Neidio i'r cynnwys

Cog

Oddi ar Wicipedia
Cog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Cuculiformes
Teulu: Cuculidae
Genws: Cuculus
Rhywogaeth: C. canorus
Enw deuenwol
Cuculus canorus
(Linnaeus, 1758)
Cuculus canorus canorus + Acrocephalus arundinaceus
Cuculus canorus bangsi + Phoenicurus moussieri

Aderyn sy'n aelod o Urdd y Cuculiformes yw'r gog (lluosog: cogau) neu'r gwcw (lluosog: cwcwod) (Cuculus canorus). Enw'r teulu yw Cuculidae (teulu'r cogau).[1][2]

Mae'r gog yn nythu ar draws rhannau helaeth o Ewrop ac Asia, ac yn gaeafu yn Affrica. Un o nodweddion enwocaf yr aderyn yw ei fod yn dodwy ei wyau yn nyth rhywogaeth arall o aderyn, yn arbennig Llwyd y Gwrych, Corhedydd y Waun a Telor y Cyrs. Enw arall ar Gorhedydd y Waun yw "Gwas y Gog". Gall cyw'r gog daflu'r cywion eraill o'r nyth, i sicrhau ei fod ef yn cael yr holl fwyd.

Mae'n aderyn cymharol fawr, llwyd o ran lliw, a gall edrych yn debyg iawn i aderyn ysglyfaethus o gael cipolwg arno'n hedfan. Daw'r enw "cwcw" o alwad yr aderyn.

Er fod y gog yn parhau yn aderyn cymharol gyffredin yng Nghymru, mae ei niferoedd wedi gostwng dros yr ugain mlynedd diwethaf. Mae'n cyrraedd o Affrica tua chanol Ebrill fel rheol, ac mae clywed y gog yn cael ei ystyried yn arwydd o wanwyn. Caiff Clychau'r Gog eu henw oherwydd eu bod yn blodeuo yn yr un cyfnod.

  • Wrth glywed y gog yn canu Eira Mawr 17 Mai 1935, canodd y bardd Ioan Brothen[3] ar ôl cyfnod o eira hwyr.
Hynod wrol aderyn - yn y storm
Cenaist ti heb ddychryn;
Methodd iâ ac eira gwyn
Niweidio dy ddau nodyn
  • Ffordd o ddweud....heb ddweud!
Llwydcoed Notes. BY MARCELLO. Jim declares that he heard the cuckoo late on Saturday night [18 Mawrth 1916]. On the previous Saturday night he had seen two milestones close together on Hirwain Road[4]

Statws y boblogaeth

[golygu | golygu cod]

Y 19eg ganrif

[golygu | golygu cod]

Y gog yn gyffredin ymhoban yn ôl Forrest[5]

Yr 20ed ganrif

[golygu | golygu cod]

Ceir cogau o'r cynefinoedd uchaf i lawr i'r twyni tywod arfordirol er iddynt weld trai sylweddol ers y 1950au, oherwydd newidiadau yn y drefn amaethyddol sydd wedi effeithio yn uniongyrchol ar y cogau ond hefyd ar yr adar lletyol sydd yn eu cynnal. Roedd difrifoldeb y trai yng Nghymru yn ôl Lovegrove ac eraill yn anodd i'w asesu oherwydd diffyg data penodol[6].

Yr 21ain ganrif

[golygu | golygu cod]
Dosbarthiad fesul categor (0-3) niferoedd y cogau clywyd o erddi domestig dros Gymru yn ystod Caethiwio Covid-19 hyd 10 Mai 2020

Yn ystod cyfnod unigryw Cofid-19 yng ngwanwyn 2020 pan gafodd mwyafrif poblogaeth Cymru (a'r byd i gyd o ran hynny) eu caethiwo yn eu cartrefi o ail hanner mis Mawrth ymlaen, penderfynwyd cynnal ar Cymuned Llên Natur (Facebook) arolwg i statws y gog yng Nghymru trwy fanteisio ar yr amodau arbennig hyn. A beth oedd yr amodau?:- a) pawb yn gaeth i'w cartrefi a'i gerddi am amser hir (felly samplo cyson), b) arolygon o dywydd braf (cysoder amodau) a wireddwyd, c) y mwyafrif yn gyfarwydd â chân y gog, ac ch) poblogrwydd nodi'r 'cwcw gyntaf' a'r llên gwerin yn gysylltiedig â hynny. Prif fantais y sefyllfa hon oedd y cyfle gafwyd i bobl nodi faint o gogau y clywson nhw dros gyfnod penodol (gan gynnwys 'dim cogau')[7]. Dengys y canlyniadau ar y map yn gryno, bod y gog yn dal ei thir yn dda yn yr ucheldir rhwng, er enghraifft, Dolgellau a'r Bala ac ar grugdir Uwch Gwyrfai, Arfon, ond mae ei absenoldeb ym Môn, a gwastadeddau Arfon a Llŷn yn drawiadiol, gyda sefyllfa wan yn cael ei awgrymu ar sail llai o ddata yn y de orllewin ac yng Nghlwyd. Ymarferiad Gwyddoniaeth y Dinesydd (Citizen Science[2]) oedd hwn. Efallai mai arwyddocad fwyaf yr ymarferiad yw dangos potensial y cyfryngau cymdeithasol Cymraeg a Chymreig i amlygu patrymau naturiol.

Ffenoleg

[golygu | golygu cod]
Graff yn dangos ‘dyddiadau cyntaf’ clywed y gog o 1788 i’r presennol o amrywiol gofnodion (Cymreig gan mwyaf)

Er fod poblogaeth y gog yng Nghymru wedi dirywio'n arw dros y ugain mlynedd diwethaf nid oes tystiolaeth (fel a geir yn achos rhai mewnfudwyr eraill o'r deheuau megis y gwybedog brith) bod ei ffenoleg wedi newid dros y tair canrif y mae data ar gael. Dyma graff yn dangos faint o ddyddiau ar ôl 1af Ebrill y clywyd y gog gyntaf mewn 19 o wahanol flynyddoedd ers 1788. Dengys y llinell wastad trwy’r cofnodion cysondeb rhyfeddol yn y dyddiad y mae'r gog yn ein cyrraedd ym Mhrydain.[8]

Roedd Thomas Bewick o Northumberland, a luniodd ysgythriad enwog o'r gog [3], yn arlunio ddechrau’r 19eg ganrif ac yn gwybod, diolch iddo lythyru gyda’r naturiaethwyr mawr o Gymro Thomas Pennant a’r Sais Gilbert White, bod adar yn mudo. Meddai Thomas Bewick: The Cuckoo visits us in spring, the well known cry of the male is commonly heard about the middle of April, and ceases at the end of June: its stay is short, the old birds quitting this country early in July (fe ddaliodd White at yr hen goel mai gaeafu trwy ymgladdu mewn mwd a wnaent).

Rhai rhywogaethau yn yr un teulu

[golygu | golygu cod]

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Ani llyfnbig Crotophaga ani
Ani mawr Crotophaga major
Ani rhychbig Crotophaga sulcirostris
Cog bigddu Coccyzus erythropthalmus
Cog bigfelen Coccyzus americanus
Cog ddaear gennog y Dwyrain Neomorphus squamiger
Cog fadfallod Puerto Rico Coccyzus vieilloti
Cog fadfallod fawr Coccyzus merlini
Cog fron berlog Coccyzus euleri
Cog frongoch Hispaniola Coccyzus rufigularis
Cog fygydog Coccyzus melacoryphus
Cog mangrof Coccyzus minor
Rhedwr Geococcyx californianus
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Ericson, P.G.P. et al. (2006) Diversification of Neoaves: integration of molecular sequence data and fossils Archifwyd 2008-03-07 yn y Peiriant Wayback. Biology Letters, 2(4):543–547
  2. Hackett, S.J. (2008). "A Phylogenomic Study of Birds Reveals Their Evolutionary History". Science 320 (5884): 1763–1768. doi:10.1126/science.1157704. PMID 18583609.
  3. Llinell neu Ddwy (cyfrol deyrnged Ioan Brothen 1942)
  4. Aberdare Leader 25 Mawrth 1916
  5. Forrest, H.E.(1907) The Fauna of North Wales (Llundain, Witherby)
  6. Lovegrove ac eraill (1994) Birds in Wales (Poyser)
  7. [1](yn y wasg tan Gorffennaf 2020)
  8. Seiliedig ar ddata Tywyddiadur Llên Natur