# Macsen - Ap cynorthwyydd llais Cymraeg / Welsh language voice assistant app. [click here to read this page in English](README_en.md) Mae Macsen yn ap cynorthwyydd llais Cymraeg cod agored ar gyfer ffonau symudol a thabledi Android ac iOS. Mae’n bosib siarad ar lafar gyda ap Macsen mewn Cymraeg naturiol er mwyn ofyn iddo gwblhau tasgau neu ofyn am wybodaeth. Rydyn ni’n defnyddio’r project hwn i ddangos beth allwn ni greu wrth ddatblygu technoleg lleferydd a deallusrwydd artiffisial Cymraeg. Rydym yn cyhoeddi’r cydrannau a’r adnoddau perthnasol yma yn agored yma ar GitHub, er mwyn i ddatblygwyr eraill hefyd fedru’u defnyddio. Rydyn ni wrthi yn gwneud ymchwil pellach i’w wella, a’i alluogi mewn sefyllfaoedd eraill. Get it on Google Play ## Sgiliau Hyd yn hyn, mae gan ap Macsen 8 sgìl: – Darllen y **newyddion** – Adrodd am y **tywydd** – Chwarae **cerddoriaeth Cymraeg** ar Spotify – Gosod **larwm** – Dweud yr **amser** – Rhoi’r **dyddiad** – Darllen brawddegau cyntaf erthyglau o **Wicipedia Cymraeg** – Dangos rhaglenni teledu drwy gwefan **Clic S4C** ## Pensaernïaeth Macsen yn syml Mae ap Macsen yn defnyddio nifer o gydrannau gwahanol sy'n gweithredu ar y ddyfais a dros y we. Wedi i chi ofyn ar lafar i Macsen am gymorth, defnyddir yn gyntaf adnabod lleferydd Mozilla DeepSpeech i drosi’r hyn yr ydych yn ei ddweud i destun. Yn dilyn hynny, mae technoleg adnabod bwriad, fel y gwelir mewn sgwrsfotiaid, yn ceisio deall o'r testun os yw'r cais am newyddion, y tywydd, cerddoriaeth neu un o’r sgiliau eraill. Wedi iddo ddeall y bwriad, mae'r meddalwedd yn ceisio ffurfio ymateb drwy estyn data o API drydydd parti (e.e. tywydd heddiw o ddarpariaeth API OpenWeatherMap) ac/neu cynhyrchu brawddegau iaith naturiol sy'n cynnwys y wybodaeth a ofynnwyd am. Yna er mwyn ateb ar lafar, mae’n gwneud hynny drwy ddefnyddio technoleg testun-i-leferydd Cymraeg a ddwyieithog i lefaru’r ymateb priodol. Mae rhagor o wybodaeth am y technolegau hyn a’r Gymraeg ar gael yn y [Llawlyfr Technolegau Iaith](https://www.porth.ac.uk/cy/collection/llawlyfr-technolegau-iaith) a gyhoeddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. ## Defnyddio cod Macsen Mae holl adnoddau Macsen, o'r cod Flutter yn y repo hwn, i'r sgriptiau hyfforddi modelau adnabod lleferydd a bwriad, i'r lleisiau testun-i-leferydd yn god agored ac ar gael i ddatblygwyr a sefydliadau i addasu ac ehangu Macsen eu hunain, defnyddio o fewn sgwrfotiaid a cynorthwyon eraill neu unrhyw fath o broject trawsnewid digidol. Ewch i'r ddogfennaeth ar gyfer datblygwyr os hoffech chi ddysgu rhagor. ## Cyfrannu lleisiau Rydym yn dal wrthi yn gwella’r nodweddion lleferydd, ac os hoffech chi, gallwch ein helpu i’w wella yn y dyfodol drwy gyfrannu recordiadau o’ch llais. Gallwch wneud hyn o fewn yr ap drwy glicio ar Hyfforddi yno. Bydd hyn yn eich arwain i ddarllen yn uchel y brawddegau sy’n cael eu hadnabod ar gyfer pob sgìl yn yr ap. Byddwn yn defnyddio’r recordiadau hyn i greu setiau datblygu a setiau profi ar gyfer hyfforddi’r adnabod lleferydd. Os ydych am gyfrannu mwy na hyn, ewch i wefan CommonVoice Mozilla i recordio brawddegau ar gyfer y casgliad mawr o recordiadau. ## Diolchiadau Ariannwyd yr ap a’r gwaith adnabod lleferydd gan Lywodraeth Cymru, ac rydym yn diolch iddyn nhw ac i’r gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn cyfrannu eu lleisiau i wella technoleg lleferydd. Diolch hefyd i Golwg360, Wicipedia ac i S4C am eu cymorth a chydweithrediad. ## Cydnabyddiaeth a Chyfeirio Os defnyddiwch chi'r adnodd hwn, gofynnwn yn garedig i chi gydnabod a chyfeirio at ein gwaith. Mae cydnabyddiaeth o'r fath yn gymorth i ni sicrhau cyllid yn y dyfodol i greu rhagor o adnoddau defnyddiol i'w rhannu. Gwelir rhagor o wybodaeth ar http://techiaith.cymru/macsen