Bhartrihari
Bhartrihari | |
---|---|
Ganwyd | 570 |
Bu farw | 651 |
Galwedigaeth | ieithydd, bardd, llenor |
Blodeuodd | 7 g, 5 g, 7 g |
Athronydd a bardd yn yr iaith Sansgrit oedd Bhartrihari (fl. 5g, neu'r 6g efallai). Cyfansoddodd y Satrakatraya, casgliad o gerddi Sansgrit mewn tair rhan sy'n ymdrin â doethineb gwleidyddol, serch erotig, ac ymwrthod â'r byd a'i bethau. Yn ogystal mae'n awdur tybiedig traethawd bwysig ar athroniaeth iaith.
Ei fywyd
[golygu | golygu cod]Ychydig a wyddom am fywyd Bhartrihari. Roedd yn byw rhywbryd rhwng canol y 5g a diwedd y chweched (neu mor ddiweddar â thua 570-650 efallai). Ceir mwy nag un un traddodiad amdano. Mae traddodiad poblogaidd India yn ei bortreadu fel brenin a ddiflasodd ar y byd a'i gariadon niferus ond arwynebol ac a droes ei gefn ar gymdeithas i fyw fel meudwy. Mae traddodiad arall yn dweud ei fod yn fardd llys yng ngwasanaeth brenin Maitraka teyrnas Valabhi ac yn frawd i'r brenin enwog Vikramaditya. Yn ôl y teithiwr Tsieineaidd I-tsing (fl. 670), fodd bynnag, yr oedd Bhartrihari yn ramadegwr Sansgrit o fri a Bwdhydd.
Ei waith
[golygu | golygu cod]Ei brif waith yw'r Satrakataya (Y Tair sataka neu ganrif):
- Sringara-sataka, ar serch a'r nwydau.
- Niti-sataka, ar ddoethineb bydol, yn arbennig ynghylch gwleidyddiaeth a moes ymarferol.
- Vairagya-sataka, ar ymwrthod ar y byd a byw'r bywyd ysbrydol
Dim ond y cyntaf sy'n cael ei dderbyn gan bawb fel gwaith dilys y bardd. Bardd serch telynegol yw Bhartrihari, yn y traddodiad Indiaidd clasurol. Merched yw ffynhonnell pob pleser a llawenydd ond mae serch yn dwyllodrus a diflanedig. Mae ganddo synnwyr hiwmor ac eironi mwyn ac mae ei gerddi yn llawn o drosiadau disglair a synhwyrus.
Priodolir i Bhartrihari ddau waith arall yn ogystal, ond mae eu hawduraeth yn ansicr:
- Ravana-vadha, cerdd hir a phedantig braidd am weithgareddau arwrol y duw Rama.
- Vakya-padiya, traethawd ar farddoni, gramadeg ac llefaru. Mae hyn yn waith enwog a dylanwadol ar athroniaeth iaith ond nid oes sicrwydd mai Bhartrihari a'i sgwennodd.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Gwaith Bhartrihari
[golygu | golygu cod]- J.M. Kennedy (cyf.), The Satakas or Wise Sayings of Bhartrihari (Llundain, d.d.)
- Barbara Stoler Miller (cyf.), Bhartrihari and Bilhana: The Hermit and The Love-Thief (1967; argraffiad newydd, Penguin India, Delhi Newydd, 1990). ISBN 0-14-044584-6
Llyfrau amdano
[golygu | golygu cod]- G. Sastri, The Philosophy of Word and Meaning. Some Indian Approaches with Special Reference to the Philosophy of Bhartrihari (Calcutta, 1959)
- Benjamin Walker, Hindu World. An encyclopedic survey of Hinduism (Indus Publications, Delhi Newydd, 1995, 2 gyfrol), Cyfrol 1, d.g. 'Bhartrihari'. ISBN 81-7223179-2