Neidio i'r cynnwys

Chott

Oddi ar Wicipedia
Chott
Delwedd:Chott Melrhir.JPG, Djerid6.jpg
Daearyddiaeth
GwladAlgeria, Tiwnisia Edit this on Wikidata

Mae chott (enw Arabeg) yn llyn halen a geir yng ngogledd y Sahara, ac yn arbennig yn Algeria a Nhiwnisia. Arosent yn sych ac eithrio pan geir cawod o law - sy'n ddigwyddiad eithaf anghyffredin.

Yn y llun gwelir Chott El-Jerid (neu Chott El Djerid), chott anferth 5000 km² ger tref Tozeur yn ne Tiwnisia. Fe'i croesir gan y briffordd rhwng Tozeur a Kebili ar glawdd 2m uwchben wyneb y chott ei hun.