Tom Dice
Tom Dice | |
---|---|
Ganwyd | 25 Tachwedd 1989 Eeklo |
Label recordio | Q2185545, Universal Music Group, Armada |
Dinasyddiaeth | Gwlad Belg |
Galwedigaeth | canwr, gitarydd |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd |
Gwefan | https://www.sonicangel.com/artist/tomdice |
Canwr [o Wlad Belg yw Tom Dice (ganwyd Tom Eeckhout). Enillodd fe'r ail safle ar fersiwn Fflemeg The X Factor yn 2008. Cynrychiolodd Dice ei famwlad yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2010.
Hanes
[golygu | golygu cod]Dysgodd Dice i chwarae'r gitâr pan oedd e'n blentyn, ac ysgrifennodd ganeuon ei hun cyn ymuno â'r grŵp The Dice, Tom Eeckhout Dice oedd ei enw llwyfan. Yn 2008 cystadlodd Dice yn yr X Factor Fflandrys a, gyda'i hyfforddwr Maurice Engelen, daeth e'n ail yn y gystadleuaeth. Ar ôl X Factor, ymunodd Dice â'r label recordio SonicAngel, yr artist cyntaf y label, ac o dan ei enw llwyfan, Tom Dice, rhyddhaodd ei sengl gyntaf sydd yn fersiwn acwstig o "Bleeding Love" gan Leona Lewis. Enillodd y sengl safle 7 yn y siart Fflandrys ac arhosodd y gân yn y siart am 14 wythnos. Rhyddhaodd Dice ei albwm cyntaf, Teardrops, ar 30 Ebrill 2010.
Eurovision 2010
[golygu | golygu cod]Ar 25 Tachwedd 2009, dewiswyd Dice gan ddarlledwr Fflemeg Vlaamse Radio - en Televisieomroep (VRT) i gynrychioli Gwlad Belg yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2010 yn Oslo, Norwy. Roedd ymateb cymysg yng Ngwlad Belg i'r dewis oherwydd oedd y dewis yn fewnol.[1]
Cyhoeddwyd y gân i Eurovision Tom Dice, "Me and My Guitar", ar 7 Mawrth 2010, ysgrifennodd Ashley Hicklin, Jeroen Swinnen a Dice y gân. Enillodd y gân rhif un yng Ngwlad Belg, yn y siart iTunes ac yn y siart swyddogol.[2] Perfformiodd Dice yn y rownd gynderfynol cyntaf yn Oslo ar 25 Mai 2010. Enillodd y rownd ac aeth ymlaen i'r rownd derfynol, yr artist cyntaf o Wlad Belg i wneud hyn ers Eurovision 2004. Gorffennodd Dice gyda safle chweched, un o'r lleoliadau golau Gwlad Belg yn y gystadleuaeth.
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]Albymau
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Albwm | Lleoliadau siart | |
---|---|---|---|
BEL (FFLA) |
BEL (WAL) | ||
2010 | Teardrops[3]
|
13 | — |
Senglau
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Sengl | Lleoliadau siart[4] | Albwm | |
---|---|---|---|---|
BEL (FLA) |
BEL (WAL) | |||
2009 | "Bleeding Love"[5] | 7 | — | Teardrops |
2010 | "Me and My Guitar"[6] | 1 | 18 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol Archifwyd 2010-02-16 yn y Peiriant Wayback (Iseldireg)
- Myspace Tom Dice