Afon Iwrch
Gwedd
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.81°N 3.27°W |
Afon fach ym Maldwyn, Powys, yw Afon Iwrch, sy'n un o lednentydd Afon Tanad.
Mae'n ymuno ag Afon Tanad fymryn i'r de o bentref Llanrhaeadr-ym-Mochnant ar ôl llifo o'i tharddle yn y bryniau.
Math o garw bychan bywiog yw iwrch (Capreolus capreolus).[1] Mae enw'r afon yn awgrymu y bu iyrchod yn gyffredin yn yr ardal yn y gorffennol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, Cyfrol II.