Sandy Casar
Sandy Casar | |
---|---|
Ganwyd | 2 Chwefror 1979 Mantes-la-Jolie |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | seiclwr cystadleuol |
Taldra | 179 centimetr |
Pwysau | 63 cilogram |
Gwobr/au | Marchog Urdd Teilyngdod Cenedlaethol |
Gwefan | https://sandy.casar.club.fr/Index.htm |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Groupama-FDJ |
Safle | dringwr |
Seiclwr proffesiynol o Ffrainc ydy Sandy Casar (ganed 2 Chwefror 1979). Ganwyd yn Mantes-la-Jolie, Yvelines. Mae'n reidio dros dîm Française des Jeux.
Mae Casar wedi reidio dros dîm Française des Jeux ers iddo droi'n broffesiynol yn 2000. Cyn nyn, bu'n reidio fel amatur ar yng nghlwb Jean Floch/Mantes.
Daeth Casar i'r amlwg pan ddaeth yn ail yn ras Paris-Nice 2002, roedd ond yn 23 oed ar y pryd. Gorffeneodd yn 13ydd safle yn Giro d'Italia 2003, o flaen Marco Pantani. Ei gamp mwyaf hyd yn hyd oedd i ennill cymal yn Tour de Suisse 2003. Gorffennodd yn 14ydd yn Tour de France 2004 a gwisodd Crys Gwyn y reidiwr ifanc gorau am gyfnod. Daeth yn 6ed yn Giro d'Italia 2006, 25 munud tu ôl i'r enilllydd Ivan Basso.
Ar 27 Gorffennaf 2007, tarodd Sandy Casar gi ond aeth ymlaen i ennill ei gymal cyntaf yn y Tour de France.
Canlyniadau
[golygu | golygu cod]- 2002
- 1af Cymal 4, Circuit Franco-Belge
- 2il Paris-Nice
- 1af Dosbarthiad Reidiwr Ifanc
- 3ydd Paris-Camembert
- 2003
- 1af Cymal 4, Tour de Suisse
- 2il GP Le Télégramme
- 2004
- 1af Cymal 2, Tour du Poitou Charentes et de la Vienne
- 2il Route du Sud
- 2005
- 1af Route du sud
- 2007
- 1af Cymal 18, Tour de France
- 2009
- 1af Cymal 16, Tour de France
- 2010
- 1af Cymal 9, Tour de France
- 2011
- 1af Paris-Camembert
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol Archifwyd 2006-12-03 yn y Peiriant Wayback
- Bywgraddiad ar wefan Française des Jeux
- Proffil ar wefan cyclingwebsite.net Archifwyd 2008-10-11 yn y Peiriant Wayback