BMW i3
BMW I3 | |
---|---|
2014 BMW i3 | |
Trosolwg | |
Gwneuthurwr | BMW |
Enw arall | BMW Mega City Vehicle |
Cynhyrchu | 2013–presennol |
Sawl blwyddyn | 2014–presennol |
Gosod | Leipzig, yr Almaen |
Cynllunydd | Richard Kim[1][2] |
Corff a siasi | |
Dosbarth | Car-i'r-ddinas |
Math o gorff | 5-drws hatchback |
Trefn | Periant tua'r cefn, gyriant olwynion cefn |
Pwer | |
Peiriant | 25 kW 647 cc, generadur dwy silindr (opsiynol) gyda cynhwyedd tanc-llawn o 9 L (2.4 US galwyn) yn Ewrop 7.2 L (1.9 US galwyn) in the U.S. yn UDA[3][4] |
Modur trydan | 125 kW (168 bhp)[5] |
Trosglwyddiad | Un cyflymder gyda chymhareb sefydlog (Single speed with fixed ratio) |
Batri | 22 (18.8 defnyddiol) kWh batri lithiwm-ion[6] |
Dim ond ar drydan | Cerbyd gyriant batri trydan 130 km (81 mi) Asiantaeth Gwarchod yr Amgylchedd (UDA)[7] [convert: precision too large] NEDC Range extender 116 km (72 mi) (EPA) Cyfanswm: 240 km (150 mi) (EPA)[8] |
Gorsaf bweru | 7.4 kW |
Maint | |
Pellter rhwng echelydd (Wheelbase) | 2,570 mm (101 mod) |
Hyd | 3,999 mm (157.4 mod) |
Lled | 1,775 mm (69.9 mod) |
Uchder | 1,578 mm (62.1 mod) |
Pwysau pafin | 1,195 kg (2,635 lb) |
Car trydan 5-drws ydy'r BMW i3, a elwid yn wreiddiol yn Mega City Vehicle (MCV). Fe'i gwneir gan y cwmni Almaenig BMW ac mae'n rhan o'u "Project i".[9][10][11] Dyma fodel cyntaf BMW heb allyriant sydd wedi'i fas-gynhyrchu a BMW yw'r cyntaf i greu car wedi'i wneud o bolymer a atgyfnerthwyd gan garbon-ffibr, sy'n gwella effeithiolrwydd a'r defnydd o ynni.
Yn Rhifyn Haf 2016 o gylchgrawn gwerthuso ceir Top Gear, derbyniodd y BMW i3 9 marc allan o 10: un o'r ychydig geir i dderbyn marciau mor uchel.[12] Nodwyd fod y car hwn yn torri tir newydd: "the most revolutionary mainstreem car yet". Erbyn Haf 2016 roedd BMW yn cynnig range extender i'w alluogi i fynd ymhellach ar lond batri o drydan, am gost o £34,130 yn hytrach na £30,980 am gar heb yr estyniad hwn.
Gall Y BMW i3 gyrraedd pellter o rhwng 130 – 160 km (80 - 100 mi) dan amgylchiadau a nodir yng Nghylch Gyrru Newydd Ewrop (New European Driving Cycle) (NEDC), a hyd at 200 km (120 mi) ar ei fwyaf effeithiol. Dan amgylchiadau a nodir gan Asiantaeth yr Amgylched (UDA), y pellter swyddogol ydy 130 km (81 mi) ac economi tanwydd o 124 milltir y galwyn cywerth —MPGe— (1.90 L/100 km; 149 mpg imp). Cynigia BMW fodel sydd a phellter o 260 – 290 km (160 - 180 mi), sef y i3 REx, gyda pheiriant petroliwm 647 cc dwy silindr a thanc tanwydd bychan sy'n cicio i mewn pan fo'r batri bron a gwacáu. Mae'r peiriant hwn yn gweithio fel generadur sy'n cynhyrchu trydan sydd yn ei dro'n gyrru'r olwynion. Ym Mehefin 2015 dyma'r cerbyd trydan mwyaf effeithiol o ran tanwydd, a gynhyrchwyd yn fyd-eang, a'r i3 REx yw'r car trydan ardystiedig mwyaf effeithiol gyda pheiriannau petroliwm.[7]
Dadorchuddiwyd y car am y tro cyntaf yn Sioe Cerbydau Rhyngwladol yr Almaen yn 2011 a rhowliwyd y car adwerthol i'r cwsmer yng Ngorffennaf 2013. Yn 2015 roedd y pris gwerthu yn US$42,275 cyn nawdd llywodraeth yn yr UDA a'r i3 REx yn US$3,850 ychwanegol. Yng ngwledydd Prydain mae'r car ar werth am £30,680 (US$47,195) cyn nawdd. Hyd at Rhagfyr 2015 gwerthwyd 41,586 o gerbydau ledled y byd, y trydydd gorau, o holl geir trydan-yn-unig.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Toyota Prius
- Nissan Leaf
- Car solar
- Powerwall: Batri lithiwm-ion aildrydanadwy.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Richard Kim - Exterior Designer BMW i3 i8. YouTube. Cyrchwyd 2013-03-10.
- ↑ Phil Patton (2011-11-10). "At BMW's New Electric Subbrand, a Young Designer Makes His Mark". New York Times. Cyrchwyd 2014-02-09.
- ↑ BMW USA. "The BMW i3 with Range Extender - Features & Specs". BMW USA. Cyrchwyd 2014-05-25.
- ↑ BMW USA. "The BMW i3 - Features & Specs". BMW USA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-26. Cyrchwyd 2014-05-25.
- ↑ BMW i. "BMW i3 Technical Data: BMW eDrive". BMW. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-03. Cyrchwyd 2015-10-04.
- ↑ "BMW i3 Technical Data". Cyrchwyd 2014-03-19.
- ↑ 7.0 7.1 United States Environmental Protection Agency and U.S. Department of Energy (2015-12-04). "Compare Side-by-Side: 2014/2015 BMW i3 BEV & 2014/2015 BMW i3 REx". fueleconomy.gov. Cyrchwyd 2015-12-06.
- ↑ Antony Ingram (2014-05-21). "2014 BMW i3 REx Window Sticker Revealed, 39 MPG On Gasoline: BREAKING". Green Car Reports. Cyrchwyd 2014-05-25. See details in EPA window sticker
- ↑ Jack Ewing (2010-07-29). "Will Plug-In BMWs Turn Enthusiasts On?". New York Times. Cyrchwyd 2010-10-02.
- ↑ Jay Cole (2013-02-26). "First BMW i3 Electric Car Test Ride, 2.3 Gallon Range Extender Option To Cost About $4,000". Inside EVs. Cyrchwyd 2013-07-05.
- ↑ Tom Murphy (2010-05-19). "Mini E Only Beginning of BMW EV Strategy". Wards Auto. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-24. Cyrchwyd 2010-06-13. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Gweler Top Gear: New Car Buyers Gide; tud. 275.