup d'état yn 1973, diddymwyd ei basport gan y llywodraeth filwrol a ni chafodd Alegría yr hawl i ddychwelyd i Tsile nes 1986. Fe sefydlodd gylchgrawn llenyddol ar gyfer ei gyd-Tsileaid alltud.[2]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Priododd â Carmen Letona Meléndez, myfyrwraig meddygaeth o El Salfador, yn 1943 a chawsant dwy ferch a dau fab. Bu farw Carmen yn 1994.[2]
Bu farw Alegría yn ei gartref yn Walnut Creek, ger Oakland, ar 29 Hydref 2005 o fethiant yr aren, yn 87 oed.[2][3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Lucía Guerra, "Alegría, Fernando" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t. 9.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Tyche Hendricks, "Fernando Alegría -- scholar of Latin American authors", SFGate (20 Tachwedd 2005). Adalwyd ar 19 Awst 2019.
- ↑ (Saesneg) Mary Rourke, "Fernando Alegria, 87, Chilean Exile Raised the Profile of Latin Writers", Los Angeles Times (23 Tachwedd 2005). Adalwyd ar 19 Awst 2019.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Moraima de Semprún Donahue, Figuras y contrafiguras en la poesía de Fernando Alegría (Pittsburgh: Latin American Literary Review Press, 1981).
- Academyddion Prifysgol Califfornia, Berkeley
- Academyddion Prifysgol Stanford
- Academyddion yr 20fed ganrif o Tsile
- Beirdd yr 20fed ganrif o Tsile
- Beirdd Sbaeneg o Tsile
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Califfornia, Berkeley
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Tsile
- Genedigaethau 1918
- Llenorion straeon byrion yr 20fed ganrif o Tsile
- Llenorion straeon byrion Sbaeneg o Tsile
- Marwolaethau 2005
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o Tsile
- Nofelwyr Sbaeneg o Tsile
- Pobl o Santiago de Chile
- Pobl fu farw yng Nghaliffornia
- Pobl fu farw o fethiant yr aren
- Ysgolheigion Sbaeneg o Tsile