David Halberstam
Gwedd
David Halberstam | |
---|---|
Ganwyd | 10 Ebrill 1934 Dinas Efrog Newydd |
Bu farw | 23 Ebrill 2007 Menlo Park |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | hanesydd, llenor, newyddiadurwr |
Cyflogwr | |
Priod | Elżbieta Czyżewska |
Gwobr/au | Gwobr Norman Mailer, Gwobr Elijah Parish Lovejoy, Gwobr George Polk, Gwobrau Llyfrau Americanaidd, Pulitzer Prize for International Reporting |
Newyddiadurwr ac awdur o'r Unol Daleithiau oedd David Halberstam (10 Ebrill 1934 – 23 Ebrill 2007).[1] Roedd yn ohebydd rhyfel yn Fietnam yn ystod yr argyfwng Bwdhaidd a Rhyfel Fietnam, ac enillodd Wobr Pulitzer ym 1964 am ei adroddiadau o'r wlad honno.[2] Roedd yn rhan o garfan o newyddiadurwyr, gan gynnwys Peter Arnett a Malcolm Browne, a gafodd ffrae yng Ngorffennaf 1963 gyda heddlu cudd Ngô Đình Nhu. Ei lyfr enwocaf yw The Best and the Brightest (1972), hanes o weinyddiaethau'r Arlywydd Kennedy a'r Arlywydd Johnson a sut y ddatblygodd bolisi tramor Americanaidd yn y 1960au i ddanfon lluoedd i Fietnam.[3][4]
Bu farw mewn damwain ffordd yn Menlo Park, Califfornia.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Hodgson, Godfrey (25 Ebrill 2007). Obituary: David Halberstam. The Guardian. Adalwyd ar 8 Mai 2013.
- ↑ (Saesneg) Haberman, Clyde (24 Ebrill 2007). David Halberstam, 73, Reporter and Author, Dies. The New York Times. Adalwyd ar 8 Mai 2013.
- ↑ (Saesneg) Obituary: David Halberstam. The Daily Telegraph (25 Ebrill 2007). Adalwyd ar 8 Mai 2013.
- ↑ (Saesneg) Obituary: David Halberstam. The Economist (3 Mai 2007). Adalwyd ar 8 Mai 2013.
- ↑ (Saesneg) Weil, Martin a Lamb, Yvonne Shinhoster (24 Ebrill 2007). David Halberstam, 1934-2007: Author Uncloaked Vietnam Blunders. The Washington Post. Adalwyd ar 8 Mai 2013.
Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.