Asaph
Asaph | |
---|---|
Ganwyd | 6 g Yr Hen Ogledd |
Bu farw | 1 Mai 601 Llanelwy |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | offeiriad |
Blodeuodd | 600 |
Swydd | esgob |
Dydd gŵyl | 1 Mai |
Tad | Sawyl Ben Uchel |
Roedd Sant Asaph (neu Asa) (fl. ail hanner y 6g) yn sant a fu ail esgob Llanelwy, yn ôl traddodiad, gan ddilyn Sant Cyndeyrn (Mungo) fel pennaeth yr eglwys gynnar yn yr esgobaeth honno.
Traddodiadau
[golygu | golygu cod]Nid oes buchedd Gymreig amdano wedi goroesi, ond mae traddodiadau lleol yn ardal Llanelwy yn cofnodi coeden gysegredig iddo (Onnen Asa), Ffynnon Asa, Llanasa, a Pantasaph. Lleolir y llefydd hyn yn hen dalaith Tegeingl (Sir y Fflint), sy'n awgrymu y bu gan y sant gell feudwy yn yr ardal. Yn ôl Bonedd y Saint roedd yn fab i Sawyl Penuchel o'r Hen Ogledd.
Buchedd
[golygu | golygu cod]Ceir manylion pellach ym Muchedd Sant Cyndeyrn, a ysgrifennwyd ar gyfer Jocelin o Furness, esgob Glasgow, yn yr Oesoedd Canol. Pan alltudiwyd Cyndeyrn o ardal Ystrad Clud (tua 545) ffoes i ogledd-ddwyrain Cymru lle sefydlodd clas yn Llanelwy. Dywedir mai adeilad pren oedd y clas. Yno bu gan y sant 965 o ddisgyblion, ac yn eu plith Asaph. Fe'u rhanwyd yn dri grwp: 300 o fynachod heb fedru darllen i weithio ar y tir, 300 i weithio o gwmpas y clas, a 365 i ofalu am wasanaethau crefyddol (un am bob dydd o'r flwyddyn). Rhanwyd y grwp olaf yn dri chôr a ganai'r naill ar ôl y llall yn ddibaid.
Roedd Cyndeyrn yn arfer gwneud penyd trwy sefyll mewn afon rhewllyd. Ar un achlysur bu hynny'n ormod iddo, ac anfonodd ei was, yr Asaph ifanc, i nôl darn o bren i'w losgi er mwyn ei gynhesu. Daeth Asaph â llwyth o lo llosg yn ei ffedog, a datgelodd y wyrth hon sancteiddrwydd Asa i Cyndeyrn. Felly pan ddychwelodd yr hen sant i Ystrad Clud, ar ôl Brwydr Arfderydd, yn 573, cysegrwyd Asaph yn esgob i'w olynu. Dywedir iddo farw ar Galan Mai, 601.
1 Mai yw gwylmabsant Asaph, ar ôl dyddiad traddodiadol ei farwolaeth.