Bwa saeth
Delwedd:Bow and arrow at Bolga.jpg, Brazilarcher.jpg, Tambo ne lɔgɔ.jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | weapon functional class |
---|---|
Math | sporting weapon, ranged weapon, grŵp, neuroballistic weapon |
Dyddiad cynharaf | Mileniwm 9. CC |
Yn cynnwys | bow, arrow |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Arf i ladd person neu anifail yw bwa saeth; caiff ei ddefnyddio ar gyfer hela neu ryfel neu mewn gemau cystadleuol. Gelwir yr wyddor neu'r grefft o saethu gyda bwa saeth yn saethyddiaeth. Fe'i defnyddir ers cynhanes, gan bron pob diwylliant yn y byd. Hoff fwa'r Cymry oedd y bwa hir, ac ystyrir saethwyr Cymreig ymhlith y gorau drwy Ewrop yn yr Oesoedd Canol. Mae saethyddiaeth yn un o'r gemau Olympaidd modern.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Mae'r bwa wedi'i wneud o ddeunydd hyblyg, er mwyn saethu'r saeth at y targed. Yn draddodiadol, yng Nghymru, pren yr ywen a ddefnyddid fel arfer. Ceir llinyn sy'n cysylltu dau ben y bwa, ac ar y llinyn hwn y rhoddir y saethau. Tynnir y llinyn yn ei ôl, i gyfeiriad y saethwr, gyda'r bysedd yn dal y saeth yn sownd ynddo. Yna, rhyddheir y bysedd, a gwelir ynni potensial y bwa crwm yn cael ei drosglwyddo i'r saeth wrth iddo deithio drwy'r awyr.[1][2]
Mae ei ddefnydd wedi lleihau'n arw ers i bowdwr gwn a gynnau gael eu dyfeisio.
Mewn llenyddiaeth
[golygu | golygu cod]Ceir llawer o gyfeiriadau i'r bwa saeth, gan gynnwys ym Marwnad Siôn y Glyn gan Lewis Glyn Cothi a ganodd:
- bwa o flaen y ddraenen,
- cleddau digon brau o bren...
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Ceir Teulu mawr o wyfynod o'r enw Noctuidae, sy'n cynnwys nifer o fwâu e.e. Bwâu duon y meillion, Bwâu mawr a Bwâu duon lleiaf.