Chalcolithig
Enghraifft o'r canlynol | cyfnod archaeolegol |
---|---|
Rhan o | Oes yr Efydd, Oes Newydd y Cerrig |
Dechreuwyd | 75 g CC |
Daeth i ben | 55 g CC, 2500 (yn y Calendr Iwliaidd) CC |
Rhagflaenwyd gan | Oes Newydd y Cerrig |
Olynwyd gan | Oes yr Efydd |
Yn cynnwys | Late Chalcolithic, Early Chalcolithic |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae cyfnod y Chalcolithig (Groeg: khalkos + lithos 'carreg gopr') neu Oes y Copr (a elwir hefyd yn Eneolithig (Aeneolithig)), yn gam yn natblygiad diwylliant y ddynolryw a welodd ymddangosiad graddol yr offer metel cyntaf a ddefnyddid ochr yn ochr ag offer carreg. Mae'r term(au) a'i ddefnydd gan archaeolegwyr yn amrywio'n fawr.
Yn draddodiadol mae llenyddiaeth archaeoleg Ewropeaidd yn osgoi defnyddio'r term 'chalcolithig' (gan ddefnyddio'r term 'Oes y Copr' yn ei le), tra bod archaeolegwyr yn y Dwyrain Canol ar y llaw arall yn ei ddefnyddio'n rheolaidd. Y rheswm am hynny yw bod y chalcolithig wedi dechrau'n gynharach o lawer yn yr ardal honno, tra bod y newid o'r cyfnod chalcolithig byr a gafwyd yn Ewrop i Oes yr Efydd yn llawer mwy sydyn (am fod y dechnoleg newydd wedi dod i Ewrop o'r Dwyrain Canol).
Mae'r cyfnod yn un o drawsnewid rhwng y Neolithig (Oes y Cerrig) ac Oes yr Efydd, sy'n gorwedd y tu allan i'r hen system tair oes ar gyfer Cynhanes. Ymddengys fod pobl yn araf i ddefnyddio copr, efallai'n bennaf am ei bod yn fetel gymharol brin a meddal, a'i bod wedi cael ei chymysgu gyda thun a metelau eraill yn gynnar iawn; ffaith sy'n ei gwneud hi'n anodd i wahaniaethu rhwng y gwahanol diwylliannau Chalcolithig a'u dosbarthu'n drefnus.
Y canlyniad yw bod y term yn tueddu i gael ei ddefnyddio mewn rhai lleoedd yn unig, yn bennaf yn ne-ddwyrain Ewrop a gorllewin a chanolbarth Asia (o tua'r 4ydd milenniwm CC ymlaen). Fe'i defnyddir weithiau i ddisgrifio rhai o wareiddiaid yr Amerig yn y cyfnod yn union cyn dyfodiad yr Ewropeiaid yn ogystal.
O 4300 i 3200 CC yn y cyfnod Chalcolithig, mae Gwareiddiad Dyffryn Indus yn dangos cyfatebiaethau ceramig gyda diwylliannau cynnar de Tyrcmenistan a gogledd Iran, sy'n awgrymu teithio a masnachu ar raddfa sylweddol.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Parpola, Asko: Study of the Indus Script, tud. 2, 3.