Cnocell werdd
Cnocell werdd Picus viridis | |
---|---|
Duration: 57 seconds. | |
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Piciformes |
Teulu: | Picidae |
Genws: | Picus[*] |
Rhywogaeth: | Picus viridis |
Enw deuenwol | |
Picus viridis | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Cnocell werdd (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: cnocellau gwyrddion) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Picus viridis; yr enw Saesneg arno yw Green woodpecker. Mae'n perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae) sydd yn urdd y Piciformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain gan gynnwys yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn P. viridis, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Cnocell weddol fawr o ran maint yw'r Gnocell Werdd, tua 30–36 cm o hyd a 45–51 cm ar draws yr adenydd. Fel yr awgryma'r enw, aderyn gwyrdd ydyw, gyda gwyrdd-felyn goleuach ar y bol. Mae'n byw mewn coedwigoedd bychain gyda gwrychoedd a thir agored gerllaw; ac mae poblogaeth dda o forgrug yn bwysig iddo. I nythu, mae'n torri twll hyd at droedfedd o ddyfnder mewn pren marw neu feddal, twll mwy na'r rhan fwyaf o'r cnocellod eraill.
Ceir niferoedd sylweddol o'r gnocell yma yng Nghymru, er ei fod yn llai cyffredin na'r Gnocell Fraith Fwyaf.
Teulu
[golygu | golygu cod]Mae'r cnocell werdd yn perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Cnocell Fawr America | Dryocopus pileatus | |
Cnocell Folwen | Dryocopus javensis | |
Cnocell Guayaquil | Campephilus gayaquilensis | |
Cnocell Magellan | Campephilus magellanicus | |
Cnocell Schulz | Dryocopus schulzii | |
Cnocell biglwyd | Campephilus guatemalensis | |
Cnocell braff | Campephilus robustus | |
Cnocell ddu | Dryocopus martius | |
Cnocell fronrhudd | Campephilus haematogaster | |
Cnocell fwyaf America | Campephilus principalis | |
Cnocell gopog gefnwen | Campephilus leucopogon | |
Cnocell gorunllwyd | Yungipicus canicapillus | |
Cnocell ymerodrol | Campephilus imperialis |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/https://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.