Neidio i'r cynnwys

Holland Roden

Oddi ar Wicipedia
Holland Roden
Ganwyd7 Hydref 1986 Edit this on Wikidata
Dallas Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor, actor teledu, actor ffilm Edit this on Wikidata

Mae Holland Marie Roden (ganed 7 Hydref 1986) yn actores Americanaidd sy'n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Lydia Martin ar y rhaglen deledu MTV Teen Wolf,[1] ac fel Zoe Woods yn y gyfres Channel Zero: Butcher's Block.

Ymhlith ei gwaith cynnar roedd Lost (2008) a Bring It On: Fight to the Finish.[2] Rhwng 2008–10 ymddangosodd mewn cyfresi teledu.

Magwraeth a choleg

[golygu | golygu cod]

Cafodd ei geni a'i magu yn Dallas, Texas, a thynnwyd Holland at y celfyddydau pan oedd yn ifanc. Wedi'i denwyd gan "Frenhines Lloegr" pan oedd yn ddim ond chwe mlwydd oed.[angen ffynhonnell] Cymerodd Holland ei chariad i berfformio un cam ymhellach ac ymrestru mewn gwersylloedd theatr yn ogystal â dosbarthiadau actio i hybu ei hangerdd ymhellach. Fodd bynnag, gwyddoniaeth a ddaeth â hi i Los Angeles gan ddilyn ei theulu ym myd meddygaeth. Astudiodd y pwnc am dair blynedd gyda'r bwriad o ddod yn llaw feddyg, ond gadawodd er mwyn dilyn gyrfa fel actores.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. https://www.imdb.com/name/nm1555699/bio?ref_=nm_ov_bio_sm
  2. "Holland Roden to star on Lost". PR Newswire. Medi 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Awst 22, 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)