Neidio i'r cynnwys

Camanachd

Oddi ar Wicipedia
Camanachd
Mathchwaraeon tîm, chwaraeon peli, hoci Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Chwarae camanachd.

Chwaraeon cyswllt llawn Albanaidd ydy Camanachd neu Iomain (Saesneg: Shinty). Chwaraeir y gamp gyda ffon a phêl. Yn Ucheldiroedd yr Alban y dechreuodd y gêm, ac ucheldirwyr wedi symud i ddinasoedd yr Alban sy'n ei chwarae gan mwyaf ond tan yn ddiweddar arferid ei chwarae yn Lloegr a rhai gwledydd eraill ble gwelid mewnlifiad o Ucheldiroedd yr Alban.[1] Gelwir y gêm yn "hoci heb reolau" gan un chwaraewr.

Mae'r gêm yn perthyn i deulu campau hoci sy'n boblogaidd ar draws y byd mewn gwahanol ffurfiau. Mae'n debyg i [[Hyrli|hyrli] yn yr Iwerddon ac i'r gêm werin Bando a arferid ei chwarae yng Nghymru.

Rheolau

[golygu | golygu cod]

Ceir dau dîm o 10 (mewn gemau dynion) a 12 (mewn gemau menywod).

Rhaid defnyddio'r ffon, a elwir yn canon i fwrw'r bêl fewn i'r gôl. Mae'r cae rhwng 140-170 llath o hyd a rhwng 70 - 80 llath ar draws. Mae'r gôl ei hun llawer llai na rhai pêl-droed neu hyrli ac ond 12 llath ar draws a 10 llath o uchder, sy'n rhoi iddynt siâp mwy sgwâr nag hirsgwâr.

Yn wahanol i hoci gellir defnyddio traed i stopio'r bêl, a defnyddir dwy ochr o'r ffon. Chwaraeir y gêm mewn dwy hanner 45 munud o hyd, sef 90 mewn cyfanswm ond gydag amser ychwanegol os oes angen oherwydd anafiadau ayyb.[2]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolenni allannol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Shinty in England, pre-1893 Archifwyd 2009-09-01 yn y Peiriant Wayback, The Sports Historian, 19:2(1999), 43–60
  2. "The Rules of Shinty". Sianel Youtube Ninh Ly. 2017.
Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato