Neidio i'r cynnwys

Cawr

Oddi ar Wicipedia
Cawr
Mathmythic humanoid Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebcorrach Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Am ystyron eraill, gweler Cawr (gwahaniaethu).
Y Pair Dadeni yn cael ei dwyn o'r llyn gan y cawr Llasar Llaes Gyfnewid, gyda'i wraig Cymydei Cymeinfoll yn ei ddilyn (ail argraffiad cyfieithiad yr Arglwyddes Charlotte Guest o'r Mabinogi, 1877), i ddarlunio chwedl Branwen ferch Llŷr)

Bod dynol neu led-ddynol o faintioli a nerth mawr yw cawr (benywaidd: cawres; lluosog: cewri). Ceir chwedlau am gewri ym mytholeg a llên gwerin sawl diwylliant ledled y byd. Credir bod rhai o'r chwedlau niferus amdanynt yn hynafol iawn.

Ym mytholeg y Celtiaid mae gan gewri le amlwg. Ceir sawl enghraifft o gewri Cymreig, e.e. Bendigeidfran yn y Mabinogi ac Idris Gawr o Gader Idris. Cawr enwocaf traddodiad Iwerddon yw Fionn mac Cumhaill (Finn McCool). Yn chwedlau Llychlyn mae'r cewri yn elynion ystrywgar i'r duwiau ac yn byw ym mynyddoedd Jotunheimen ("Cartref y Cewri"). Ym mytholeg Roeg ceir y gigantes a'r Titaniaid yn ymladd â'r duwiau. Yn yr Hen Destament mae Dafydd yn gorchfygu'r cawr Goliath.

Fe'i disgrifir yn aml yn greaduriaid dynol neu led-ddynol hynod gryf sy'n byw yn hir o lawer na bodau dynol cyffredin ac felly yn ennill gwybodaeth anghyffredin hefyd; sêr-ddewinydd yw Idris, er enghraifft. Ond ceir ochr arall i'r traddodiad hefyd, a thueddir i bortreadu cewri mewn chwedlau gwerin fel creaduriaid grymus ond twp sydd weithiau'n hoff o fwyta pobl, yn enwedig plant: mae'r cewri hyn yn debyg iawn i'r trols a'r ellyllon.

Arthur yn ymladd â chawr (darlun: Walter Crane)

Ceir dosbarth arbennig o chwedlau sy'n ymwneud ag arwyr, yn cynnwys y Brenin Arthur, yn ymladd â chewri fel Rhita Gawr. Dosbarth arall o chwedlau'r cewri yw'r rhai sy'n ymwneud ag arwr yn ceisio ennill llaw merch y cawr, thema llên gwerin ryngwladol a geir yn y chwedl Gymraeg Culhwch ac Olwen lle mae Culhwch, gyda chymorth marchogion Arthur ac eraill, yn ceisio llaw Olwen, merch y cawr Ysbaddaden Bencawr.

Yn llên gwerin gwledydd Prydain ac Iwerddon, cysylltir y cewri â meini hir a safleoedd cyn-hanesyddol eraill. Chwedl gyffredin yw'r honno sy'n ceisio esbonio meini anferth fel rhai a daflwyd gan gewri. Mae dosbarth arall o chwedlau yn esbonio carneddi cyn-hanesyddol fel llwythi a adawyd gan gewri, yn aml ar ôl iddynt ddigalonni ar eu taith ar ôl cael eu twyllo gan wladwr i feddwl fod y daith yn rhy bell; ceir sawl 'Barclodiad y Gawres' yng Nghymru am hynny.

Cofnodir enwau dros hanner cant o gewri Cymreig gan yr hynafiaethydd Siôn Dafydd Rhys (dechrau'r 17g). Maent yn cynnwys Idris Gawr sy'n byw ar Gader Idris a Rhita Gawr a gysylltir â'r Wyddfa yn Eryri ac Aran Benllyn ym Meirionnydd.

Rhestr o gewri Cymru

[golygu | golygu cod]

Mae Siôn Dafydd Rhys, ar ddiwedd yr 16g yn rhestru cynifer â 72 o gewri.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
  • The Giants of Wales (cyh. 1993) gan yr ysgolhaig o Texas, Chris Grooms

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  • T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-custom (D. S. Brewer, 1930; argraffiad newydd 1979), 'Giants, Hags and Monsters'.