Skip to content

Latest commit

 

History

History
30 lines (17 loc) · 2.04 KB

README.md

File metadata and controls

30 lines (17 loc) · 2.04 KB

Creu lleisiau testun-i-leferydd eich hunain

Yma ceir adnoddau ar gyfer hyfforddi lleisiau testun i leferydd Cymraeg a ddwyieithog eich hunain. Er bod lleisiau ar gael gan uned technolegau iaith prifysgol Bangor, mae'n bosib eich bod eisio llais â hunaniaeth wahanol neu'n sy'n ynganu'n well o fewn parth penodol.

Mae'r ffolder hwn yn cynnwys sawl 'rysait' rydym yn defnyddio ar gyfer cynhyrchu sgriptiau recordio ac i hyfforddi leisiau MaryTTS newydd.

Gweler:

  • egs/wispr - sgriptiau i lwytho lawr data recordiadau Corpws WISPR a hyfforddi.
  • egs/lleisiwr - sgriptiau hyfforddi gyda recordiadau gwefan https://lleisiwr.techiaith.cymru
  • egs/commonvoice - sgriptiau sy'n cynhyrchu sgriptiau recordio gyda brawddegau CC-0 CommonVoice Cymraeg a Saesneg.
  • egs/talentau-llais - sgriptiau i lwytho lawr recordiadau gan dalentau llais ac yna hyfforddi.

Y dull mwya hwylus, sydd dim angen gosod unrhyw feddalwedd yn lleol ar eich cyfrifiadur yw defnyddio'r gwasanaeth Lleisiwr, sef gwefan bancio lleisiau. Gellir defnyddio'r wefan i recordio brawddegau wedi'i dewis gan yr uned technolegau iaith ac yna clicio botwm i gynhyrchu llais TTS ddwyieithog Cymraeg a Saesneg newydd ac yna i'w ddefnyddio gyda blwch testun neu drwy API. Ewch i https://lleisiwr.techiaith.cymru neu cysylltwch â [email protected].

HTK

Mae'r meddalwedd adeiladu lleisiau angen cod y llyfrgell HTK i gynhyrchu modelau acwstig. Cofrestrwch ar wefan http:https://htk.eng.cam.ac.uk, creu enw defnyddiwr a chyfrinair, ac yna defnyddiwch y gorchmynion canlynol i lwytho'r cod i lawr:

$ wget --user <eich enw defnyddiwr HTK> --ask-password http:https://htk.eng.cam.ac.uk/ftp/software/HTK-3.4.1.tar.gz

$ wget --user <eich enw defnyddiwr HTK> --ask-password http:https://htk.eng.cam.ac.uk/ftp/software/HTK-samples-3.4.1.tar.gz

Bydd yn gofyn am eich cyfrinair yn y man.

Bydd ddwy ffeil, HTK-3.4.1.tar.gz a HTK-samples-3.4.1.tar.gz yn bodoli o fewn y cyfeiriadur 'voicebuilder'

Cysylltu

Cysylltwch â [email protected] os hoffwch chi creu a ddefnyddio testun-i-leferydd fwy parth benodol.